Cwestiynau Cyffredin
Mae’n bleser i’ch hysbysu y bydd seremonïau Graddio 2020 nawr yn cael eu cynnal yn ystod haf 2021.
Graddio yw uchafbwynt y flwyddyn i’r Brifysgol ac mi fyddwch yn cofio i ni benderfynu yn gynnar iawn yn y cyfnod hwn o gyfyngiadau na fyddem yn cynnal seremoniau eleni.
Nid yw’r union ddyddiadau ar gyfer 2021 wedi eu cytuno eto, ond rydym ni oll yma yn y Brifysgol yn edrych ymlaen at groesawu’r rhai ohonoch sydd fod graddio eleni yn ôl i Aber y flwyddyn nesaf ac i gyd-ddathlu eich llwyddiannau gyda chi.
Yn y cyfamser, gallwn gadarnhau y bydd y rhai ohonoch sydd fod graddio eleni yn derbyn eich tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd terfynol ganol mis Awst. Er mwyn hwyluso hyn, rydym yn gofyn i chi sicrhau bod eich manylion personol, gan gynnwys eich cyfeiriad cartref, wedi eu diweddaru ar eich cofnod myfyriwr erbyn 24 Gorffennaf fan bellaf. Bydd gan raddedigion 2020 fynediad i'w e-bost aber tan Orffennaf 2021, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gwirio yn rheoleiddiol tan y seremonïau graddio'r flwyddyn nesaf.
Diweddarwyd 27/05/2020
Gohirio Seremoniau Gorffennaf 2020
1 Pam bod y penderfyniad i ganslo seremonïau graddio sydd wedi eu hamserlennu ar gyfer y 14eg-17eg o Orffennaf 2020 wedi ei wneud?
Oherwydd achos byd-eang coronafeirws, gwnaed penderfyniad i ohirio seremonïau graddio 2020 Prifysgol Aberystwyth.
Er y gall myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf raddio, o dan yr amgylchiadau presennol ni allwn fod yn siŵr pryd y byddwn mewn sefyllfa i gynnal dathliad o’u llwyddiant. Unwaith y byddwn yn gwybod pryd y mae'n debygol o fod yn ddiogel ac yn gyfrifol i gynnal y digwyddiadau hyn, byddwn yn rhannu’n cynlluniau ddiweddaru gyda chi.
2 Pryd bydd dyddiadau’r seremonïau sydd wedi’u haildrefnu ar gael?
Unwaith y byddwn yn gwybod pryd y mae'n debygol o fod yn ddiogel ac yn gyfrifol i gynnal y digwyddiadau hyn, byddwn yn rhannu’n cynlluniau ddiweddaru gyda chi. Mae seremonïau graddio yn creu atgofion bythgofiadwy i'n myfyrwyr a'u teuluoedd ac rwy'n benderfynol o sicrhau nad oes unrhyw un ar ei golled.
Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu diweddaru gyda diweddariadau pwysig drwy eu cyfrif e-bost Prifysgol. Yn ogystal, bydd gwybodaeth yn cael ei gyhoeddi ar dudalennau we graddio.
3. Pryd bydd angen i mi gofrestru ar gyfer y seremonïau sydd wedi eu haildrefnu?
Hysbysir myfyrwyr gyda’r amserlen cofrestru unwaith y bydd dyddiadau’r seremonïau newydd wedi’u cadarnhau.
4. Mae gen i archeb i aros mewn llety a reolir gan y Brifysgol yn ystod y seremonïau sydd wedi eu gohirio, sut ydw i’n trefnu ad-daliad?
Bydd ein tîm yn y Swyddfa Gynadleddau mewn cysylltiad â’r rheiny sydd wedi bwcio i aros yn llety’r Brifysgol. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Swyddfa Gynadleddau ar 01970 621960/ conferences@aber.ac.uk
5. A yw gohirio graddio yn effeithio ar ddyfarniad fy ngradd?
Mae’n bwysig pwysleisio nad yw ein penderfyniad yn effeithio ar y Brifysgol yn dyfarnu eich gradd. Dyfernir eich gradd, ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion eich cwrs, mewn cyfarfod o Fwrdd Arholi’r Brifysgol yn unol â’n trefn arferol.
Cofrestru ar gyfer Graddio – Dod neu Beidio
1. A ydw i’n gymwys i ddod i’r seremoni raddio?
Rydych yn gymwys i ddod i’r seremoni raddio os byddwch wedi cwblhau eich gradd yn llwyddiannus yn ystod y flwyddyn academaidd yma neu wedi derbyn cymhwyster o Brifysgol Aberystwyth gydag eithrio Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion. Bydd gan gymwysterau Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion seremoni ar wahân. Bydd myfyrwyr a gwobrwy cymhwyster yn llwyddiannus ar ôl dechrau mis Gorffennaf yn gymwys i ddod i’r seremonïau graddio nesaf ym mis Gorffennaf y flwyddyn canlynol.
2. Sut mae cofrestru ar gyfer graddio?
Cewch ebost yn gofyn i chi fewngofnodi i’ch Cofnod Myfyriwr ar y we i gwblhau’r broses Cofrestru ar gyfer Graddio. Fe welwch fotwm o dan 'Fy Nhasgau' ar dudalen flaen eich Cofnod Myfyriwr.
Fe'ch cynghorir ymlaen llaw pryd fydd y dasg hon yn agor, ynghyd â'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau (hysbysiad trwy e-bost / diweddariadau a bostir ar-lein ac a gynhwysir yn y neges e-bost wythnosol i fyfyrwyr a staff).
3. Beth os nad oes gennyf mynediad i fy Cofnod Myfyriwr ragor?
Mi ddylai bob myfyriwr a ddysgi’r bod a mynediad i’w Cofnod Myfyriwr ar y we ar yr amod eich bod yn defnyddio’r un e-bost myfyriwr a chyfrinair fel oedd gennych yn ystod eich cofrestriad.
Os nad oes gweinyddwch fynediad i'ch cofnod ragor, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich cyfrif e-bost preifat a gofyn i chi ddefnyddio dolen bydd yn yr e-bost er mwyn cwblhau eich dewis Graddio.
Os nad ydych yn derbyn e-bost neu os nad oes gennych fynediad at eich Cofnod Myfyriwr dylech gysylltu gaostaff@aber.ac.uk am fwy o wybodaeth a chymorth bellach.
4. Beth os nad ydw i am ddod i’r seremoni?
Nid oes raid i chi ddod i’r seremoni. Cewch raddio in absentia; y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau’r dasg Graddio ar eich Cofnod Myfyriwr ar-lein pan fydd ar gael. Mae’n hollbwysig eich bod yn cwblhau’r dasg hon er mwyn i ni wybod bod y manylion a argraffwn ar eich tystysgrif gradd yn gywir a’n bod yn ei phostio i’r cyfeiriad cartref cywir.
5. A oes modd i mi ohirio dod i seremoni raddio?
Darperir gwybodaeth bellach i fyfyrwyr am yr opsiwn i ohirio presenoldeb am flwyddyn pan eu gwahoddir i gofrestru ar gyfer graddio.
6. Rwyf eisoes wedi cael fy nhystysgrif gradd. A gaf fi ddod i seremoni serch hynny?
Cewch, os cofnodwyd eich bod eisiau mynychu seremoni, byddwch yn cael eich gwahodd i gofrestru yn swyddogol i fynychu. Os nodir eich bod eisiau Graddio yn Absentia, ni fyddwch yn cael eich gwahodd i fynychu.
7. Methais y digwyddiad y llynedd. A gaf fi ddod i’r digwyddiad hwn?
Os bu i chi gysylltu chi â ni yn gaostaff@aber.ac.uk i ohirio dod i’r seremoni y llynedd byddwch yn gymwys i ddod i’r seremoni raddio nesaf.
Os bu i chi ddweud eich bod yn mynd i fod yn bresennol ac na ddaethoch i’r seremoni, ni chewch ddod i seremoni arall yn y dyfodol.
Os na wnaethoch ddim byd y llynedd ac os na chawsom wybod gennych a oeddech yn bwriadu dod i’r seremoni raddio ai peidio byddwch yn awtomatig wedi graddio in absentia ac ni chewch ddod i seremoni arall yn y dyfodol.
8. Mae’n bosib bod arna i arian i’r Brifysgol o hyd. A gaf fi ddod i’r seremoni?
Os oes arnoch chi arian ffioedd i’r Brifysgol ni chewch ddod i’r seremoni raddio na derbyn eich tystysgrif hyd nes y byddwch wedi talu eich dyledion. Mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi talu eich holl ddyledion erbyn diwedd mis Mai. Os nad ydych yn siŵr a oes arnoch arian i’r Brifysgol fe’ch cynghorir i gysylltu â’r Swyddfa Ffioedd yn ffioedd@aber.ac.uk
9. Sut mae cael llythyr i gael fisa i ddod i'r seremoni raddio?
Ein Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (e-bost: immigrationadvice@aber.ac.uk) sy’n ymdrin â llythyron gwahoddiad i seremonïau graddio. Cynigir y gwasanaeth hwn i fyfyrwyr yn unig sydd wedi gadael y DU ond sydd am ddychwelyd i Aberystwyth i ddod i’w seremoni raddio. Ni all y Brifysgol ddarparu llythyrau gwahoddiad i deulu/ffrindiau darpar-raddedigion. Dylai teulu a ffrindiau wneud cais am ‘fisa ymweld cyffredinol’. Gweler yma https://www.gov.uk/standard-visitor-visa am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y Seremoni
1. Pryd y cynhelir y seremonïau?
Oherwydd yr achos Coronafeirws fyd-eang, gwnaed penderfyniad i ohirio seremonïau graddio Gorffennaf 2020 Prifysgol Aberystwyth. Unwaith y byddwn yn gwybod pryd y mae'n debygol o fod yn ddiogel ac yn gyfrifol i gynnal y digwyddiadau hyn, byddwn yn diweddaru staff a myfyrwyr gyda'n cynlluniau.
2. Ble mae’r seremonïau’n cael eu cynnal?
Cynhelir yr holl seremonïau yng Nghanolfan y Celfyddydau ar Gampws Penglais yn Aberystwyth.
(http://www.aber.ac.uk/cy/maps-travel/maps/penglais/)
3. Beth yw’r trefniadau eistedd yn y seremoni?
Caiff y trefniadau eistedd eu cynllunio’n ofalus er mwyn i chi gyrraedd y llwyfan wrth i’ch enw gael ei alw. Bydd tîm o staff wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i’ch sedd. Ar ôl i chi ddod o hyd i’ch sedd, peidiwch â newid sedd ag unrhyw un arall, oherwydd gallai hynny olygu bod yr enw anghywir yn cael ei alw pan fyddwch ar y llwyfan.
4. Beth os nad ydw i am ddod i’r seremoni?
Nid oes raid i chi ddod i’r seremoni. Cewch ddewis i beidio mynychu; y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau’r dasg Graddio ar eich Cofnod Myfyriwr ar-lein pan fydd ar gael. Mae’n hollbwysig eich bod yn cwblhau’r dasg hon er mwyn i ni wybod bod y manylion a argraffwn ar eich tystysgrif yn gywir a’n bod yn ei phostio i’r cyfeiriad iawn.
Tocynnau
1. Sawl tocyn i westeion fydd ar gael i mi?
Bydd pob myfyriwr sydd wedi cofrestru i ddod i’r seremoni yn cael dau docyn i westeion. Bydd mynediad i'r seremoni ar gyfer yr holl westeion trwy docyn yn unig. Nid oes angen tocyn ar y myfyrwyr sy’n Graddio, cewch sedd yn y seremoni cyhyd â’ch bod wedi cwblhau’r dasg Graddio ar eich Cofnod Myfyriwr yn unol â’r dyddiad cau a ddarperir.
2. Ble fydda i’n casglu fy nhocynnau?
Bydd tocynnau eich gwesteion ar gael i’w casglu pan gofrestrwch wrth y Ddesg Gofrestru yn y Stiwdio Berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau ar ddiwrnod eich seremoni.
3. Beth os oes arnaf eisiau mwy na dau docyn i westeion?
Ar ôl i bob myfyriwr gofrestru, os fydd unrhyw docynnau sbâr ar gael i’n seremonïau, byddwn yn cynghori myfyrwyr ar y broses i gofrestru cais am docyn ychwanegol. Nodwch, fodd bynnag, y bydd unrhyw ‘Docynnau Ychwanegol’ yn cael eu dyrannau ar sail cyntaf i’r felin, felly anogir myfyrwyr i gwblhau unrhyw dasg ‘Tocynnau Ychwanegol’ cyn gynted â phosib.
Er mai nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael i’r seremonïau, gallwch ddod â rhagor o deulu a ffrindiau gyda chi i’r digwyddiad, oherwydd, bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw i Sinema Canolfan y Celfyddydau, ac ar sgriniau yn Undeb y Myfyrwyr. Felly hyd yn oed os nad oes modd i’ch teulu a’ch ffrindiau gael tocyn ychwanegol, byddant yn dal i allu bod yn rhan o’ch diwrnod arbennig.
Eich Gwisg/Gŵn
1. Oes raid i mi wisgo gwisg/gŵn i’r seremoni?
Oes. Er mwyn cael dod i’r seremoni mae’n RHAID i chi wisgo gwisg/gŵn. Os na fyddwch yn gwisgo gwisg/gŵn ni chewch ddod i’r seremoni.
2. Oes angen i mi archebu gwisg/gŵn cyn y seremoni raddio?
Oes. Mae’n rhaid i chi archebu eich gwisg/gŵn cyn y seremoni er mwyn sicrhau y bydd un ar gael i chi ar y diwrnod. I archebu eich gwisg/gŵn ewch i Gŵn ar y wefan hon.
3. Pryd fydda i’n casglu fy ngwisg/gŵn?
Byddwch yn casglu eich gwisg/gŵn ar ddiwrnod eich seremoni. Bydd staff wrth law i ddangos i chi ble mae’r ardal wisgo. Darperir gwybodaeth bellach cyn y seremonïau.
4. Beth fydd ei angen arnaf er mwyn casglu fy ngwisg/gŵn?
Bydd angen i chi gyflwyno cerdyn adnabod ffoto (ee Cerdyn Aber), pan fyddwch yn dymuno casglu eich gwisg/gŵn. Bydd hefyd angen i chi gael mynediad i'ch negeseuon e-bost oddi wrth y cwmni llogi gŵn yn achosion prin le mae ymholiad gyda'ch archeb.
5. Sut mae gwisgo fy nghap a’m gwisg?
Bydd y staff gwisgoedd wrth law i’ch helpu ac i wneud yn siŵr eich bod wedi’ch gwisgo’n iawn. Er mwyn i chi fod yn gyfforddus ac am resymau ymarferol rydym yn argymell eich bod yn gwisgo top neu grys-t â botymau sy’n cau hyd at y gwddf, oherwydd bydd hynny’n ei gwneud yn haws rhoi eich cwfl yn sownd. Byddai’n dda o beth hefyd dod â chlipiau gwallt i gadw’r cap yn ei le.
Diwrnod Graddio
1. Pryd ddylwn i gyrraedd ar y diwrnod?
Dylech gyrraedd yn ddigon cynnar i gael amser i gofrestru a chasglu eich gwisg heb orfod rhuthro. Cofiwch y bydd yn ddiwrnod prysur ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros i gofrestru a chasglu eich gwisg. Darperir gwybodaeth bellach cyn y seremonïau er mwyn i chi gynllunio’ch diwrnod.
2. Pryd mae angen i mi fod yng Nghanolfan y Celfyddydau?
Gofynnir i chi ddod i’r ymarferion yng Nghanolfan y Celfyddydau cyn dechrau’r seremoni. Darperir gwybodaeth bellach cyn y seremonïau er mwyn i chi gynllunio’ch diwrnod.
3. Beth wnaf fi gyntaf?
Y peth cyntaf i’w wneud fydd cofrestru. Gallwch wneud hynny yn y Stiwdio Berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau.
4. Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n hwyr?
Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr ac rydych wedi colli cofrestru dylech fynd draw i'r Ddesg Gofrestru ar unwaith lle bydd staff wrth law i helpu.
5. Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cofrestru?
Wrth gofrestru cewch gerdyn adnabod a’ch enw a rhif eich sedd arno, ticed i gasglu eich tystysgrif ynghyd â'ch tocynnau gwesteion. Cadwch eich cerdyn adnabod yn ddiogel oherwydd bydd angen i chi ei roi i’r Prif Farsial wrth i chi fynd i’r llwyfan i dderbyn eich cymhwyster yn y seremoni.
6. Ble a phryd ddylwn i gasglu fy nghap a’m gwisg/gŵn?
Dylai myfyrwyr darpar-raddedig sy’n derbyn gradd Aberystwyth llogi Gwisg Academaidd – gweler Gŵn ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth.
7. Sut fydda i’n gwybod beth i’w wneud yn ystod y seremoni?
Rydym yn cynnal ymarferion ar gyfer pob seremoni.
Mae’n hollbwysig bod pob myfyriwr yn dod i’r ymarfer er mwyn cael gwybod beth yw trefn y seremoni. Mae’r ymarferion yn para tua hanner awr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eistedd yn y sedd iawn fel y’i dangosir ar eich cerdyn adnabod y byddwch wedi’i gasglu wrth gofrestru.
8. A gaf fi ddewis ble i eistedd yn y seremoni?
Na chewch. Mae’n bwysig eich bod yn eistedd yn y sedd a glustnodwyd i chi. Dangosir rhif eich sedd ar eich cerdyn adnabod a roddir i chi wrth gofrestru. Mae’n bwysig cadw’r cerdyn yn ddiogel oherwydd gofynnir i chi ei roi i’r Prif Farsial cyn i chi fynd ar y llwyfan. Os nad ydych yn siŵr ym mha sedd y dylech eistedd bydd aelod o’r staff wrth law i’ch helpu.
9. Beth fydd ei angen arnaf yn y seremoni?
Bydd yn rhaid i chi fod wedi’ch gwisgo’n briodol yn eich gwisg. Gwnewch yn siŵr bod eich cerdyn adnabod gennych (cewch hwn wrth gofrestru); bydd yn rhaid i chi ei roi i’r Prif Farsial cyn mynd ar y llwyfan.
Cofiwch na fyddwch o reidrwydd yn mynd yn ôl i’r un sedd ar ôl cael eich gradd. Felly gwell fyddai peidio mynd â bagiau llaw, camerâu ac ati gyda chi i’r seremoni.
Rhaid i’r myfyrwyr fod yn eu seddi 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau.
10. Beth fydd yn digwydd yn y seremoni?
Yn y seremoni, cewch eich “cyflwyno” i’r Is-Ganghellor gan Gyflwynydd a fydd yn darllen eich enw ac enwau eich cyd-fyfyrwyr sy’n derbyn yr un radd. Pan glywch eich enw, byddwch yn croesi’r llwyfan at y Is-Ganghellor. Yna byddwch yn mynd yn ôl i eistedd. Pan fydd pawb wedi cael y radd benodol honno, gofynnir i chi sefyll a derbyn Cyfarchion Is-Ganghellor y Brifysgol.
Y Drefn:
- Bydd Marsial yn dod i’ch nôl chi o’ch seddi pan fydd yn bryd i chi fynd ar y llwyfan i’ch cyflwyno i’r Is-Ganghellor.
- Dilynwch y Marsial ac arhoswch mewn drefn.
- Bydd y Cyflwynydd yn darllen enwau’r myfyrwyr i gyd.
- Pan glywch eich enw byddwch yn cerdded tuag at yr Is-Ganghellor.
- Bydd y Marsialiaid yn mynd â chi’n ôl i eistedd.
Pan fydd pawb wedi’u cyflwyno ar gyfer cymhwyster penodol (e.e.. pob ymgeisydd BA), gofynnir i’r holl fyfyrwyr sefyll i dderbyn eu gradd gan yr Is-ganghellor a derbyn Cyfarchion Llywydd y Brifysgol.
11. A gaf fi adael cyn gynted ag y byddaf wedi derbyn fy nghymhwyster?
Heblaw mewn argyfwng, mae disgwyl i’r myfyrwyr aros yn eu seddi drwy gydol y seremoni.
12. Am ba hyd y bydd y seremoni’n parhau?
Bydd y seremoni’n para tuag 1 awr ac 20 munud. Mae ymarfer 30 munud cyn pob seremoni lle mae’n rhaid i’r myfyrwyr fod yn bresennol.
13. Sut mae cael rhaglen i gofio’r digwyddiad a faint maen nhw’n ei gostio?
Bydd rhaglenni wedi’u hargraffu ar gael i chi wrth gofrestru ac yn lleoliad y seremoni. Maent am ddim i’r myfyrwyr a’u gwesteion.
14. A gaf fi gasglu fy nhystysgrif ar y diwrnod?
Darperir gwybodaeth bellach am dystysgrifau gradd pan fydd dyddiadau’r seremonïau wedi’u cadarnhau.
15. Beth fydd yn digwydd ar ôl y seremoni?
Yn syth wedi’r seremoni, fe’ch gwahoddir i ymgynull ar risiau La Scala, y tu allan i Ganolfan y Celfyddydau, ar gyfer lluniau adrannol. Bydd yr adeiladau ar y campws yn agored ac mae croeso i ymweld â'r adrannau yn ystod y diwrnod. Mae'r rhan fwyaf o adrannau'n cynnal eu derbyniadau eu hunain, naill ai cyn neu ar ôl y seremoni. Bydd eich adran yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.
Tystysgrifau Gradd
Darperir gwybodaeth bellach mewn tystysgrifau dyfarnu unwaith y bydd dyddiadau'r seremoni wedi'u cadarnhau.
1. Mae fy nhystysgrif ar goll neu wedi dinistrio. Sut mae cael un arall yn ei lle?
Prifysgol Aberystwyth
Gall graddedigion a chanddynt radd Prifysgol Aberystwyth o 2010 ymlaen gael tystysgrif newydd yma
Prifysgol Cymru
Gall graddedigion a chanddynt radd Prifysgol Cymru gael tystysgrif newydd drwy gysylltu â Chofrestrfa Prifysgol Cymru. Cewch wybod sut i gael eich tystysgrif drwy glicio ar y ddolen Tystysgrifau Newydd.
Gwesteion ac Ymwelwyr
1. Ble mae’r seremoni’n cael ei chynnal?
Cynhelir y seremoni ar brif Gampws Penglais y Brifysgol yng Nghanolfan y Celfyddydau. Gweler mapiau a theithio.
2. Ble y dylen ni gasglu ein tocynnau i westeion?
Mae'r tocynnau gwesteion yn cael eu rhoi i'r myfyriwr pan fyddant yn cofrestru gyda'r Ddesg Gofrestru Graddio cyn y seremoni. Bydd presenoldeb yn y seremoni trwy docyn yn unig, fodd bynnag, gall gwesteion yn dal i ddod draw i fwynhau'r diwrnod gan fod yr holl seremonïau yn cael eu ffrydio'n fyw ar sgriniau mawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Sinema ac Undeb y Myfyrwyr.
3. A gaf fi a’m gwesteion dynnu lluniau yn ystod y seremoni?
Cewch, cewch chi a’ch gwesteion dynnu lluniau yn ystod y seremoni.
4. Ble fydda i a’m gwesteion yn parcio?
Bydd staff gwasanaethau’r campws wrth law i gyfeirio ymwelwyr at y meysydd parcio ar y campws. Caiff rhan o faes parcio Canolfan y Celfyddydau ei neilltuo i ddeiliaid trwydded anabl. Bydd gwasanaeth bws mini ar gael i ymwelwyr sy’n parcio yn y meysydd parcio sydd bellaf oddi wrth Ganolfan y Celfyddydau.
5. A oes darpariaeth i westeion anabl?
Gofynnir i fyfyrwyr y mae gan eu gwesteion ofynion arbennig gwblhau’r adran 'Gofynion Arbennig’ yn nhasg Graddio’r Cofnod Myfyriwr yn ystod mis Ebrill, a rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallant er mwyn i ni sicrhau ein bod yn gwneud trefniadau priodol. Bydd aelod o staff y Brifysgol hefyd yn cysylltu â chi yn nes at yr adeg y seremonïau i gadarnhau'r trefniadau. Dylai myfyrwyr sy’n cael trafferth agor y dasg hon gysylltu ag gaostaff@aber.ac.uk a rhoi manylion y gofynion arbennig.
6. Beth fydd yn digwydd ar ôl y seremoni?
Yn syth wedi’r seremoni, gwahoddir myfyrwyr i ymgynull ar risiau La Scala, y tu allan i Ganolfan y Celfyddydau, ar gyfer lluniau adrannol. Bydd yr adeiladau ar y campws yn agored ac mae croeso i ymweld â'r adrannau yn ystod y diwrnod. Mae'r rhan fwyaf o adrannau'n cynnal eu derbyniadau eu hunain, naill ai cyn neu ar ôl y seremoni. Bydd eich adran yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.
7. A oes lleoedd i fwyta?
Mae sawl lle i fwyta ar y campws ac yn y dref. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.