Canmol cymorth gwasanaethau brys i baratoi nyrsys newydd

Pennaeth Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth Amanda Jones gyda rhai o’r myfyrwyr nyrsio a staff y gwasanaethau brys a gymerodd ran yn yr ymarferiad

Pennaeth Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth Amanda Jones gyda rhai o’r myfyrwyr nyrsio a staff y gwasanaethau brys a gymerodd ran yn yr ymarferiad

17 Mehefin 2025

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi diolch i’r gwasanaethau brys lleol am eu cymorth gydag efelychiad o ddigwyddiad o bwys er mwyn hyfforddi ei myfyrwyr nyrsio.

Bu Heddlu Dyfed Powys, myfyrwyr meddygol, diffoddwyr tân a pharafeddygon a staff meddygol eraill o Ysbyty Bronglais yn cymryd rhan mewn ymarfer a efelychodd bobl yn cael eu hanafu yn dilyn ffrwydrad. Cafodd ei gynllunio er mwyn paratoi’r myfyrwyr nyrsio ynghyd ag aelodau o’r gwasanaethau brys ar gyfer argyfyngau difrifol.

Fel rhan o’r ymarferiad, cafodd Canolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth ei throi’n ysbyty am ddiwrnod gyda myfyrwyr o Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol a gwirfoddolwyr eraill yn esgus bod yn gleifion.

Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2022 a byddant yn cwblhau eu hyfforddiant yn yr haf eleni.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Jon Timmis:

“Roedd y digwyddiad yn enghraifft arbennig o’r gefnogaeth gan ein partneriaid a’r gymuned i’r addysg nyrsio yma - rydym yn hynod o ddiolchgar iddyn nhw i gyd. Mae ein diolch yn fawr i staff y gwasanaethau brys am eu cymorth. Ac i’r myfyrwyr a gwirfoddolwyr o’r Brifysgol a’r gymuned yn ehangach a roddodd eu hamser i actio fel cleifion.

Wrth reswm, rydym ni wir yn gobeithio’n nad ydyn ni’n profi’r math yma o ddigwyddiad, ond mae hi mor bwysig bod ein myfyrwyr nyrsio yn barod i bob senario posibl, hyd yn oed y rhai lleiaf tebygol. Mae hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol yn tanlinellu sut mae’r Brifysgol yn parhau â’i thraddodiad hirhoedlog o wneud gwahaniaeth: yn meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru.”

Ychwanegodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Roedd y Bwrdd Iechyd yn hapus i gefnogi ein cydweithwyr yn y gwasanaethau brys a Phrifysgol Aberystwyth yn y senario digwyddiad brys hwn.

“Mae’n rhaid i’n staff sydd wedi eu hyfforddi ac sy’n ymroddedig iawn wynebu lawer o heriau yn eu gwaith bob dydd ac mae rhai o’r rhain yn cynnwys delio â digwyddiad mawr.

“Mae’r senario hwn wedi rhoi profiad gwerthfawr iawn i’r genhedlaeth nesaf o nyrsys sy’n cael eu hyfforddi yng Nghanolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu o fantais iddyn nhw os a phan fyddan nhw’n wynebu’r math hwn o ddigwyddiad mewn bywyd go iawn.”

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Richard Yelland o Heddlu Dyfed Powys:

“Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i gefnogi datblygiad gweithwyr proffesiynol rheng flaen y dyfodol ac yn dysteb i’r berthynas gref rhwng plismona lleol a Phrifysgol Aberystwyth.

“Mae’r swyddogion dan sylw yn gwybod y tro nesaf y byddan nhw’n dod ar draws myfyrwyr nyrsio yn debygol o fod mewn cyfnod o argyfwng lle mae eu sgiliau cydweithio yn cael eu profi i sicrhau’r canlyniad gorau i aelodau ein cymuned. Mae llwyddiant digwyddiadau hyfforddi o’r fath yn sicrhau dealltwriaeth gref o rolau ac yn gwella cyfathrebu sy’n hanfodol mewn amgylchiadau o’r fath. Rydym ni’n edrych ymlaen at gefnogi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”