Ffyrdd o Roi i Aber

Student at graduation clasping her hands and smiling

P’un a ydych chi’n dewis rhoi unwaith neu roi yn rheolaidd, rydym yn ddiolchgar iawn i chi am ddewis gwneud hynny - diolch! 

Mae sawl ffordd i gyfrannu rhodd i Brifysgol Aberystwyth, ac maent wedi’u nodi isod:

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, mae’r tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn gweithio o bell. 

Oherwydd hyn, bydd unrhyw gyfraniadau sy’n cael eu hanfon trwy’r post yn cymryd mwy o amser nag arfer i’w prosesu. Er ein bod yn bwriadu casglu’r post bob wythnos, bydd hyn yn oedi’r amser ymateb i unrhyw gyfathrebu trwy’r post.

Gwneud i’ch rhodd fynd ymhellach

Cymorth Rhod

Os ydych chi’n drethdalwr y DU, gallwch ddewis nodi Cymorth Rhodd ar eich rhoddion. Mae hyn yn golygu am bob £1 a roddwch caiff 25c ei ychwanegu at eich rhodd, heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ticio’r blwch ar y ffurflen rhoi i gadarnhau eich bod yn hapus i ni ychwanegu Cymorth Rhodd i’ch rhodd.

Rhoi arian o’ch cyflog

Gall eich rhodd fod yn werth hyd yn oed mwy i’r Brifysgol os ydych yn rhoi trwy’r cynllun ‘rhoi arian o’ch cyflog’. Mae’r cynllun yn eich galluogi i roi arian yn uniongyrchol o’ch cyflog cyn treth. Gofynnwch i’r Adran Gyflogau a yw’r cynllun ar gael.

Arian cyfatebol

A yw eich cyflogwr yn gweithredu cynllun arian cyfatebol? Os felly, gall eich rhoddion i Brifysgol Aber gael eu cyfateb gan eich cyflogwr. Gofynnwch i’ch adran gyflogau neu Adnoddau Dynol a oes cynllun arian cyfatebol ar gael, a sut mae’n gweithio.

Rhoddion her

Rydym yn croesawu trafodaethau oddi wrth ein prif gefnogwyr sy’n barod i gynnig rhoddion sylweddol ar yr amod bod Prifysgol Aberystwyth darparu arian cyfatebol ar gyfer y rhoddion a wneir. Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn ymhellach.

Gallwch hefyd wneud rhodd i Aber trwy’r dulliau canlynol

Rhoddion Mewn Da

Rydym ni’n croesawu rhoddion o asedau ar wahân i arian, cyfranddaliadau neu eiddo. Dylai rhoddwyr sy’n dymuno gosod amodau o ran lleoli, cadw neu werthu rhoddion o’r fath gysylltu â ni o flaen llaw er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn gallu anrhydeddu unrhyw ddymuniad o’r fath cyn derbyn y rhodd.

Stocau a Chyfrannddaliadau

Rhoi stociau a chyfranddaliadau yw’r ffordd fwyaf effeithlon o ran treth o gefnogi, ac mae’n fanteisiol i chi yn ogystal â Phrifysgol Aber.

Tir ac Eiddo

Rydym yn hapus i dderbyn rhoddion o dir neu eiddo, boed yn rhodd neu wedi’i adael yn eich ewyllys.

Gwneud Rhodd o'r Unol Daleithiau

Gall trethdalwyr yn yr Unol Daleithiau wneud rhoddion ar-lein i Brifysgol Aberystwyth gan ddidynnu treth i’r graddau a ganiateir dan gyfraith yr Unol Daleithiau. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gysylltiedig â gorff 501(c)(3), yr British Schools & Universities Foundation (BSUF). Gallwch wneud rhodd ar-lein trwy BSUF

Fel pob prifysgol sy'n defnyddio'r sefydliadau hyn y gellir ymddiried ynddynt, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech roi gwybod i'r tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni drwy e-bostio alumni@aber.ac.uk pan fyddwch yn rhoi arian drwy ein trydydd partïon, a hynny i'n helpu ni i olrhain ein haddewidion a'n rhoddion.

Gwneud Rhodd o Ewrop

Os ydych chi’n byw mewn gwlad Ewropeaidd, efallai y gallech chi roi trwy sefydliad partner, Transnational Giving Europe (TGE). Ewch i wefan Transnational Giving Europe i weld a yw eich gwlad wedi’i chynnwys. Bydd angen i chi gysylltu â sefydliad eich gwlad breswyl am ragor o fanylion a chymorth ar gyfer gwneud rhoddion effeithiol o ran treth i Aber.

Gwneud Rhodd o Dramor

Gall rhoddwyr rhyngwladol gyflwyno eu rhodd drwy'r system SWIFT gan ddefnyddio'r manylion canlynol:

Rhif Cyfrif Banc Rhyngwladol (IBAN): GB47 BARC 201874 7007 2621

Cod Adnabod Banc SWIFT (BIC): BARC GB22

Dylai cyfeirnod eich taliadau SWIFT gynnwys eich enw llawn a'r maes yr hoffech ei gefnogi (e.e. - Cronfa Aber).

Mae Prifysgol Aberystwyth yn elusen gofrestredig, rhif 1145141.