Deunyddiau Dysgu
Yn ganolog i’n dull o ymdrin â dysgu o bell agored y mae’r deunyddiau yr ydym yn eu cynhyrchu. Gan ddilyn yr arferion dysgu agored gorau rydym yn ceisio sicrhau bod ein modiwlau yn cael eu hysgrifennu mewn ffordd glir a syml. Rydym yn torri’r deunyddiau i ‘ddarnau’ y gellir eu cymathu’n hawdd a chaiff pob un o’r rhain eu dilyn gan weithgareddau sy’n eich helpu i asesu eich amgyffrediad o’r pwnc. Ni fyddwch yn wynebu tudalennau ar dudalennau o destun sych wedi’i deipio. Gyda digon o ddarluniau eglurhaol ac ymylon llydan i’ch nodiadau bydd y modiwlau argraffedig yn hawdd i’w deall ac yn gyfleus i’w darllen ym mhob man.
Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE)
Rydym yn defnyddio fersiwn arbennig o’r VLE ffynhonnell agored, Moodle, sy’n darparu ffordd hawdd i’r holl ddysgwyr o bell gadw mewn cysylltiad â’r Adran, yr Uned Dysgu Agored ac â’i gilydd.
Mae ein Moodle yn siop un stop, sy’n cynnwys ei system negeseua ei hun, ynghyd â meysydd cymorth ar gyfer ein holl gyrsiau ac ar gyfer pob modiwl. Fel yma gallwn roi’r newyddion diweddaraf i chi am newidiadau, argaeledd modiwlau, amserlenni’r ysgol astudio a darlleniadau newydd. Mae hefyd yn hawdd i chi weld sut mae eraill ar eich cwrs yn dod yn eu blaen ac i rannu cwynion, griddfannau a syniadau. Byddwch yn cael gwybod pan fydd eich aseiniadau wedi dod i law. Caiff eich graddau eu postio yno cyn gynted ag y byddant ar gael. Mae’r nifer o ardaloedd trafod yn ymdrin â’r agweddau cymdeithasol, gweinyddol ac addysgol ar eich cwrs.
Tiwtoriaid Personol
Bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor personol a fydd yn eu cynghori a’u cyfarwyddo ac yn dadlau ar eu rhan.
Er y gellir mynd at unrhyw diwtor, caiff pob myfyriwr ar y rhaglen Diwtor Personol ar gyfer cwnsela academaidd a bugeiliol cyffredinol. Bydd y Tiwtor Personol yn trefnu cyfarfodydd cyfnodol i gyfnewid gwybodaeth a rhoi adborth; ond dylech chi gysylltu â’r tiwtor personol os bydd angen. Dylid rhoi gwybod i’r tiwtor personol am unrhyw broblemau neu amgylchiadau a allai effeithio ar eich astudiaethau a’ch cynnydd; fel y gallant hwy, fel y tiwtor sy’n eich adnabod orau, gyfrannu at drafodaethau ar eich cynnydd mewn byrddau arholi, ac ysgrifennu geirdaon ar ran y Pennaeth Adran.
Yn ogystal â helpu’n uniongyrchol, gall Tiwtoriaid Personol eich cyfeirio at y person iawn i ddatrys problem, gan gynnwys gwasanaethau cwnsela proffesiynol a gynigir gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
Ceir rhagor o wybodaeth ar weddalennau Swyddfeydd Cymorth Ariannol Myfyrwyr a’r tudalennau Gyrfaoedd
Llyfrgell Hugh Owen
Gellir chwilio'r casgliadau gan ddefnyddio catalog Llyfrgell Primo http://primo.aber.ac.uk/
I gael rhagor o fanylion ewch i dudalen cymorth Dysgwyr o Bell: http://www.aber.ac.uk/en/is/help/distancelearners/
Mynediad i Adnoddau Electronig
Mae Prifysgol Cymru yn tanysgrifio i nifer fawr o gyfnodolion a chronfeydd data ar-lein ac mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gael hefyd i Ddysgwyr o Bell drwy system gyfrinair. Mewn llawer o achosion golyga hyn y gall myfyrwyr lawrlwytho erthyglau o amrywiaeth eang o gyfnodolion arbenigol a chwilio ar gronfeydd data academaidd a masnachol.
Cyfarfodydd Cynnydd
Rydym yn cynnal cyfarfodydd cynnydd ddwywaith y flwyddyn lle caiff cynnydd pob myfyriwr ei archwilio a chymerir camau priodol. Nid yw’r myfyrwyr yn cael eu gadael i lwyddo neu fethu, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cymryd gofal mawr i gynorthwyo’r myfyrwyr hynny sy’n cael trafferth am ba reswm bynnag. Rydym yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl ac rydym yn cynnig cyfnodau o oedi (neu 'saib' o’r cwrs) os yw’r amgylchiadau’n ddigonol i atal y myfyriwr rhag gwneud cynnydd. Gallai hyn fod o ganlyniad i salwch neu drawma yn y teulu.
