Dr Monica Jalloq

Tristwch o’r mwyaf yw eich hysbysu am farwolaeth Dr Monica Colebrook Jalloq, 86 oed, gynt o Langorwen, Aberystwyth, a fu farw'n dawel gyda'i theulu o'i chwmpas ar 1 Awst. Gwraig i Mo, mam i Shareef a Mariam, mam-gu i Cooper a Rocky, a chwaer i Rosemary a Jonathan.
Ganed Monica yn Kampala ar 22 Awst 1939, i Daisy Irene Colebrook Taylor a Dr Thomas Hugh Colebrook Taylor, entomolegydd Prydeinig amlwg a oedd ar y pryd yn ymchwilio i blâu cotwm yn Uganda. Dychwelodd y teulu i'r DU ym 1944.
Bu Monica yn astudio botaneg yng Ngholeg Santes Anne, Rhydychen cyn cwblhau PhD ym Mhrifysgol Lerpwl lle bu’n cynnal ymchwil ar ledaeniad Spartina, glaswellt ymledol, yn Aber Afon Dyfrdwy, gwaith a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn y cyfnodolyn Journal of Ecology.
Ar ôl ei chyfnod yn Lerpwl, symudodd i Aberystwyth gan ymuno i ddechrau ag adran Botaneg Amaethyddol Prifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn symud ymlaen i fod yn gynorthwyydd ymchwil yng Ngholeg Llyfrgellyddiaeth Cymru, gan arbenigo mewn ystadegau. Ar ôl ei chyfnod yn y Coleg symudodd Monica i'r Adran Gyrfaoedd yn y Brifysgol lle treuliodd weddill ei gyrfa, gan ddod yn Gyfarwyddwr y gwasanaeth yn y pen draw. Ochr yn ochr â'i gwaith yn y Brifysgol, gwasanaethodd Monica fel llywodraethwr Ysgol Uwchradd Penglais, gan ddod yn Gadeirydd y llywodraethwyr yn ddiweddarach.
Cyfarfu Monica â'i gŵr, Mohammad Jalloq, yn Aberystwyth. Roedd Mo wedi ei fagu yn Amman, Gwlad yr Iorddonen, a daeth i Aberystwyth ar ysgoloriaeth y Cyngor Prydeinig i astudio mathemateg. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i weithio i'r Uned Gyfrifiadurol yn y Brifysgol. Yng nghanol y 1970au prynasant ddarn o dir yng Nghlarach a dechrau gweithio ar gartref y teulu. Daeth y tŷ, a enwyd yn Dorchester, yn brosiect gydol oes ac fe gafwyd cymorth gan lawer o ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau o'r teulu dros y blynyddoedd. Roedd y plant, a gyrhaeddodd ym 1978 a 1980, yn byw yn y garafán ar y safle i ddechrau tra roedd y tŷ yn dal i gael ei adeiladu.
Ar ôl ymddeol o fywyd y Brifysgol, treuliodd Monica nifer o flynyddoedd yn gofalu am Mo trwy salwch hir cyn iddo farw yn 2018. Erbyn hyn, roedd ei symptomau dementia ei hun wedi dechrau datblygu, a symudodd i Gaergrawnt ym mis Rhagfyr 2019 i fod yn agos at ei mab, Shareef. Roedd Monica wrth ei bodd yn byw’n agos at ei hwyrion ond roedd yn gweld eisiau bryniau Cymru yn wastadol, a'i theithiau cerdded ar lan y môr. Parhaodd i fyw yng Nghaergrawnt, gan ymweld â ffrindiau a theulu pan allai, nes iddi gwympo a gorfod symud i'r cartref nyrsio lle cafodd ofal yn ei blynyddoedd olaf.
Cynhelir gwasanaeth yng Nghaergrawnt ddydd Mawrth 8 Medi am 10:30yb gyda gwasanaeth coffa dilynol yn Aberystwyth maes o law. Os hoffech fynd i’r naill wasanaeth neu'r llall, neu os hoffech rannu unrhyw luniau neu atgofion o'i bywyd, cysylltwch â'r teulu drwy'r cyfeiriad e-bost, monica@jalloq.co.uk.
