Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith
Mae'r cynllun BMG yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad gwaith cyflogedig gwerthfawr, datblygu eich sgiliau a gwella eich rhagolygon gyrfaol drwy dreulio blwyddyn mewn cyflogaeth yn ystod eich gradd.
Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol
Mae Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol yn cefnogi myfyrwyr israddedig blwyddyn olaf i gael cipolwg gwerthfawr ar yrfaoedd anacademaidd yn y sector Addysg Uwch.
Dod o Hyd i Gyflogaeth
P'un a ydych chi'n chwilio am swydd ran-amser i gyd-fynd â'ch astudiaethau, profiad gwaith i greu eich CV, neu rôl raddedig ar ôl y brifysgol, mae nifer o gyfleoedd ar gael ar y campws a thu hwnt.
Cyfleoedd Byd-eang
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau.
UndebAber
Mae myfyrwyr sydd am wirfoddoli yn gallu manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd drwy UndebAber, gan gynnwys gwirfoddoli cymunedol, diwrnodau gweithredu a phrosiectau a arweinir gan fyfyrwyr. Mae UndebAber hefyd yn cynnal Gwobr Wirfoddoli bwrpasol i gydnabod eich cyfraniadau.
Gwobr Sgiliau
Wedi'i datblygu mewn partneriaeth ag Undeb Aber, mae'r Wobr Sgiliau yn cydnabod ac yn dathlu'r sgiliau a'r profiad a enillwch drwy waith, gwirfoddoli a gweithgareddau allgyrsiol, gan eich helpu i arddangos eich cyflawniadau i gyflogwyr.
Hwb Gyrfaoedd
Hwb Gyrfaoedd yw eich man cychwyn i gael cymorth gyrfaoedd, o gyngor ar ysgrifennu CV a cheisiadau am swyddi i syniadau am yrfaoedd, profiad gwaith a chyfleoedd i raddedigion.
