Myfyrwyr rhyngwladol

Myfyrwyr yn ymarfer ar mannikin

Mae gan Aberystwyth draddodiad o groesawu myfyrwyr rhyngwladol o bob cwr o'r byd, ac eleni gallwn gynnig lleoedd ar ein cwrs Nyrsio Oedolion amser-llawn i ymgeiswyr â chymwysterau addas.

Ar y rhaglen Nyrsio Oedolion bydd yr holl ffioedd dysgu yn cael eu hariannu'n llawn gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sy'n golygu mai dim ond costau teithio, fisa a llety y bydd gofyn i fyfyrwyr rhyngwladol dalu amdanynt wrth astudio.

Un o amodau'r cyllid yw ei bod hi’n rhaid i fyfyrwyr ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl ennill eu cymhwyster a chofrestru fel nyrs. Ar ôl graddio, bydd myfyrwyr yn cael eu rhoi mewn swydd addas yn eu dewis ardal.

Byddant yn gymwys i wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Oedolion) a gallant ddisgwyl cyflog cychwynnol o £25,655 y flwyddyn sy’n codi i £53,219 y flwyddyn ar gyfer nyrs gofrestredig brofiadol iawn.

Mae'r cwrs BSc Nyrsio Oedolion yn dechrau ym mis Medi, felly mae'n hanfodol bwysig eich bod yn gwneud cais i ni cyn gynted â phosibl. Byddwch yn ymuno â chymuned ryngwladol fywiog yma yn Aberystwyth ac yn elwa o astudio yn ein Canolfan Addysg Iechyd newydd, ger Campws Penglais.

Sylwer, nid yw'n bosib derbyn ymgeiswyr o wledydd sydd ar y rhestr yma: World Health Organisation Workforce Support and Safeguard List, 2023.

Safonau iechyd

Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth am unrhyw safonau iechyd nad ydynt yn cwrdd â chod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) cyn y cyfweliad. Mae canllawiau pellach ar gael ar dudalen Canllawiau ar Iechyd a Chymeriad yr NMC.

Mewn rhai achosion efallai na fydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad neu’n cael cynnig lle os na allant ymarfer y tasgau bob dydd y mae'n rhaid i Nyrs rag-gofrestredig eu gwneud, megis symud a thrin/cario neu hyfforddiant ymwahanu. Fodd bynnag, efallai y bydd achosion lle mae gan ymgeisydd anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor nad yw’n eu hatal rhag ymarfer, ac efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad os ydych yn y categori hwn.

⁠Gwybodaeth am Ddiogelu Data. Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw ar Microsoft Forms tan ddechrau'r flwyddyn academaidd ac yna'n cael ei dinistrio.

Cynhelir rhagor o sgrinio iechyd galwedigaethol os caiff cynnig ei gadarnhau. I sicrhau bod holl fyfyrwyr gofal iechyd Prifysgol Aberystwyth yn cyrraedd y safonau iechyd a chymeriad a nodir yng Nghod yr NMC, gofynnwn i fyfyrwyr lenwi holiadur iechyd galwedigaethol. Mae hyn yn rhan o'r broses cyn dechrau unrhyw gwrs gofal iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ni fydd myfyrwyr yn cael dechrau'r rhaglen os nad ydynt wedi cwblhau'r ffurflen. Anfonir y ffurflen at y myfyriwr drwy e-bost, a gall ein partner Iechyd Galwedigaethol gysylltu â nhw os oes unrhyw ymholiadau.

⁠Gwybodaeth am Ddiogelu Data.  Mae Insight Workplace Health yn casglu gwybodaeth gan ymgeiswyr i'r cynlluniau gradd Nyrsio fel rhan o'r weithdrefn monitro Iechyd Galwedigaethol cyn-gofrestru.

Gofynion mynediad

I gael manylion am ein gofynion academaidd a Saesneg nodweddiadol, gweler ein tudalennau gwledydd.

Sut i wneud cais

Sylwch fod y cwrs hwn wedi cyrraedd ei uchafswm ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol. Ni fydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl 31 Ionawr yn cael eu prosesu a byddant yn cael eu tynnu'n ôl yn awtomatig.