Dathlu 60 mlynedd o Astudiaethau Gwybodaeth yn Aberystwyth

Ffotograff lliw o flaen Llyfrgell Thomas Parry o Goleg Llyfrgellyddiaeth Cymru, Campws Llanbadarn, Aberystwyth, gyda llwyni a blodau'r haf yn eu blodau.
06 Mehefin 2025
Yn ystod 2024-2025 mae'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth (DIS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed. Carreg filltir wych felly i ddathlu cyflawniadau miloedd o fyfyrwyr a chant a mwy o staff sydd wedi bod yn rhan o'r daith hon.
Mae'r dathliadau'n cynnwys:
- Prosiect atgofion ac arolwg
- Penwythnos aduniad Cyn-fyfyrwyr ac Alumni Aberystwyth
Prosiect i gasglu atgofion ac arolwg
https://libraryschool.aber.ac.uk/cy/adref/
Mae ein prosiect i gasglu atgofion yn casglu atgofion ac adroddiadau ysgrifenedig, lluniau, a deunyddiau eraill sy'n gysylltiedig â Choleg Llyfrgellyddiaeth Cymru (CLW), yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell (DILS), a’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth (DIS), a gyrfaoedd staff a myfyrwyr. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, a gobeithio y bydd y deunydd yn arwain at arddangosfa o atgofion ac eitemau cofiadwy, ar-lein ac o bosibl arddangosfa fechan yn Aberystwyth ei hun.
Os oes gennych unrhyw atgofion neu ddeunydd yr hoffech eu rhannu gyda ni, ewch i'n gwefan 'Atgofion ...' yn https://libraryschool.aber.ac.uk/cy/adref/a llenwi ffurflen yr arolwg, neu gofynnwch am gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio os nad ydych am rannu unrhyw beth, neu e-bostiwch 60years@aber.ac.uk
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Llenwch ffurflen yr arolwg am eich atgofion o'ch amser yn Aberystwyth, yn: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/aber/60-mlynedd-o-astudiaethau-gwybodaeth-yn-aberystwyth
Penwythnos aduniad Cyn-fyfyrwyr ac Alumni Aberystwyth
Efallai y bydd cyn-fyfyrwyr eisoes yn ymwybodol o Benwythnos Aduniad blynyddol Prifysgol Aberystwyth a gynhelir ym mis Mehefin (gwybodaeth yma: https://www.osaaber.org/post/osa-alumni-reunion-2025-fri-20th-sun-22nd-june ac yma: https://www.aber.ac.uk/cy/development/newsandevents/
Fel rhan o'r digwyddiad hwn, bydd yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn cynnal cinio dathlu i'n cyn-fyfyrwyr a'n staff ddydd Sadwrn 21 Mehefin 2025. Mae croeso i holl fyfyrwyr - a staff - CLW, DILS a DIS!
Os ydych yn bwriadu mynychu'r Penwythnos Aduniad cyfan (gan gynnwys y cinio dathlu am ddim), cliciwch yma i archebu https://tinyurl.com/3cb4jddm
Neu cysylltwch/anfonwch neges at Dr Anoush Simon (ads@aber.ac.uk) am ragor o fanylion am y cinio Astudiaethau Gwybodaeth, ddydd Sadwrn 21 Mehefin 2025.