RhAGIA (HENA)
Cynorthwyo Canolbarth Cymru drwy Addysg Gofal Iechyd
Yn rhan o ymrwymiad parhaus Prifysgol Aberystwyth i gryfhau’r gweithlu gofal iechyd lleol a mynd i’r afael ag anghenion cymunedau ledled canolbarth Cymru, fe wnaethom groesawi ein carfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ym mis Medi 2022. Mae'r rhaglen newydd hon yn gam sylweddol ymlaen i ofal iechyd yn ardal Canolbarth Cymru, ac rydym yn falch o allu ymestyn gwaith dysgu’r Brifysgol i faes mor hanfodol ac effeithiol.
Cyflwyno RhAGIA – Partneriaeth Gymunedol
Mae cleifion, gofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau o’r gymuned leol yn rhan o fenter gyffrous RhAGIA sef Rhwydwaith Addysg Gofal Iechyd Aberystwyth (HENA - Healthcare Education Network Aberystwyth) sy’n cydweithio â ni mewn partneriaeth i ddatblygu rhaglenni Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Llunio Dyfodol Nyrsio
Mae angen i nyrsys heddiw fod yn hyderus, yn dosturiol, ac yn meddu ar y sgiliau meddwl beirniadol sydd eu hangen i ddarparu gofal rhagorol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Mae clywed straeon go iawn a dysgu gan y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o ofal iechyd - boed yn gleifion, gofalwyr, neu aelodau o'r teulu - yn ychwanegu gwerth aruthrol i addysg ein myfyrwyr. Mae RhAGIA (HENA) yn cynnig ffordd i'r gymuned gyfrannu at y daith hon, gan helpu i lunio'r genhedlaeth nesaf o nyrsys.
Sut y Gallwch Chi Gymryd Rhan
Fel aelod o RhAGIA (HENA), cewch gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau megis:
• Ymuno â phaneli cyfweld myfyrwyr
• Cymryd rhan mewn sefyllfaoedd dysgu
• Rhannu eich profiadau personol mewn sesiynau yn yr ystafell ddosbarth
Gallwch ddewis hyd a lled eich ymrwymiad, ac rydych chi'n rhydd i adael y rhwydwaith ar unrhyw adeg. Mae cymryd rhan fel aelod yn rhad ac am ddim. Mae holl ddigwyddiadau’r Rhwydwaith yn cynnwys lluniaeth a gellir trefnu ad-dalu costau teithio.
Ymunwch â ni
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Brifysgol Aberystwyth. Gydag egni, momentwm a chefnogaeth ein cymuned, rydym wedi ymrwymo i greu rhaglen nyrsio wirioneddol gydweithredol — un sydd nid yn unig yn addysgu ond hefyd yn adlewyrchu realiti bywyd y rhai yr ydym yn amcanu i ofalu amdanynt.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ellie Jolley-Dawson yn: elj78@aber.ac.uk