Ymchwil

Ein hymchwil

Pan fyddwch yn astudio gyda ni, byddwch yn rhan o amgylchedd addysgu a dysgu a ysgogir gan ymchwil o safon fyd-eang. Mae pob un o’n haelodau staff yn ymchwilwyr gweithredol yn eu meysydd a thrwy gydol eich astudiaethau byddwch yn cael eich dysgu gan rai o ysgolheigion ysgrifennu creadigol ac astudiaethau llenyddol blaenllaw y Deyrnas Unedig.

Ein hymchwil yw sail ein haddysg ac mae ein diddordebau ymchwil mor eang a dynamig â’n cwricwlwm. Byddwch yn cael eich dysgu gan y bobl sy’n ysgrifennu’r llyfrau am y pynciau y byddwch yn dysgu amdanynt, y bobl a ysgrifennodd y farddoniaeth, y nofelau, y straeon byrion, gwaith ffeithiol, sgriptiau a nofelau graffig rydych chi’n eu darllen, a chan yr ysgolheigion sy’n dadansoddi ac yn cwestiynu gweithiau o’r fath.

Rydym yn manteisio ar rwydwaith eang o gysylltiadau a chydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan weithio gydag academyddion ac ymarferwyr creadigol o bob cwr o’r byd ar brosiectau cyffrous ac arloesol. Cliciwch ar y tabiau i ddarllen am rai enghreifftiau o’n gwaith presennol.

Ein themâu ymchwil a'n prosiectau cyfredol

Caiff ein hymchwil ei threfnu yn ôl dwy ffrwd thematig gyffredinol ac o’r rhain mae amrywiaeth eang o brosiectau arloesol yn deillio. 

Mae Place and Belonging yn ddatblygiad o brosiect Devolved Voices a gyllidir gan Leverhulme a’n gweithgaredd ymchwil ym maes ysgrifennu am Gymru yn Saesneg. Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys cynhyrchu llenyddol ar ffurf ffuglen, gwaith creadigol ffeithiol, barddoniaeth gyfoes yn ogystal â dadansoddi beirniadol, cydweithio â rhanddeiliaid allanol perthnasol ac ymchwilio rhyngddisgyblaethol. Mae’r ymchwilwyr yn gweithio ar yr amrywiol ffyrdd y mae llenyddiaeth ac ysgrifennu yn deillio o neu fodoli o fewn lleoliadau real a dychmygus ac yn codi cwestiynau ynglŷn â pherthyn. Caiff cwestiynau o’r fath eu deall yn wahanol o ran atgofion, gwreiddiau/diffyg gwreiddiau daearyddol, a chymunedau real neu ddychmygol, gan gynnwys cymunedau o ddiddordeb ac arbenigedd, oedran, rhyw, rhywioldeb ac ethnigrwydd.

Mae Emotional Lives yn dangos arloesedd mewn meysydd sy’n ymwneud â phwyntiau cyswllt rhwng STEMM/y Gwyddorau Cymdeithasol a gwahanol feysydd ymchwil beirniadol a chreadigol: hanes llenyddol, cynhyrchu testunol, astudiaethau cof, astudiaethau rhyw, ysgrifennu bywyd a chyfieithu. Mae ymchwilwyr yn gweithio ar draws ymatebion beirniadol a chreadigol i amrywiaeth o faterion cysylltiedig â bywydau mewnol a phreifat, yn ogystal â’r traws-groesi rhwng bywydau mewnol a’r cylch cyhoeddus. Mae ein synnwyr o ofod preifat a phersonol, a’r damcaniaethau a’r dehongliadau seicdreiddiol sy’n sail i ddarlleniadau o’r fath, wedi ysgogi gwaith sylweddol sy’n archwilio’r berthynas rhwng iechyd, poen a chreadigrwydd. Mae’r ffocws thematig hwn wedi bod yn arbennig o llwyddiannus wrth greu cyfleoedd ymgysylltu cyhoeddus dynamig a llwybrau at effaith a selir ar weithgareddau ymchwil amrywiol: cyfathrebu poen corfforol a seicolegol; cymunedau cynaliadwy; diogelwch amaethyddol, economaidd a’r dyfodol.

Cewch fwy o wybodaeth am waith penodol sy’n digwydd ar hyn o bryd yn ein fideos am y prosiectau.

Ein canolfannau ymchwil

Canolfan Creadigrwydd a Lles
Canolfan ymchwil yw’r Ganolfan Creadigrwydd a Lles sy’n rhan o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Cafodd ei sefydlu i hyrwyddo ac ymchwilio i’r rhan sydd i ymarfer creadigol mewn amrywiaeth o gyd-destunau lles.

Mae'r Ganolfan yn dwyn ynghyd ymchwilwyr sy'n gweithio mewn meysydd cysylltiedig er mwyn datblygu prosiectau hirdymor o ymchwil cydweithrediadol. Rydym wedi meithrin partneriaethau â sefydliadau ac elusennau cyhoeddus, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda GIG, Ymddiriedolaeth Fathom, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, a Sefydliad Shaw. Trwy hynny rydym wedi gallu cynnal amrywiaeth o brosiectau. Mae llwyddiannau diweddar yn cynnwys:

  • Diwrnod i Awduron Ymylol Gymryd Drosodd
  • ‘Narratives of Personal Renewal’ - dyddiau lles i staff y GIG
  • ‘Writing and Making for West Wales Carers’
  • ‘Imaginary Homelands’ gyda chymunedau ffoaduriaid
  • Ysgrifennu archaeoleg yn Ystrad Fflur
  • Cynhaeaf Barddoniaeth gydag Amaethyddiaeth Gymunedol Organig Cae-rhys, Sir Benfro

Dathlodd y Ganolfan nifer o gyhoeddiadau sylweddol yn ddiweddar:

  • Unreal City: Depersonalization and Creative Writing, Matthew Francis, Routledge, 2022.
  • Creativity and Anxiety: An Uncertain Relationship, Gavin Goodwin, Palgrave MacMillan, 2023.
  • Plus Ultra, Sarah Fletcher, Cheerio, 2023
  • Dream Latin, blodeugerdd a olygwyd gan Jacqueline Yallop, Broken Sleep Books, 2023.
  • Into the Dark: What Darkness is and Why it Matters, Jacqueline Yallop, Llyfrau Icon, 2024

Mae croeso bob amser i ddarpar bartneriaid anfon ymholiadau, neu rai sy’n dymuno cynnal gweithgareddau a allai ategu gwaith y Ganolfan. Rydym hefyd yn hapus i drafod cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr PhD. Cysylltwch â Jacqueline Yallop yn y lle cyntaf, jay4@aber.ac.uk.

Canolfan David Jones
Mae Canolfan David Jones yn cefnogi ymchwil ar hanes ac effaith Moderniaeth yng Nghymru ac, yn ehangach, ar y rhyngweithio creadigol rhwng gair a delwedd, y testunol a'r gweledol. Mae'r Ganolfan yn cynnal cynhadledd a seminar flynyddol, ac mae'n ceisio hyrwyddo'r posibiliadau cyffrous ar gyfer ymchwil newydd a gynigir gan yr archifau llenyddol ac artistig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Luke Thurston.

Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o brif lyfrgelloedd hawlfraint Prydain a chan bod y safle'r drws nesaf i'r campws, taith fer a dymunol yw hi o'r Adran at gyfoeth o ddeunydd cyhoeddedig a llawysgrifau. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn gaffaeliad mawr i'n holl fyfyrwyr a fydd yn cael croeso cynnes yno.

Os ydych chi awydd ymgeisio am un o’n rhaglenni Ymchwil Uwchraddedig, mae’n eithaf tebygol mai’r Llyfrgell Genedlaethol fydd eich cartref newydd. Argymhellwn yn gryf eich bod yn dod i weld y casgliadau a allai fod o fudd i’ch ymchwil. Mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys, archif Llenorion o Gymru sy’n cynnwys papurau personol a llawysgrifau gan Dylan Thomas, Raymond Williams, Jan Morris a Brenda Chamberlain (ymysg eraill); Archifau Sefydliadau Llenyddol, Cylchgronau a Chyhoeddwyr; a’r casgliad archifol mwyaf o lawysgrifau a phapurau Berta Ruck (gan gynnwys drafftiau o’r gwaith hunangofiannol a ysgrifennodd yn 1972, Ancestral Voices, sy’n deitl i un o fodiwlau craidd y flwyddyn gyntaf). Dysgwch fwy am gasgliadau LlGC.

Ein diddordebau ymchwil

Gweler diddordebau ymchwil ein staff.