Arloesedd a Datblygiad

Myfyrwyr mewn seminar yn ymateb i'r darlithydd

Mae darlithwyr Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth yn arloeswyr yn eu disgyblaethau ac adlewyrchir y ddeinameg hon yng nghynllun ein rhaglenni a’n modiwlau.

Mae ein graddau’n golygu bod myfyrwyr yn cael ymwneud ag ymchwil arloesol ond, yn fwy na hyn, rhoddir y myfyriwr wrth galon y profiad dysgu.

Dyma rai o uchafbwyntiau ein gweithgaredd arloesi a datblygu diweddar.

Yn Aber, rydym yn cymryd y berthynas symbiotig rhwng darllen ac ysgrifennu o ddifri – mae ysgrifenwyr da yn gwneud darllenwyr da, a darllenwyr da sy’n gwneud yr ysgrifenwyr gorau. Yng ngoleuni hynny rydym wedi datblygu opsiynau Asesu Hybrid, sy’n golygu bod modd i’n myfyrwyr Ysgrifennu Creadigol ddewis modiwlau sy’n ymwneud â llenyddiaeth yn bennaf (‘Literature and the Sea’, ‘Chaucer: Then and Now’, ‘Surveillance’) ond y gellir eu hasesu trwy bortffolio o waith creadigol sy’n ymateb i themâu’r modiwl. Peidiwch â phoeni – caiff ein myfyrwyr llenyddiaeth fanteisio ar asesiad hybrid hefyd – pa ffordd well i ddysgu am gymhlethdodau’r mesur pum-ban iambig na thrwy ysgrifennu eich soned eich hun!

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i fod yn rhan o’r ymateb i argyfwng yr hinsawdd. Yn ogystal â chyflwyno llu o fentrau, o gael gwared ar blastig untro i adeiladu ein fferm solar ein hunain, mae PA wedi datblygu cyfres o raglenni gradd rhyngddisgyblaethol arloesol sy’n rhoi Newid Hinsawdd wrth galon yr agenda academaidd. Mae darlithoedd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ganolog i’r prosiect hwn ac mae ein cynllun gradd, Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd, yn un o’r rhaglenni israddedig cyntaf ym Mhrydain i ddod ag ymarfer creadigol a beirniadol i gysylltiad ystyrlon â gwyddoniaeth yr hinsawdd. Bydd ein graddedigion mewn sefyllfa arbennig i allu cyfrannu at yr ymdrechion byd-eang i gynyddu llythrennedd i’r eithaf mewn cysylltiad â’r hinsawdd ac ymateb i’r heriau sy’n wynebu ein cymdeithasau yn y blynyddoedd i ddod. Gwelir mwy o wybodaeth am yr hyn a gynigir ar y tudalennau cyrsiau.

Os hoffech fynd i gyfeiriad cymhwyster proffesiynol gyda’ch gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, efallai mai’r rhaglen  integredig Astudiaethau Saesneg a TESOL yw’r un i chi? Trwy weithio gyda chydweithwyr yn y Ganolfan Saesneg Ryngwladol, mae staff yr adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol wedi datblygu rhaglen sy’n fodd i gyfuno astudio llenyddiaeth a/neu ysgrifennu creadigol ag ennill y sgiliau, y profiad a’r cymhwyster proffesiynol er mwyn dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill. Gall y radd hon fynd â chi yn bell, yn llythrennol. Os byddwch chi’n dewis y rhaglen bedair blynedd gydag un ai Blwyddyn mewn Diwydiant neu Flwyddyn Dramor, byddwch yn atgyfnerthu eich sgiliau, eich gwneud eich hun yn fwy cyflogadwy ac yn cynyddu amrywiaeth eich profiad yn y brifysgol i’r eithaf ar yr un pryd. Mae mwy o wybodaeth am y cyrsiau ar y tudalennau cyrsiau.

Mae ein rhaglen anrhydedd gyfun Llenyddiaeth Saesneg a Chelfyddyd Gain yn gwbl unigryw, ac un rheswm am hynny yw ei bod yn dod law yn llaw â chyfleusterau rhagorol Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth – arddangosfa ac oriel achrededig. Rydym o’r farn bod llenyddiaeth a chelfyddyd gain yn gymheiriaid naturiol a bod cyfuno’r ddau bwnc yn cyfoethogi profiad, gwybodaeth a dealltwriaeth ein myfyrwyr o’r naill a’r llall. Ategir y gred hon dro ar ôl tro gan ganlyniadau rhagorol y myfyrwyr Saesneg a Chelfyddyd Gain, nid canlyniadau eu graddau’n unig ond eu cyflawniadau ar ôl graddio. Cewch fwy o wybodaeth am yr hyn mae ein cwrs yn ei gynnig ar y tudalennau cyrsiau.