shortlist.me
Mae shortlist.me yn blatfform rhyngweithiol wedi'i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial (AI), wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, gwella eich ceisiadau am waith a meithrin eich hyder ar gyfer prosesau recriwtio.
Drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu, offer CV a gweithgareddau ymarfer cyfweld, gallwch baratoi ar gyfer ceisiadau am swyddi, canolfannau asesu a chyfweliadau ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Gweithgareddau Dysgu a Phrofion Addasrwydd
CV Co-pilot
Cyfweliadau Ymarfer
Mae shortlist.me yn fan cychwyn gwych, ond cofiwch ein bod ni yma i helpu hefyd. Os hoffech gymorth ychwanegol gyda'ch CV, eich ceisiadau neu paratoi ar gyfer cyfweliad, ymwelwch â'r Hwb Gyrfaoedd, Llyfrgell Hugh Owen (dydd Llun i ddydd Gwener, 10yb i 4yp yn ystod y tymor) neu anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk.
Er bod shortlist.me yn gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth, mae'n gweithredu fel gwasanaeth annibynnol gyda'i pholisi preifatrwydd a'i chanllawiau defnyddio ei hun.
