Cwestiynau Cyffredin - Nyrsio

Beth yw trefn y rhaglen?

Ar y rhaglen ceir blociau damcaniaeth a lleoliadau ymarfer am yn ail. Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn treulio 50% o'r cwrs yn astudio'r ddamcaniaeth a 50% ar leoliadau ymarfer.

A geir cefnogaeth i fyfyrwyr hŷn ar eich cyrsiau hefyd?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn, a bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. Rhaid i'r holl ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad, boed hynny drwy'r llwybrau traddodiadol neu drwy broses dderbyn gyd-destunol.

A fyddaf fi'n cael fy holl ddarlithoedd mewn ystafell ddosbarth?

Bydd yr holl ddarlithoedd damcaniaethol yn cael eu cyflwyno mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan ddilyn dull cyfun, yn ddarlithoedd wyneb yn wyneb, astudio hunangyfeiriedig, darlithoedd wedi'u recordio ymlaen llaw a darlithoedd wedi'u ffrydio'n fyw. Bydd disgwyl ichi fod ar y campws ar gyfer sesiynau addysg sgiliau clinigol.

I ble y bydd yn rhaid imi fynd ar leoliadau ymarfer?

Bydd disgwyl i fyfyrwyr gael profiad o amrywiaeth o gyfleoedd o ran lleoliadau ymarfer, o'r ysbyty i'r gymuned a'r trydydd sector. Mae gan Brifysgol Aberystwyth gytundebau â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gael profiad o amrywiaeth o gyfleoedd o ran lleoliadau ymarfer, ac yn aml bydd y rhain wedi'u lleoli yng nghefn gwlad.

A allaf ddewis byw ar y campws wrth astudio?

Gallwch, mae dewisiadau llety ar gael ichi. Mae'n bosibl y bydd angen ichi deithio ymhellach pan fyddwch ar leoliadau ymarfer, ac os yw'r daith yn hwy nag awr gallwn eich cynorthwyo i dalu am y llety tra byddwch ar eich lleoliadau ymarfer.

Beth os yw fy ngraddau dros dro yn is na'm cynnig?

Oes, bydd angen ichi ddewis eich maes nyrsio - boed yn nyrsio oedolion neu'n nyrsio ym maes iechyd meddwl - wrth wneud cais. Dylai eich datganiad personol hefyd ddangos eich ymroddiad i'ch dewis faes nyrsio.

A oes rhaid imi dalu fy ffioedd dysgu ar gyfer Prifysgol Aberystwyth?

Os ydych yn byw yn y DU a'ch bod yn gwneud cais am leoedd nyrsio wedi'u comisiynu, yng Nghymru, bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yn ariannu'r lleoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n bosibl hefyd y bydd gennych hawl i fwrsariaethau ychwanegol trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.

A oes rhaid imi ddewis fy maes nyrsio cyn gwneud cais?

Oes, bydd angen ichi ddewis eich maes nyrsio - boed yn nyrsio oedolion neu'n nyrsio ym maes iechyd meddwl - wrth wneud cais. Dylai eich datganiad personol hefyd ddangos eich ymroddiad i'ch dewis faes nyrsio.

A allaf ymgeisio i weithio yn unrhyw le yng Nghymru neu Loegr wedi imi gofrestru?

Mae lleoedd nyrsio wedi'u comisiynu yng Nghymru yn golygu y bydd gennych gytundeb ag AGIC: rhaid ichi weithio fel nyrs gofrestredig yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd wedi ichi gofrestru. Bydd penodiadau i swyddi yn cael eu rheoli gan y Bartneriaeth Cydwasanaethau trwy ffrydio myfyrwyr ar gyfer yr holl swyddi nyrsys cofrestredig newydd yng Nghymru. 

A oes rhaid imi ddewis fy maes nyrsio cyn gwneud cais?

Oes, bydd angen ichi ddewis eich maes nyrsio - boed yn nyrsio oedolion neu'n nyrsio ym maes iechyd meddwl - wrth wneud cais. Dylai eich datganiad personol hefyd ddangos eich ymroddiad i'ch dewis faes nyrsio.