Ysgolion Astudio i Ddod

Rhaglenni Dysgu o Bell Uwchraddedig

Gwanwyn 2026 - Ysgolion Astudio Uwchraddedig

Bydd ysgolion astudio rhagarweiniol ar gyfer uwchraddedigion dysgu o bell newydd sy'n dechrau yng ngwanwyn 2026 ar-lein (nid preswyl) ar gyfer yr wythnos sy'n cychwyn ar:

Dydd Llun 13 Ebrill 2026 i ddydd Iau 16 Ebrill 2026 (Ar gyfer myfyrwyr newydd) neu

Dydd Llun 23 Mawrth 2026 to Dydd Gwener 27 Mawrth 2026 (ar gyfer myfyrwyr Traethawd Hir sy'n dychwelyd)

Bydd dydd Llun yn rhedeg rhwng 14:00 a 17:00.

Bydd yr ysgol yn rhedeg ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, rhwng 09:00 a 17:00.  Bydd gwybodaeth, gan gynnwys amserlenni, yn cael ei he-bostio at fyfyrwyr cyn yr ysgol.  

Mae presenoldeb yn yr ysgol ragarweiniol yn orfodol.

Ar gyfer yr ysgol hon, bydd sesiynau'n 'fyw' ar-lein drwy Teams a byddwch hefyd yn cael mynediad i'ch modiwl cyntaf ac i wybodaeth am y cwrs drwy ardal Blackboard yr Adran.

Er bod yr ysgol ar-lein, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn clirio eu calendr i fynychu'r ysgol. Mae hyn i roi cyfle i fyfyrwyr ddechrau arni ar eu modiwl cyntaf a’u hastudiaethau rhwng y sesiynau byw gyda chefnogaeth gan staff.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Adran dis-dept@aber.ac.uk

Medi 2026 - Ysgolion Astudio Uwchraddedig

Bydd ysgolion astudio rhagarweiniol ar gyfer uwchraddedigion dysgu o bell newydd sy'n dechrau ym mis Medi 2026 yn rhai preswyl (nid ar-lein) yn Aberystwyth ar yr wythnos sy’n cychwyn ar:

Dydd Llun 7 Medi 2026 i ddydd Iau 10 Medi 2026 (Ar gyfer myfyrwyr newydd) neu hyd at ddydd Gwener 11 Medi 2026 (ar gyfer myfyrwyr Traethawd Hir sy'n dychwelyd)

Cyrraedd erbyn 18:00 o'r gloch ar ddydd Llun 8 Medi.

I fyfyrwyr newydd, bydd yr ysgol yn rhedeg ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, ac yn gorffen am 16:00 ddydd Iau. Bydd gwybodaeth, gan gynnwys amserlenni, yn cael ei he-bostio at fyfyrwyr cyn yr ysgol.

I fyfyrwyr ‘ysgol Traethawd Hir’ sy’n dychwelyd, cynhelir yr ysgol ddydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener, a bydd yn gorffen am 13:00 ddydd Gwener. Bydd gwybodaeth, gan gynnwys amserlenni, yn cael ei chyhoeddi ar Blackboard ac yn cael ei he-bostio at y rhai sy'n mynychu.

Bydd llety a phrydau bwyd ar gael ar y campws.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Adran dis-dept@aber.ac.uk

BSc Israddedig Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell

Ysgol Astudio Israddedig - Gwanwyn 2026

Bydd ysgolion astudio rhagarweiniol ar gyfer israddedigion dysgu o bell newydd sy'n dechrau yng ngwanwyn 2026 ar-lein (nid preswyl) ar gyfer yr wythnos sy'n cychwyn ar:

Dydd Llun 13 Ebrill 2026 i ddydd Iau 16 Ebrill 2026 