Gyrfaoedd Ganol Wythnos

Gweithdy myfyrwyr

Cymerwch y cam nesaf tuag at eich dyfodol gyda Gyrfaoedd Ganol Wythnos.

Trwy ein gweithdai rhyngweithiol wythnosol ar themâu gyrfaoedd, cyflogadwyedd a mentergarwch, byddwch yn ennill sgiliau ac yn datblygu hyder i ffynnu mewn byd gwaith sy’n newid yn gyson.

Mae'r rhaglen hon o weithdai rhyngweithiol wythnosol yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn byd gwaith sy'n newid yn barhaus. Byddwch yn archwilio pynciau megis cynllunio gyrfa, ceisiadau am swyddi, cyfweliadau, rhwydweithio, menter a sgiliau proffesiynol.

Pam ymuno?

Mae cyflogwyr heddiw yn gwerthfawrogi mwy na chyflawniad academaidd. Maent yn chwilio am raddedigion sy'n gallu dangos hyder, hyblygrwydd, ymwybyddiaeth fasnachol a sgiliau cyflogadwyedd cryf. Mae Gyrfaoedd Ganol Wythnos yn eich helpu i feithrin y rhinweddau hyn, archwilio cyfleoedd, a pharatoi ar gyfer realiti recriwtio, gwaith a hunangyflogaeth.

Manteision

  • Gwella eich cyflogadwyedd a'ch parodrwydd ar gyfer gyrfa
  • Meithrin hyder yn eich sgiliau a'ch galluoedd
  • Cryfhau eich CV, eich ceisiadau a'ch techneg cyfweliad
  • Datblygu sgiliau mentergarwch a phroffesiynol
  • Ehangu eich rhwydwaith a chysylltu â myfyrwyr o'r un anian
  • Dysgu gan weithwyr proffesiynol ym maes gyrfaoedd, cyflogwyr a siaradwyr gwadd
  • Ennill mewnwelediad ymarferol i farchnad lafur graddedigion
  • Rhannu profiadau a dysgu gan eich cyfoedion

Sut i ddod o hyd i'r ystafell C64?

Mae adeilad Llandinam gyferbyn â Caffi Bach (Adeilad Gwendolen Rees).

Ewch i fyny’r grisiau concrit ac i mewn drwy’r drws ar y chwith. Ewch i'r dde tuag at y Ganolfan Uwchraddedig a throwch i'r chwith i fynd i fyny’r grisiau i'r llawr cyntaf.

Dilynwch y drws a'r coridor i'r dde. Ewch ar hyd y coridor hwn hyd nes y troad olaf i’r dde.

Mae C64 ar ben draw’r coridor ar y chwith.

Gyrfaoedd Ganol Wythnos – paratowch ar gyfer eich camau nesaf.