Dr Mike Brookes
Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth yr Uwch Gymrawd Ymchwil Emeritws Dr Mike Brookes ar ddydd Gwener, 8 Mai.
Roedd Mike yn artist, yn gyfarwyddwr, ac yn ddylunydd arobryn, yn ogystal ag yn ffrind, cydweithiwr a mentor. Roedd yn adnabyddus am ei natur feddylgar a thawel, am ei hiwmor, ac am ei ddawn i edrych ar broblemau o ongl wahanol a gofyn y cwestiwn iawn. Mae ei gydweithwyr a’i gyn-fyfyrwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu hefyd yn cofio ei graffter beirniadol wrth archwilio ffurf, swyddogaeth a lleoliad perfformiadau a chelf byw.
Astudiodd Mike yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, gan raddio gyda BA (Anrhydedd) mewn peintio yn 1987. Ers hynny, datblygodd ymarfer greadigol a oedd yn cwmpasu ystod eang o wahanol gyfryngau, gan greu digwyddiadau celf byw a pherfformiadau amlgyfrwng dylanwadol a oedd yn ymateb yn benodol i’w cyd-destun.
Yn 1997 cydsefydlodd Mike y grŵp perfformio Pearson/Brookes gyda’r academydd a’r gwneuthurwr theatr Mike Pearson. Am dros 20 mlynedd, bu’r ddau yn gyfrifol am gyd-greu perfformiadau amlgyfrwng arloesol mewn lleoliadau penodol, gan gynnwys cynyrchiadau mawr The Persians (2010) ar gyfer National Theatre Wales, Coriolan/us (2012) ar gyfer y Royal Shakespeare Company a National Theatre Wales, ac ILIAD (2015).
Ers 2005, bu Mike yn cydweithio gyda’r artist a’r berfformwraig Rosa Casado, gan ddatblygu ystod eang o ddigwyddiadau penodol i’w cyd-destun a gweithiau ar gyfer orielau a gomisiynwyd ac a gyflwynwyd yn rhyngwladol, gan gynnwys y gwaith radio Grey Line (2016), y perfformiad mewn pum pennod The sky was clearer in those days (2019), a’r gwaith oriel Divine matter (2021).
Llwyfannwyd rhai o berfformiadau cyhoeddus eraill Mike drwy ei berthynas hirhoedlog â chwmni theatr Quarantine, gyda’r cynllunydd a’r cyfarwyddwr Stewart Laing a’i gwmni Untitled Projects, a gyda National Theatre Wales, ble bu Mike yn artist cyswllt rhwng 2017 a 2020.
Ar y cyd â Simon Banham a Richard Downing, yn 2001 sefydlodd Mike gwrs Astudiaethau Senograffeg yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Dyma’r
cwrs cyntaf o’i fath yn y DU i ganolbwyntio’n benodol ar ymarfer senograffeg. Penodwyd Mike yn Gymrawd Ymchwil Creadigol yn 2007, ac roedd ei arbenigedd a’i gorff sylweddol o berfformiadau a gwaith celf byw o gymorth mawr i sefydlu enw da’r Adran fel un blaenllaw am gynnal ymchwil seiliedig ar ymarfer. Dylanwadodd Mike ar nifer yn yr Adran, yn rhinwedd ei rôl fel Mentor Ymchwil Creadigol, gan gynorthwyo’i gydweithwyr i ddatblygu, i fynegi ac i ddogfennu eu gwaith ymchwil seiliedig ar ymarfer. Gwerthfawrogwyd dylanwad Mike fel athro a mentor hefyd gan fyfyrwyr israddedig ar gynlluniau Senograffeg yr Adran, a gan fyfyrwyr ôl-raddedig ar ei chynlluniau MA Ymarfer Perfformio ac Ymarfer Theatr.
Yn 2015 dyfarnwyd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig) i Mike am ei waith ym maes perfformiadau amlgyfrwng ac mewn lleoliadau penodol, gyda’i draethawd ‘On a clear day you can see for ever: mediation as form and dramaturgy in located performance’. Fe’i dyrchafwyd yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn 2023.
Bu colled ar ei ôl yn dilyn ei ymddeoliad oherwydd salwch yn 2025, ac rydym oll yn cydymdeimlo’n ddwys gyda Rosa, cymar Mike, a’i deulu yn ystod y cyfnod trist hwn.
