Rhys Parry

Daeth Rhys i Brifysgol Aberystwyth University yn 2002, gan ymuno â thîm dysgu’r Adran Gyfrifiadureg. Bu’n dysgu yn yr adran tan iddo ymddeol yn 2015.

Fe’i ganed yng Nglasgow yn Nhachwedd 1946, ond treuliodd y rhan fwyaf o’i blentyndod gyda’i deulu estynedig yn Nhreorci yng Nghwm Rhondda.

Er bod ei dad yn awyddus iddo fod yn ddyn camera i’r BBC, roedd gan Rhys ei gynlluniau ei hun. Roedd ei fryd ar fod yn beilot yn wreiddiol, ond oherwydd ei fod yn lliwddall bu’n rhaid dilyn ei gariad am hedfan ar hyd trywydd arall. Gwnaeth gymhwyster a oedd yn cyfateb i brentisiaeth gradd mewn peirianneg electronig ym Mhrifysgol Loughborough, wedi’i noddi gan BAe Systems, lle y bu’n gweithio ar sawl prosiect amddiffyn ac awyrofod.

Ac yntau’n Gymro balch ac yn Ewropead i’r carn, gweithiodd wedyn i sawl sefydliad wedyn gan gynnwys Easams, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Hewlett Packard ac Intergraph, gan ddal ati i gyfrannu i brosiectau amddiffyn ac awyrofod pwysig, gan gynnwys ysgrifennu’r cod a ddefnyddir mewn awyrennau Tornado.

Yn ystod y 1980au, aeth ymlaen i weithio i un o’r cwmnïau meddalwedd mwyaf yn Ewrop, System Designers/SD-Scicon, lle yr arweiniodd prosiectau ymchwil technoleg uwch, gan gynnwys rheoli’r isadran efelychu hedfan, â’i 110 o staff, gan weithio ag amrywiaeth o gleientiaid sifil a milwrol.

Cyfarfu Rhys â’i wraig Carolyn pan oeddynt ill dau’n gweithio i’r cwmni. Aethant ymlaen i adeiladu bywyd, teulu, a chyfres o fusnesau gyda’i gilydd, gan gynnwys datblygu cynnyrch meddalwedd data, cyhoeddi cylchgrawn cyntaf Prydain ar dechnoleg gwerthu a marchnata ac, yn ddiweddarach, sefydlu busnes Airbnb i gwplau sydd am ‘ddianc’ i gefn gwlad Cymru.

Yn 2002, ymunodd Rhys ag Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth. Manteisiodd ar ei wybodaeth a’i brofiad proffesiynol helaeth i ysbrydoli myfyrwyr i ddilyn gyrfaoedd mewn technoleg a busnes. Roedd y modiwlau roedd yn eu dysgu yn cynnwys meysydd e-fasnachu a materion proffesiynol mewn TG. Byddai’n llwyddo i wneud pynciau cymhleth yn ddealladwy i’w fyfyrwyr, a byddai’n hynod falch wrth weld ei fyfyrwyr yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus.

Y tu hwnt i’w fywyd proffesiynol, roedd gan Rhys gariad at rygbi gydol ei fywyd. Ac yntau’n gefnogwr selog tîm rygbi Cymru, prin y collai’r cyfle i godi ei lais i gefnogi ei annwyl Gymru, gartref a thramor, hyd yn oed pan fyddem yn colli. Ymrwymodd ddegawd a mwy i Glwb Rygbi Prifysgol Aberystwyth fel Ysgrifennydd y Clwb, yn hynod falch o gael cefnogi timoedd y Brifysgol ac o gynrychioli’r clwb yn genedlaethol ar lefel Undeb Rygbi Cymru.

Ni wnaeth ei ymddeoliad bylu dim ar ei chwilfrydedd deallusol. Cwblhaodd Ddiploma Ôl-raddedig mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, ysgrifennodd lyfr am laniadau D-Day yn Normandi, ac roedd wrthi’n ystyried y potensial a all fod gan ddeallusrwydd artiffisial i newid y byd wrth iddo weithio ar nofel wyddonias.

Yn ystod ymddeoliad Rhys daeth ei glefyd Parkinson i’r amlwg. “Wynebodd glefyd Parkinson â dewrder ac urddas rhyfeddol, ac yn nodweddiadol o stoicaidd. Prin y byddai’n cwyno ac yn aml y cuddiai gymaint roedd e’n gorfod ymdopi ag ef,” meddai Carolyn. “Gwnaethom ddal ati i fwynhau bywyd, gydag oriau hapus gyda’n gilydd mewn gigiau comedi, yn enwedig yn ystod misoedd hirfaith gaeafau Cymru, gan chwerthin hyd brifo ein hystlysau – atgofion a drysoraf am byth.”

Roedd hefyd yn dad i dri o blant sydd bellach yn oedolion cryf, dawnus a gofalgar, yn dad-cu i ddau o wyrion hardd, ac yn ‘dad-ci’ i’w annwyl dachshund, Barney. Bu’n edrych ymlaen at groesawu wyres newydd i’r teulu, a aned ychydig o ddiwrnodau ar ôl iddo farw.

“Roedd gweithio gyda Rhys yn wych,” meddai Neil Taylor, Uwch Ddarlithydd yn yr adran. “Buon ni’n gweithio gyda’n gilydd ar rai modiwlau, gan gynnwys Prosiectau Mawr y drydedd flwyddyn. Cofiaf y gefnogaeth a ges i ganddo pan ddechreuais ddarlithio yn yr adran. Roedd yn mwynhau arolygu prosiectau myfyrwyr, yn annog y myfyrwyr i adeiladu’r darn mwyaf o waith yn eu cyrsiau gradd. Cofiaf hefyd ei frwdfrydedd dros rygbi Cymru a mwynhau ei straeon am fynd i weld y gemau yng Nghaerdydd. Rydym yn gweld eisiau ei gyfraniadau i fywyd yr adran.”

Bu farw Rhys Parry ar 5 Gorffennaf 2026, yn 79 oed.

Bydd angladd Rhys yn cael ei gynnal ddydd Llun 10 Awst am 1.30pm yn Amlosgfa Aberystwyth. I’r rhai na fyddant yn gallu bod yn  bresennol, bydd y gwasanaeth hefyd  yn cael  ei ffrydio’n fyw.