Gweithio yng Nghymru

Myfyrwyr yn sgwrsio a cyflogwyr yn y Ffair Gyrfaoedd

Mae Cymru yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i raddedigion, gyda chyflogwyr ledled y wlad yn chwilio am raddedigion talentog mewn sectorau gan gynnwys gofal iechyd, addysg, technoleg, cynaliadwyedd a busnes. 

O sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus a busnesau arloesol i fentrau cymdeithasol a busnesau bach a chanolig sy'n tyfu, mae Cymru yn cynnig cyfle i raddedigion ennill profiad gwerthfawr, ysgwyddo cyfrifoldeb yn gynnar a datblygu sgiliau newydd.

Fel cenedl ddwyieithog, mae Cymru hefyd yn cynnig cyfleoedd na fyddent o bosibl ar gael mewn rhannau eraill o'r DU. Gall sgiliau Cymraeg fod yn werthfawr iawn i gyflogwyr ac yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi, yn enwedig ym maes addysg, gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus. P'un a ydych yn siaradwr rhugl neu newydd ddechrau dysgu'r Gymraeg, gall y Gymraeg wella eich cyflogadwyedd ac ehangu eich opsiynau gyrfa - Dysgu Cymraeg.  

Er bod gwefannau swyddi yn fan cychwyn da, nid yw pob cyfle'n cael ei hysbysebu. Gall rhwydweithio, mynychu digwyddiadau gyrfaoedd a gwneud ceisiadau ar hap sydd wedi'u hymchwilio'n dda eich helpu i ddarganfod cyfleoedd cudd a meithrin cysylltiadau gwerthfawr â chyflogwyr. 

Mae astudio yng Nghymru yn rhoi'r cyfle i chi feithrin rhwydweithiau lleol, ennill profiad gyda chyflogwyr Cymreig a datblygu dealltwriaeth o'r cymunedau a'r diwylliant sy'n dylanwadu ar weithleoedd. 

Archwiliwch yr adnoddau isod i chwilio am swyddi gwag, canfod cyfleoedd lle mae'r Gymraeg yn fantais neu'n hanfodol, a dysgu mwy am adeiladu eich gyrfa yng Nghymru.