Cwestiynau cyffredin am Leoliadau Ymarfer i fyfyrwyr nyrsio

A gaf ddewis fy lleoliadau ymarfer?

Bydd rhai cyfleoedd yn ystod y rhaglen ichi ddewis lleoliad arbenigol, os yw hynny'n rhesymol bosibl. Bydd angen ichi gael profiad o gyfleoedd amrywiol o ran lleoliadau ymarfer, gan gynnwys bod ar ward, yng nghefn gwlad a'r gymuned, mewn cartref gofal ac yn y trydydd sector, a hynny er mwyn eich galluogi i gyflawni eich anghenion dysgu.

Faint o rybudd a gaf ynghylch fy lleoliadau ymarfer?

 

Gobeithiwn roi gwybod ichi am eich lleoliadau ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, er y gallai'r rhain newid dan amgylchiadau eithriadol.

Pam mae angen imi fynd ar leoliadau ymarfer?

Un o ofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yw bod 50% o'ch hyfforddiant yn ddamcaniaethol a 50% ohono'n digwydd ar ffurf lleoliadau ymarfer.

A fyddaf yn cael lwfans teithio ar gyfer fy lleoliadau ymarfer?

Dim ond os yw'r pellter teithio i'ch lleoliad ymarfer yn hwy na'r pellter o'ch cartref i'r Brifysgol y telir costau teithio; dan yr amgylchiadau hynny, gallwch hawlio'r pellter ychwanegol.

Pa oriau gwaith y disgwylir imi eu gweithio bob wythnos?

Disgwylir ichi weithio amrywiaeth o batrymau shifftiau a fydd yn adlewyrchu natur 24 awr gofal nyrsio, a gallai'r rhain fod yn shifftiau byr neu'n ddyddiau hir (shifftiau 12 awr) i adlewyrchu patrymau shifftiau'r lleoliad ymarfer. Disgwylir i fyfyrwyr weithio o leiaf 37.5 awr yr wythnos pan fyddant ar leoliad. Dylid trafod unrhyw amgylchiadau lliniarol â staff y lleoliad ymarfer, y tiwtor personol a chydlynydd y cynllun.

Beth os wyf yn sâl tra byddaf ar fy lleoliad, neu beth os yw'r tywydd yn fy a

Os byddwch yn sâl tra byddwch ar leoliad, neu os na allwch fod yn bresennol ar eich lleoliad ymarfer yn sgil tywydd gwael, byddai disgwyl ichi roi gwybod i staff y lleoliad cyn gynted â phosibl cyn dechrau eich shifft, a byddai disgwyl ichi roi gwybod i'r Brifysgol hefyd, gan anfon copi o'r neges at eich tiwtor personol er mwyn rhoi gwybod iddo am eich absenoldeb a pham yr ydych yn absennol. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod angen cadw cofnod o'r holl oriau yr ydych yn eu gweithio er mwyn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr nyrsio yn cyflawni'r isafswm oriau ymarfer a bennir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth cyn cofrestru.   Mae'n bosibl y bydd angen ichi weithio'r oriau a gollwyd ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Pa mor hir fydd fy lleoliadau?

Bydd y lleoliadau ymarfer yn amrywio o 4 wythnos i 6 wythnos, a bydd eich lleoliad rheoli terfynol ar gyfer Rhan 3 (y drydedd flwyddyn) fymryn yn hwy.

Sawl cyfnod fyddaf fi'n ei dreulio ar leoliad bob blwyddyn?

Bydd myfyrwyr nyrsio yn cael y cyfle i fynd ar 3 lleoliad ymarfer yn ystod y flwyddyn academaidd, am yn ail ag astudio modiwlau damcaniaethol.

Gyda phwy y gallaf siarad ynghylch newid fy lleoliad?

Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y gellir newid lleoliadau ymarfer, a bydd hyn yn cael ei asesu ar sail unigol.  Byddai angen i fyfyrwyr grybwyll hyn wrth Gydlynydd y Rhaglen yn y lle cyntaf. Gellir crybwyll unrhyw bryderon neu anawsterau o safbwynt lleoliadau ymarfer wrth eich asesydd ymarfer, eich tiwtor personol, eich darlithydd cyswllt neu'r Nyrs Cyswllt Addysg / Hwylusydd Addysg Lleoliadau. Cewch gefnogaeth gennym bob amser.

Beth sy'n digwydd os yw fy lleoliad gryn bellter o'm cartref fel myfyriwr /

Bydd disgwyl ichi deithio i'ch lleoliad ymarfer - a bydd yn ofynnol ichi wneud hynny - gan fod Prifysgol Aberystwyth yn gweithio ar y cyd â'i phartneriaid ymarfer, sef, yn bennaf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Gall yna fod achosion pan fyddwch yn cael eich rhoi ar leoliad sydd bellter o'ch cartref, a dan yr amgylchiadau hyn byddem yn cynnig i'r Brifysgol drefnu llety ychwanegol ichi tra byddwch ar leoliad. Byddai tîm y Rhaglen yn asesu hyn ar sail unigol. 

Beth os na allaf deithio pellteroedd i'm lleoliadau?

Bydd y Brifysgol yn ystyried unrhyw amgylchiadau lliniarol fesul unigolyn, ac yn cynnig llety mewn ardaloedd os oes angen. Gallwch drafod unrhyw bryderon â'ch tiwtor personol a chydlynydd y cynllun.

Beth os oes rhywbeth yn fy mhoeni neu os oes problem tra byddaf ar leoliad?

Bydd Asesydd Ymarfer a Goruchwylwyr Ymarfer yn eich cefnogi tra byddwch ar eich lleoliad ymarfer. Byddant yn ymarferwyr cofrestredig a phrofiadol. Gallwch grybwyll eich pryderon wrthynt hwy, neu fel arall bydd darlithydd cyswllt wedi'i bennu ar gyfer pob ardal, yn ogystal â'ch tiwtor personol.