Gweithio gydag awduron, cyhoeddwyr a darllenwyr yn ystod eich cwrs
Yn ystod eich cyfnod yn astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth, rydyn ni’n manteisio ar y berthynas sydd gennym ag awduron a chyhoeddwyr er mwyn datblygu cyfle i chi symud eich gwaith ymlaen y tu hwnt i’r stafell seminar.
Gallai olygu cyfarfod gweithwyr proffesiynol, cyflwyno gwaith, golygu gwaith i’w gyhoeddi, neu rannu eich gwaith â darllenwyr. Rydym yn parhau i ddatblygu prosiectau ymhob rhan o’r adran, ac mae cyfleoedd yn amrywio fesul cwrs o flwyddyn i flwyddyn.
Er enghraifft yn 2026-27
Yn 2026–27, bydd uwchraddedigion Ysgrifennu Creadigol sy’n astudio’r modiwl ‘Writer as Professional’ yn gweithio gyda chwmni ‘Broken Sleep Books’ i gynhyrchu blodeugerdd wedi’i chyhoeddi’n broffesiynol. Byddant yn cymryd rhannau golygyddol a chynhyrchu, gan gynnwys prif olygydd, wrth iddyn nhw drefnu’r alwad agored, golygu’r gwaith a ddewisir, cyd-drefnu’r gwaith celf, rheoli’r gyllideb, a threfnu lansiad. Bydd siaradwyr gwadd a phanelwyr yn ymuno â hwy yn y lansiad.
Gall unrhyw un ymateb i’r alwad, gan gynnwys myfyrwyr o bob un o’n cyrsiau israddedig Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, trwy gyflwyno barddoniaeth, rhyddiaith, neu waith celf.
Sut mae myfyrwyr ar eu hennill
- Gweld eich gwaith mewn print. Bydd gan y rhai a ddewisir ddarn wedi’i gyhoeddi’n broffesiynol ar gyfer eu portffolio.
- Profiad o’r byd cyhoeddi go iawn. Bydd y tîm o uwchraddedigion yn mynd â’r llyfr o’r cyflwyniadau i’r lansiad.
Bydd y myfyrwyr sy’n gyfrifol am y gwaith a ddewisir yn ei weld mewn print a bydd ganddynt waith cyhoeddedig ar gyfer eu portffolio; bydd y tîm uwchraddedig yn cael profiad gwirioneddol o’r broses o fynd â chyfrol o’r cyflwyniadau i’r lansiad.
Gwnaed yn bosibl gan haelion Cronfa Ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth.

Cyhoeddiadau blaenorol
Tair blodeugerdd flaenorol a gynhyrchwyd ar y cyd â Broken Sleep Books. Dewiswch deitl i weld tudalen y cyhoeddwr.



Hands of Light 2026