Ffotograffiaeth Goffa

Yn ystod wythnos y graddio bydd Ede & Ravenscroft yn cynnig ffotograffau portread yn stiwdio Adeilad Parry Williams.

Bydd rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar gael erbyn diwedd mis Ebrill.

Cynllunio eich diwrnod

Cyn cael lluniau swyddogol bydd angen i chi gasglu eich gŵn a archebwyd ymlaen llaw.  Gallwch gael tynnu’ch lluniau cyn, neu ar ôl, eich seremoni, sy'n rhoi hyblygrwydd i’ch trefniadau chi ar y diwrnod.

Yn ogystal â’r lluniau portread a dynnir yn Adeilad Parry Williams, bydd lluniau eraill a dynnir gan Ede & Ravenscroft i goffáu’r diwrnod, gan gynnwys:

  • lluniau o’r cyflwyno wrth i fyfyrwyr groesi'r llwyfan yn y Neuadd Fawr yn ystod y seremoni;
  • llun grŵp mawr o'r carfan sy'n graddio, a dynnir fel arfer ar ôl y seremoni ar risiau LaScala o flaen Canolfan y Celfyddydau.

Gŵn

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sy'n graddio wisgo'r wisg academaidd gywir yn eu seremoni raddio.   Mae rhagor o wybodaeth am sut i archebu eich gwisg cyn y diwrnod ar gael yn yr adran am wisgoedd ar ein tudalennau gwe.

Seremonïau Gorffennaf 2025

Yn ystod wythnos y graddio Ede & Ravenscroft oedd cynnig ffotograffau portread.
Mae manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau yn ymwneud ag archebion i’w gweld isod:

Ffurflen cymorth Ede & Rovenscroft
Ede & Rovenscroft cwestiynau cyffredin

Rhif cyswllt Ede & Ravenscroft : 01223 861 854

Diweddarwyd: 11/2/26

Sylwer bod gan y Brifysgol berthynas fasnachol â Ede & Ravenscroft ac mae’n derbyn comisiwn yn seiliedig ar y nifer o gynau â archebwyd. Mae hyn yn ein galluogi i gynnal y seremonïau graddio heb godi costau tocynnau.