Llyfr newydd yn ailddehongli gwaith bardd gorau Cymru

Yr Athro Matthew Francis, Yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
24 Hydref 2025
Bydd cyfrol newydd o gerddi byrion gan academydd o Aberystwyth yn cynnig dehongliad newydd o waith un o feirdd mwyaf nodedig Cymru.
Mae’r cerddi Saesneg sydd newydd eu cyhoeddi am y tro cyntaf dan y teitl ‘The Green Month’ yn dathlu testunau Dafydd Ap Gwilym, bardd gorau Cymru yn ôl llawer.
Wedi’i eni yng Ngheredigion ar ddechrau’r 14eg ganrif, fe’i gydnabyddir fel un o feistri’r mesur caeth, y cywydd, ac un o feirdd pwysicaf Ewrop yn ei gyfnod.
Mawr yw’r clod i farddoniaeth ap Gwilym gyda’i themâu o gariad, chwant a byd natur a gyflëir drwy gyfrwng ieithwedd ddi-flewyn-ar-dafod a ffraethineb heb-ei-ail.
Nod y llyfr newydd, ‘The Green Month’ a ysgrifennwyd gan yr Athro Matthew Francis o Brifysgol Aberystwyth, yw cynnig bywyd newydd i gyfansoddiadau hynafol yr awdur ar gyfer y darllenydd Saesneg modern.
Dywedodd yr Athro Matthew Francis o Brifysgol Aberystwyth:
“Rwy’n gobeithio y bydd y llyfr yn gallu dod â gwaith Dafydd ap Gwilym at sylw cynulleidfa newydd. Byddai’n anodd dadlau nad fe yw’r bardd gorau o Gymru a fu erioed. Mae’r cerddi hyfryd hyn wedi profi i fod yn oesol dros y canrifoedd, maen nhw’n agos atoch chi, yn daer ac yn fytholwyrdd.
“Mae natur yn thema sy’n adleisio yn ei waith yn gyson - gyda phlanhigion, adar ac anifeiliaid eraill yn cael llawer o sylw annwyl. Mae’r tywydd a’r elfennau - gwynt, tonnau, niwl a rhew - i gyd yn chwarae eu rhan hefyd. Bu’n angerddol hefyd yn ei ymdriniaeth o themâu rhywiol, ac roedd yr un mor barod i wneud hwyl am ei ben ei hun.”
Mae Matthew Francis yn athro emeritws yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi byw yng Nghymru ers 25 mlynedd ac mae ei fersiwn farddonol o’r epig genedlaethol Gymreig ‘Y Mabinogi’ wedi derbyn canmoliaeth eang. Mae wedi cyhoeddi chwe chasgliad blaenorol gyda Faber ac wedi golygu New Collected Poems W. S. Graham. Ymysg ei weithiau eraill mae casgliad o straeon byrion a thair nofel.
AU22425