Nyrsys cyntaf erioed yn graddio o Brifysgol Aberystwyth

Graddedigion Nyrsio Cyntaf Prifysgol Aberystwyth
16 Gorffennaf 2026
Mae’r myfyrwyr cyntaf nyrsio erioed wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth.
Dechreuodd y myfyrwyr ar eu cyrsiau pan agorodd y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ei drysau am y tro cyntaf ym mis Medi 2022.
Mae’r ganolfan gwerth £1.7 miliwn, sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn cynnwys ystafelloedd ymarfer clinigol o ansawdd uchel. Cafodd ei chefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Ymhlith bron i 40 o fyfyrwyr sydd wedi graddio eleni, bu rhai yn astudio nyrsio oedolion ac eraill iechyd meddwl. Mae’r cyrsiau gradd bellach wedi ehangu gyda 239 yn astudio yn y Brifysgol y flwyddyn academaidd hon.
Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y radd y cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynhaliwyd derbyniad arbennig ar ôl y Graddio a thraddodwyd areithiau gan bartneriaid ac academyddion allweddol.
Yn siarad wedi’r seremoni, dywedodd Amanda Jones, Pennaeth Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae mor galonogol gweld ein myfyrwyr ar adeg mor fendigedig yn eu bywydau – llongyfarchiadau lu i bob un ohonyn nhw. Mae wedi bod yn anrhydedd bod yn rhan o hanes, gan ddysgu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio yma yn Aberystwyth. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i bob un ohonyn nhw i’r dyfodol.”
Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis:
“Dyma ddiwrnod arbennig iawn – rwy mor falch o weld y myfyrwyr nyrsio yn graddio. Fel prifysgol, rydyn ni’n hynod o falch i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o nyrsys ar gyfer y sector gofal iechyd a’r gwasanaeth iechyd gwladol. Dyma’r union fath o swyddogaeth y dylen ni fel sefydliad fod yn ei arddel, ac mae ein bryd ar wneud hyn fwyfwy. Mae wrth galon ein hagenda i newid bywydau er gwell, meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru.”