Beth yw'r Broses Glirio?

Mae clirio yn gyfle arall i ddod o hyd i brifysgol a chwrs sy'n addas i chi.

Os na chawsoch y canlyniadau yr oeddech chi’n eu disgwyl, os ydych chi wedi newid eich meddwl am beth neu ble rydych chi eisiau astudio, neu os ydych chi'n gwneud cais am y tro cyntaf, gallwch fanteisio ar y broses Glirio. Beth bynnag fo’ch rheswm, dyma'ch cyfle i ailystyried, ail-ganolbwyntio, a chymryd rheolaeth o'ch cam nesaf.

Pryd mae’r Clirio yn dechrau?  

Mae'r broses glirio yn agor ar Ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf ac yn cau ar Ddydd Llun, 20 Hydref 2025.

 

Pwy sy'n gymwys i fynd drwy’r broses Glirio?  

Gallwch wneud cais trwy’r broses Glirio os:

  • ydych chi'n gwneud cais ar ôl 30 Mehefin
  • na wnaethoch fodloni amodau’ch cynigion
  • na wnaethoch chi dderbyn unrhyw gynigion (neu unrhyw gynigion yr oeddech chi eisiau eu derbyn)
  • ydych chi wedi newid eich meddwl am eich cwrs, prifysgol, neu gynigion presennol

 

Sut alla i ddarganfod pa gyrsiau sydd ar gael yn y broses Glirio?

Bydd y rhan fwyaf o gyrsiau Clirio yn cael eu rhestru ar wefan UCAS, gan gynnwys eu gofynion mynediad.

Mae hefyd yn syniad da gwirio gwefannau prifysgolion yn uniongyrchol. Yn aml mae ganddynt yr wybodaeth fwyaf diweddar am y cyrsiau, llety, bywyd myfyriwr, a'r cymorth sydd ar gael.

Cymerwch olwg yma i ddysgu mwy am y broses o wneud cais trwy Glirio.