Katharine (Kay) Mitchell

Ganwyd Katharine Shirley Mitchell ar 26 Hydref 1956 yn Barnehurst, Caint. ‘Kay’ oedd hi i bawb byth ers iddi fod yn fabi. Bu’n byw gyda’i rhieni, Lawrence (clerc yswiriant morol) a Shirley (athrawes ysgol gynradd), ei brawd hŷn Peter a’i chwaer iau Stephanie yn Dartford, Crayford a Sidcup yng ngogledd-ddwyrain Caint. Ar ôl ysgol gynradd aeth i Ysgol Beaverwood yn Chislehurst.  Gwnaeth Kay yn dda yn yr ysgol, yn mwynhau cynifer o bynciau nes ei chael hi’n anodd penderfynu beth i’w astudio yn y brifysgol. Yn y diwedd dewisodd wneud anrhydedd cyfun mewn daearyddiaeth a hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan ollwng hanes yn ddiweddarach. Yn ei blwyddyn gyntaf (1975–1976), roedd hi’n byw yn Neuadd Alexandra Hall ar y prom; ac ar y silff ffenest a wynebai’r môr fe fyddai’n sychu ei bagiau te i’w hailddefnyddio. Astudiodd Kay Gymraeg yn ei blwyddyn gyntaf (gan gadw ei diddordeb mewn ieithoedd gydol ei hoes, ac yn ddiweddarach fe roes gynnig ar ddysgu ychydig o Rwsieg, Tsieinëeg, Arabeg a Groeg). Dechreuodd chwarae pêl fasged ac ymunodd â’r Blaid Ryddfrydol. Ar ôl graddio, astudiodd am ddwy flynedd ym Mhrifysgol Nottingham am radd M.A. mewn cynllunio trefol.

Wedi cael swydd weinyddol iau yn Bromley, cafodd Kay swyddi wedyn ym maes cynllunio trefol yn Eastbourne, Poole, Cyngor Dosbarth Gogledd Swydd Amwythig, a Stoke-on-Trent. Daeth rheoli datblygu yn arbenigedd iddi. Mwynhaodd Kay roi ei hegwyddorion gwyrdd ar waith wrth ddylanwadu ar gynlluniau adeiladu, yn enwedig yn sicrhau bod cyfleusterau beicio yn cael eu cynnwys. Yn anffodus, gyda’r cwymp ariannol yn 2008, arafodd y gwaith datblygu nes, yn y pen draw, bu’n rhaid i Kay ymddeol yn gynt nag y dymunai, yn 55 oed. Roedd hi’n aelod gweithgar o’r Undeb Unsain a’i ragflaenwyr.

Bu Kay mewn sawl perthynas hirdymor ond ni phriododd. Roedd hi wrth ei bodd bod yn fodryb; byddai bob amser yn cofio penblwyddi a chymerai ddiddordeb yn hynt ei phedwar nai a’i un nith. Ar ryw adeg yn ei 20au fe ddaeth Kay yn berchennog ar gathod, ac fel arfer byddai ganddi ddwy ar yr un pryd – cathod a achubwyd oeddynt bob amser – a oedd yn gwmnïaeth a chysur mawr iddi.

Yn ei 30au dechreuodd Kay gymryd rhan mewn triathlonau, ac roedd hi’n mwynhau hyfforddi a chystadlu mewn clybiau Sussex a Dorset.  Roedd hi hefyd yn rhedeg rasys 10 cilometr ac ambell deuathlon. Ni fu hi’n eithriadol o gyflym ond byddai bob amser yn cwblhau’r ras ac fe ddaethai’n drydedd yn grŵp oedran yn go gyson. Un flwyddyn ar ddechrau’r 1990au rhedodd ym Marathon Llundain a gorffen mewn 4 awr 6 munud. Ar ôl  iddi ymgartrefu yn Newcastle-under-Lyme trefnodd ddau grŵp badminton, a fu’n para’n llwyddiannus am flynyddoedd lawer. Er na chyrhaeddodd safon chwaraewr cynghrair,  roedd Kay yn chwaraewraig gymdeithasol dda ac yn fedrus wrth daro’r wennol yn gyfrwys ar draws y cwrt yn agos i’r rhwyd.

Arhosodd Kay yn ymgyrchwraig selog dros y pleidiau Rhyddfrydol a’r Democratiaid Rhydfrydol gydol ei hoes, ac roedd yn gynghorydd am sawl blwyddyn ar Gyngor Dosbarth Wealden yn Sussex, a hefyd am gyfnod ar Gyngor Tref Hailsham. Safodd fel ymgeisydd mewn etholiadau lleol yn aml, er mwyn cynnal presenoldeb y Democratiaid Rhyddfrydol mewn cynifer o wardiau â phosib. Yn Newcastle-under-Lyme, ymunodd â’r pwyllgor lleol a daeth yn drysorydd iddo maes o law.

Ymddiddorai Kay mewn materion amgylcheddol bob amser, ac astudiodd am ddiplomau mewn cadwraeth natur yn y 1980au. Roedd ymhlith y rhai cynharaf i ddefnyddio paneli solar. Byddai’n cerdded neu’n beicio pryd bynnag y gallai er mwyn siopa neu i fynd i’r theatr leol neu gyngherddau, gweithgareddau roedd hi’n eu cefnogi’n frwd. Roedd hi’n aelod hirsefydlog o grŵp gwerthfawrogi cerddoriaeth Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ym Mhrifysgol Keele. Yn aml fe fyddai’n treulio ei gwyliau’n mynd ar deithiau yn gweld y golygfeydd mewn gwahanol rrannau o’r wlad, gan aros mewn Hostelau Ieuenctid. Un o’i diddordebau oedd mudiad Celf a Chrefft oes Fictoria, yn enwedig dyluniadau William Morris.

Pan symudodd Kay i Newcastle-under-Lyme yn 2007, dywedodd mai dyna fyddai ei chartref olaf, gan obeithio bod yno am 30 o flynyddoedd o leiaf. Plannodd llwyni ffrwythau a choed cnau, a chynnal pwll dŵr yn yr ardd, gan sicrhau ei bod yn gynefin deniadol i fywyd gwyllt. Roedd yr ardd yn llawn adar a phryfed, ac roedd brogaod yn bridio yn y pwll. Bu farw Kay’n sydyn ac annisgwyl ar 7 Mai 2022 o anewrysm a dorrodd yn yr ymennydd.  Mawr yw tristwch ei theulu a’i ffrindiau lu ar ôl y bywyd brysur a ddaeth i ben yn rhy fuan o lawer, yn 65 oed.