Ffair Yrfaoedd Hydref
Cysylltwch â chyflogwyr o ystod eang o sectorau yn ein Ffeiriau Gyrfaoedd yr Hydref. Dysgwch ragor am swyddi i raddedigion, interniaethau, profiad gwaith, gwaith rhan-amser, cyfleoedd gwirfoddoli a gwaith llawrydd.
GŵylGyrfaoedd
Mae GŵylGyrfaoedd yn ddathliad blynyddol o yrfaoedd, gan ddod â myfyrwyr, cyflogwyr a chyn-fyfyrwyr ynghyd am wythnos o gyfleoedd ac ysbrydoliaeth.
Paratoi at y Dyfodol
Mae Paratoi at y Dyfodol yn ddigwyddiad haf blynyddol sy’n helpu myfyrwyr i wella eu rhagolygon gyrfaol a meithrin eu hyder wrth baratoi ar gyfer graddio.
Gyrfaoedd Ganol Wythnos
Drwy weithdai rhyngweithiol wythnosol ar yrfaoedd, cyflogadwyedd a menter, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, yn ennill mewnwelediadau gwerthfawr ac yn magu hyder ar gyfer byd gwaith.
Recordiadau Gweithdai
Daliwch i fyny â holl recordiadau ein gweithdai a'n gweminarau ar draws y flwyddyn academaidd.
SgiliauAber
SgiliauAber yw cartref datblygu sgiliau ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ddarparu mynediad at adnoddau a chyfleoedd i gefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol.
