Straeon Llwyddiant Clirio
Mae nifer o fyfyrwyr yn sicrhau lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy Glirio bob blwyddyn. Dyma brofiad un o'n myfyrwyr o fynd drwy’r broses Glirio a dewis Aberystwyth fel eu lle i astudio.
Effie: BA Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
"Wrth edrych yn ôl, rydw i mor falch fy mod wedi mentro. Trodd yr hyn a ddechreuodd fel cyfnod o straen ac ansicrwydd yn brofiad cadarnhaol a thrawsnewidiol, a nawr rwy wir yn teimlo fy mod i’n perthyn i Aberystwyth."
I ddechrau, fe wnes i gais i astudio Ffrangeg a Hanes Ewropeaidd mewn prifysgolion eraill, ond aeth pethau yn groes i’r disgwyl. Roeddwn i'n cael trafferthion yn ystod cyfnod fy Safon Uwch ac ni chefais y graddau roeddwn i wedi gobeithio amdanynt mewn dau bwnc. O ganlyniad, cefais fy ngwrthod o bob prifysgol roeddwn i wedi gwneud cais iddynt. Roedd hi’n amser siomedig ac ansicr iawn i mi.
Yr hyn a’m denodd i gyntaf at Aberystwyth oedd harddwch y dref ei hun. Roedd y lleoliad mor syfrdanol nes i mi benderfynu edrych i weld pa gyrsiau oedd ar gael i mi trwy’r broses Glirio. Deuthum ar draws y cwrs Ysgrifennu Creadigol, ac roedd yr elfen farddoniaeth yn arbennig o ddiddorol. Er mwyn dysgu mwy, mi ddes i ar Ymweliad Clirio a dod â fy mam gyda mi am gefnogaeth.
Roedd yr ymweliad yn hanfodol wrth i mi wneud penderfyniad. Roedd y ddwy ohonom wedi mwynhau'r diwrnod yn fawr; roedd yn hynod werthfawr o ran yr wybodaeth a roddwyd i ni ac roedd yn galonogol iawn. Roedd siarad â staff o wahanol adrannau wedi fy helpu i ddeall fy opsiynau gan wneud i mi deimlo'n fwy hyderus ynghylch dechrau o’r newydd.
Llety oedd un o fy mhrif bryderon. Gofynnais am lety addas i bobl anabl a derbyniais gyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol. Cefais gyngor i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), ac yn y pen draw dyma a’i gwnaeth hi’n bosib imi sicrhau lle yn Fferm Penglais a oedd yn llawer mwy addas i'm hanghenion.
Fel unrhyw newid mawr, roedd cychwyn y cwrs yn heriol ar y dechrau. Ond roedd hyn yn ymwneud mwy â fy mhryderon fy hun nag â chynnwys y cwrs. Ers newid o Ffrangeg ac Ysgrifennu Creadigol i Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, mae fy astudiaethau wedi bod yn llawer mwy pleserus a diddorol. Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i dderbyn gan staff a chyd-fyfyrwyr yn Aberystwyth wedi bod yn allweddol wrth fy helpu i oresgyn y rhwystrau cychwynnol hynny.
Pe bawn i'n gallu rhoi un cyngor da ar gyfer Clirio, trwy garedigrwydd fy mam, dyma fyddai’r cyngor: peidiwch ag oedi. Po hiraf y byddwch chi'n aros cyn rhoi pethau yn eu lle, y mwyaf llethol fydd y dasg. Er efallai y byddwch chi'n teimlo dan straen neu'n siomedig ar y dechrau, mae'n well gweithredu'n gyflym. Wrth drefnu eich proses Glirio'n gynnar bydd gennych rywbeth cyffrous i edrych ymlaen ato yn hytrach na phendroni dros yr anawsterau.
Wrth edrych yn ôl, rydw i mor falch fy mod wedi mentro. Trodd yr hyn a ddechreuodd fel cyfnod o straen ac ansicrwydd yn brofiad cadarnhaol a thrawsnewidiol, a nawr rwy wir yn teimlo fy mod i’n perthyn i Aberystwyth.