Ein diddordebau ymchwil

Darlithydd gyda myfyrwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnig trosolwg o ddiddordebau ymchwil a meysydd arbenigedd staff yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Os hoffech wybodaeth fanylach am aelodau staff unigol, gan gynnwys cyhoeddiadau, prosiectau, a diddordebau arolygu presennol, ewch i'n tudalen Proffiliau Staff.

Dr Tasha Alden

Dr Neal Alexander

Rwy'n ysgolhaig ym maes llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain, ac mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar dri phrif faes. Llenyddiaeth a’r argyfwng hinsawdd: gyda Jamie Harris, rwy'n ysgrifennu llyfr ar ysgrifennu yng Nghymru, ynni, a'r argyfwng hinsawdd ar gyfer Gwasg Prifysgol Cymru. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi erthyglau ar Dywod Tar Canada a thrychineb Chernobyl.  Daearyddiaeth lenyddol: ynghyd â David Cooper, golygais The Routledge Handbook of Literary Geographies (2024) ac roeddwn yn un o sylfaenwyr golygyddol yr e-gyfnodolyn, Literary Geographies. Moderniaeth: Yn 2022, cyhoeddais Late Modernism and the Poetics of Place (Gwasg Prifysgol Caeredin), sef ailddarlleniad sylweddol o farddoniaeth fodernaidd yn ystod y tri degawd ar ôl yr Ail Ryfel Byd o safbwynt beirniadol, gan gyfuno hanes llenyddol â daearyddiaeth lenyddol.

Dr Ahmad Naji Bakhti

Dr Katy Birch

Rwy'n gweithio ar lenyddiaeth o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, hyd at ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw ysgrifennu gan fenywod, diwylliant cyfnodolion Fictoraidd (yn enwedig cylchgrawn Punch), ysgrifennu doniol, barddoniaeth, llenyddiaeth a gwyddoniaeth, a llenyddiaeth yr ymgyrch dros bleidlais i fenywod. Byddai gen i ddiddordeb mewn arolygu prosiectau yn y meysydd hyn.  

Dr Gavin Goodwin

Dr Jamie Harris

Rwy'n gweithio ar lenyddiaeth yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain, gyda sawl maes ffocws. Rwyf wedi cyhoeddi ar lenyddiaeth Saesneg Cymru, yn enwedig ysgrifennu a gwleidyddiaeth ôl-ddatganoli, yn ogystal â seico-ddaearyddiaeth Gymreig (yn enwedig Iain Sinclair). Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn newid hinsawdd a llenyddiaeth, rwyf wedi cyhoeddi sawl erthygl a phennod ar ddiwylliant seilwaith ynni Cymru (ynni niwclear a Chernobyl, môr-lynnoedd llanw), ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar fonograff ar y cyd gyda Dr Neal Alexander, Wales After Coal (sydd hefyd yn cynnwys gwaith maes llenyddol a thraethodau fideo). Mae gen i ddiddordeb mewn llenyddiaeth iwtopaidd a gwleidyddiaeth, yn enwedig yn ystod y cyfnod ar ôl y rhyfel yn yr ugeinfed ganrif. 

Mr Jowhor Ile

Yr Athro Matthew Jarvis

Rwyf wedi cyhoeddi ymchwil sylweddol sy'n arwain y ddisgyblaeth ar hanes llenyddiaeth Saesneg Cymru. Fy meysydd ffocws penodol yw barddoniaeth Saesneg Cymru yn yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, a chysylltiadau rhwng llenyddiaeth a llefydd yng Nghymru. Rwyf wedi gweithio'n fwy cyffredinol ar ddarlleniadau amgylcheddol o lenyddiaeth a damcaniaeth ecofeirniadol. Fel bardd sydd wedi cyhoeddi ac arddangos ei waith, rwy’n gweithio'n arbennig ar groestoriadau rhwng yr amgylchedd ac ymarfer creadigol, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn ymarfer barddonol arbrofol (sy’n ymestyn y tu hwnt i fformat llyfrau). Rwy'n agored i arolygu ymchwil ddoethurol yn unrhyw un o'r meysydd hyn.

Yr Athro Richard Marggraf-Turley

Rwyf wedi cyhoeddi'n helaeth ar lenyddiaeth a diwylliant ehangach y cyfnod Rhamantaidd, gan ddatblygu dulliau rhyngddisgyblaethol sy'n cysylltu astudiaethau llenyddol â meysydd gan gynnwys ecoleg, astudiaethau bwyd, astudiaethau gwyliadwriaeth a hanes gwyddoniaeth. Mae fy monograffau ar bynciau Rhamantaidd yn cynnwys Keats’s Boyish Imagination (Routledge, 2004), Bright Stars: John Keats, Barry Cornwall and Romantic Literary Culture (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2009) ac yn fwyaf diweddar Fantastic Shapes: Topology and Textuality in Romantic Poetry(Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2026), sef astudiaeth o ofod a ffurf destunol mewn barddoniaeth Ramantaidd.  Y tu hwnt i gyhoeddi academaidd, rwy'n meithrin cyswllt â chynulleidfaoedd ehangach trwy ymddangosiadau yn y cyfryngau, darlithoedd cyhoeddus, gwaith allgymorth mewn ysgolion, a chynadleddau rhyngwladol. Mae hyn yn adlewyrchu fy ymrwymiad i ddangos perthnasedd parhaus ysgolheictod llenyddol i heriau moesegol, diwylliannol a gwleidyddol y byd cyfoes. Rwyf hefyd yn Ymddiriedolwr ac yn Gadeirydd ar Sefydliad Keats. Rwy'n croesawu cynigion ymchwil yn y meysydd uchod

Yr Athro Louise Marshall

Dr Ann Matthews

Rwy'n ysgrifennu'n greadigol ac yn feirniadol ar berthnasoedd â lle ar draws barddoniaeth arbrofol a straeon byrion (ysgrifennu natur a seicoddaearyddiaeth). Mewn gweithiau hirach, mae’r dulliau hyn o ymdrin â lle yn ymestyn i ysgrifennu hunangofiannol sy'n edrych yn fanwl ar ffyrdd o ysgrifennu am wrthddiwylliant a chymuned yng Nghymru. Mae fy mhrif ddiddordeb ymchwil yn ymwneud â defnyddio gwaith maes, cof a deunyddiau archifol i ymateb i’n tirweddau a’n tirluniau bywyd fel unigolion ac fel cymunedau. Mae fy ymchwil wedi'i llywio gan gysyniadau ôl-strwythurol o luosogrwydd a bywyd bob dydd.

Dr Beth Rodgers

Fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw llenyddiaeth Oes Fictoria, cyfnodolion a’r diwylliant argraffu (yn enwedig cylchgronau merched y bedwaredd ganrif ar bymtheg), llenyddiaeth plant, ysgrifennu gan fenywod, llenyddiaeth Wyddelig a hanes addysg. Mae fy mhrosiect ymchwil ar hyn o bryd, ar yr awdur Gwyddelig L.T. Meade, yn dod â'r holl bethau hyn at ei gilydd i ystyried y datblygiadau wrth broffesiynoli llenyddiaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Byddai gen i ddiddordeb mewn arolygu prosiectau yn unrhyw un o'r meysydd hyn, yn enwedig y rhai sy'n canolbwyntio ar awduron nad ydynt yn ganonaidd. 

Dr Lucy Thompson

Rwy'n gweithio ar lenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir, yn enwedig ysgrifennu'r cyfnod Rhamantaidd. Fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw gwyliadwriaeth, rhywedd ac anabledd. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn ffurfiau ar arsylwi sy'n gweithredu nid yn unig drwy sefydliadau, ond hefyd drwy gysylltiadau cymdeithasol bob dydd: cario clecs, craffu, dyfalu, hunan-fonitro, arsylwi meddygol, a phwysau barn gymunedol. Mae fy ngwaith yn cael ei lywio gan Astudiaethau Anabledd Beirniadol a'r dyniaethau meddygol, ac rwyf wedi cyhoeddi ar awduron gan gynnwys William Godwin, Percy Shelley, Byron, Jane Austen, Charlotte Smith, a Maria Edgeworth. Byddai gen i ddiddordeb mewn arolygu prosiectau ar lenyddiaeth Ramantaidd a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ysgrifennu Gothig, llenyddiaeth fin-de-siècle, astudiaethau gwyliadwriaeth, astudiaethau anabledd, rhywedd ac ymgorfforiad, hunanreoleiddio, dyniaethau meddygol, a meysydd cysylltiedig hanes diwylliannol.

Dr Luke Thurston

Fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw llenyddiaeth Fictoraidd a modernaidd, straeon ysbrydion a seicdreiddiad. Ymhlith fy nghyhoeddiadau mae Understanding Sublimation in Freudian Theory and Modernist Literature (Routledge, 2024), Literary Ghosts from the Victorians to Modernism: the Haunting Interval (Routledge, 2012), a James Joyce and the Problem of Psychoanalysis (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2004). Rwyf hefyd wedi cyd-olygu The Routledge Handbook to the Ghost Story (2018), golygu Re-inventing the Symptom:  Essays on the Final Lacan (Other Press, 2002), a chyfieithu The Unfinished Copernican Revolution gan Jean Laplanche (UiT, 2020). Fi yw Cyfarwyddwr Canolfan David Jones, ac rwy'n croesawu cynigion ymchwil ym meysydd llenyddiaeth a seicdreiddiad, moderniaeth neu straeon ysbrydion.

Dr Malte Urban

Dr Alice Vernon

Rwy'n ysgrifennu ffuglen a ffeithiol, gyda diddordeb arbennig yn y genre arswyd, ysbrydion ac ysbrydegaeth, cwsg a breuddwydion, yn ogystal â gwaith Shirley Jackson a ffuglen drosedd yr Oes Aur. Rwyf wedi ysgrifennu dau lyfr ffeithiol, Night Terrors (Icon Books, 2022) a Ghosted (Bloomsbury, 2025), ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar brosiect ffuglen arswyd. 

Yr Athro Tim Woods

Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ffuglen a barddoniaeth Prydain ac America yn yr 20fed a’r 21ain ganrif; moderniaeth ac ôl-foderniaeth; damcaniaeth lenyddol, yn enwedig Marcsiaeth ac ôl-strwythuraeth; a llenyddiaeth Saesneg Affrica. Amrywiaeth o gyhoeddiadau gan gynnwys Beginning Postmodernism (1999; ail gyhoeddiad, 2009), Who's Who of Twentieth-Century Novelists (2000), The Poetics of the Limit (2002), cyd-awdur Literatures of Memory (2001), ac African Pasts: History and Memory in African Literature (2007). Fe wnes i gyd-olygu 'I'm telling you Stories': Jeanette Winterson and the Politics of Reading (1998), Critical Ethics (1999) a The Ethics of Literature (1999). Yn ogystal â gwaith ar Paul Auster, Kurt Vonnegut, Nuruddin Farah, cylchgronau gwasg fach Americanaidd a moderniaeth Affricanaidd, mae fy erthyglau diweddar wedi ymddangos yn Journal of American Studies (George Oppen; Frank Samperi), Textual Practice (Llenyddiaeth a Hawliau Dynol), Paideuma (Cid Corman) a'r International Journal of Welsh Writing in English (Vernon Watkins). Byddwn yn awyddus i arolygu unrhyw brosiectau yn y meysydd hyn.

Dr Jacqueline Yallop

Rwy'n nofelydd ac yn awdur ffeithiol greadigol. O fewn y disgyblaethau hynny, mae gennyf ddiddordebau ymchwil eang gan gynnwys ffuglen lenyddol a hanesyddol, ffuglen drosedd, ysgrifennu natur a hunangofiannau. Gyda chefndir fel curadur amgueddfa, rwyf hefyd yn gweithio ar brosiectau amlddisgyblaethol, ac rwy’n mwynhau croestoriadau â chelf gain a chelfyddyd addurnol, ffilm a hanes diwylliannol. Mae fy ngwaith diweddar yn cynnwys Fiction in the Field (Bloomsbury, 2026) a ymchwiliodd i dechnegau ysgrifennu creadigol allweddol yn y 'byd go iawn', ac Into the Dark (Icon, 2024) a oedd yn archwilio tywyllwch mewn celf a llenyddiaeth, athroniaeth, gwyddoniaeth a natur. Rwyf hefyd yn arwain y Ganolfan Creadigrwydd a Lles, ac yn croesawu cynigion ymchwil sy'n cyd-fynd ag ymrwymiad y Ganolfan i newid bywydau trwy ymarfer creadigol.