Christine (Chris) Wilkins
Gyda thristwch mawr y rhannwn y newyddion am farwolaeth Mrs Christine (Chris) Wilkins ar 4 Rhagfyr 2025.
Ar ôl cwblhau ei gradd Almaeneg a’i chwrs hyfforddi athrawon yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fel y’i gelwid ar y pryd, ymunodd Chris â Llyfrgell Gwyddorau Gwledig Coleg Prifysgol Cymru am y tro cyntaf ym 1971, gan weithio yno tan 1982. Daeth yn ôl i'r Brifysgol ym 1990 fel Cynorthwyydd Llyfrgell yn Llyfrgell Hugh Owen pan oedd ei phlant, Claire a Nick, yn hŷn. Drwy gydol ei gyrfa, roedd Chris yn ymroddedig i gefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i'r llyfrau, y cyfnodolion a'r adnoddau a oedd eu hangen arnynt ar gyfer eu hastudiaethau.
Croesawodd y trawsnewidiad i’r gwasanaethau llyfrgell o ddechrau’r 1990au ymlaen, gan symud yn hyderus o’r catalogau cardiau printiedig i’r systemau ar-lein cyntaf a chronfeydd data deialu megis BIDS, ac yn ddiweddarach at yr amrywiaeth eang o e-lyfrau, e-gyfnodolion ac adnoddau digidol a ddefnyddir heddiw. Roedd Chris bob amser yn cynnig cymorth caredig, amyneddgar a gwybodus i fyfyrwyr, gan fynd yr ail filltir i helpu gydag ymholiadau ynghylch cyfeirnodau a gwaith academaidd.
Ymddeolodd Chris ym mis Mehefin 2015, gan ddewis gweithio y tu hwnt i oedran ymddeol oherwydd ei chariad at y llyfrgell ac oherwydd ei bod yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan ei chydweithwyr a myfyrwyr. Roedd colled fawr ar ei hôl, nid yn unig oherwydd ei gwybodaeth drylwyr am y casgliadau a’i gwasanaeth rhagorol i ddefnyddwyr, ond hefyd oherwydd ei bod yn gydweithiwr cynnes, hael a hoffus.
Yn ystod ei hymddeoliad, parhaodd Chris i fyw bywyd mor egnïol ag erioed. Roedd hi a’i gŵr Pete yn mwynhau gwyliau cerdded anturus i leoliadau fel Machu Picchu; roedd yn gwirfoddoli yn y banc bwyd lleol bob wythnos; roedd hi’n cael gwersi piano; ac roedd hi'n alto gwerthfawr yng Nghymdeithas Gorawl Aberystwyth.
Bydd ei chydweithwyr yn y llyfrgell yn gweld eisiau Chris yn fawr. Cydymdeimlwn yn ddiffuant â’i gŵr Pete, ei phlant Claire a Nick, a’i theulu cyfan.
