Cyfleusterau a Chyfleoedd

Mae myfyrwyr ôl-raddedig yr adran yn rhan o ddiwylliant ymchwil bywiog a chefnogol. Ochr yn ochr â'u hastudiaethau, mae gan fyfyrwyr fynediad at ystod eang o gyfleoedd, gan gynnwys encil ysgrifennu blynyddol, cynadleddau i ôl-raddedigion, grwpiau darllen arbenigol, a chydweithrediadau â sefydliadau llenyddol a diwylliannol blaenllaw. Maent hefyd yn elwa ar gysylltiadau â chanolfannau ymchwil rhyngddisgyblaethol ledled y brifysgol.

Anogir ein myfyrwyr i ddatblygu eu gwaith drwy drafodaethau ag eraill, boed hynny trwy weithdai, digwyddiadau cyhoeddus, profiadau diwylliannol fel Gŵyl y Gelli, neu adnoddau llyfrgell neu archifol helaeth yr adran. At ei gilydd, mae’r cyfleoedd hyn yn helpu i greu amgylchedd sy’n uchelgeisiol yn ddeallusol, lle gall myfyrwyr ôl-raddedig ddatblygu fel ymchwilwyr, awduron ac aelodau o gymuned academaidd ehangach.

Grwpiau Darllen Arbenigol

Rydym yn cynnig cymorth i sefydlu eich grwpiau darllen arbenigol eich hun, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr ôl-raddedig yn cael cyfle i chwarae rhan weithredol wrth ddatblygu diwylliant ymchwil cyffredinol yr Adran. Anogir cyfraniadau sy'n adeiladu ar feysydd ymchwil sylfaenol yr Adran sef 'Lles Creadigol', 'Lle a Pherthyn', a 'Bywydau Emosiynol'. 

Canolfannau Ymchwil

Mae myfyrwyr ymchwil yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith a gaiff ei feithrin gan ganolfannau ymchwil arbenigol, megis Canolfan Lles Creadigol yr Adran, a chanolfannau ymchwil cytras eraill o fewn y Brifysgol, megis y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, y Ganolfan Meddwl yn Faterol, a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.  

Seminarau Ymchwil Ôl-raddedig/Staff

Gallwch fod yn rhan o gyfres o seminarau rhyngweithiol lle mae staff, myfyrwyr a siaradwyr gwadd yn dod at ei gilydd i rannu ac arddangos eu hymchwil.  

Y Celfyddydau a Diwylliant

Nodwedd flynyddol yn ein calendr yw’r tripiau i ŵyl fyd-enwog y Gelli, a byddwch hefyd yn cael gostyngiad ym mhrisiau perfformiadau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. 

Adnoddau'r Llyfrgell

Lleolir yr Adran yn Adeilad Hugh Owen, sydd hefyd yn gartref i brif lyfrgell y Brifysgol, sef Llyfrgell Hugh Owen. Yn ogystal â chasgliad eclectig o lyfrau prin a Chasgliad Horton (dros 800 o eitemau yn ymwneud â llenyddiaeth plant y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg), cefnogir ymchwil yn Aberystwyth gan adnoddau helaeth, gan gynnwys mynediad at ystod eang o ddeunyddiau electronig. 

Mae’r Brifysgol yn ffodus iawn bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru – un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU - ond pum munud ar droed o’r campws. Mae hwn yn adnodd arbennig ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig: mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn dal tua 6 miliwn o lyfrau yn ogystal â chasgliadau helaeth o gyfnodolion a phapurau newydd, ac mae'r nifer yn tyfu'n gyson. Mae ganddi gasgliadau heb eu hail o destunau cynradd, gan gynnwys llawysgrif Hengwrt o Chwedlau Caergaint gan Chaucer, casgliad o fri rhyngwladol o lenyddiaeth Saesneg Cymru, a stoc helaeth o lenyddiaeth o gyfnod y Dadeni, y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r ugeinfed ganrif. Yn ogystal, mae ganddi archifau hanesyddol helaeth - sy'n cynnwys papurau personol unigolion cyhoeddus a sefydliadau, cofnodion eglwysi, data'r cyfrifiadau, cofnodion cyfreithiol a dinesig, deunydd print, recordiadau sain a chofnodion electronig – sy'n amrywio o ran dyddiad o'r Oesoedd Canol hyd heddiw.