Lles Ariannol

Lles Ariannol

Fel aelod o staff, mae gennych fynediad at wybodaeth ac amrywiaeth o adnoddau ar les ariannol

Rhaglen cymorth i staff

Mae gan y Rhaglen cymorth i staff Ganllawiau Ariannol a Gwybodaeth, sydd ar gael am ddim i bob aelod o staff.

  • Canllawiau Ariannol: Gall staff siarad ag Arbenigwr Gwybodaeth am gyngor ar gyllidebu, budd-daliadau, credyd, dyled, banciau, benthyciadau, cyfuno cyfrifon, a biliau cyfleustodau. Mae arbenigwyr ar gael o 9yb tan 9yh, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Adnoddau Ar-lein: Trwy'r ap neu'r porth Wisdom Wellbeing, gall staff gael mynediad at erthyglau addysgiadol, a gweminarau wedi’u recordio ymlaen llaw ar les ariannol a chyngor gan arbenigwr gwybodaeth.

Pensiwn

Trwy eich cyfraniadau pensiwn, mae gennych fynediad at wybodaeth, adnoddau a gweminarau i gefnogi cynllunio ariannol.

Gwasanaethau allanol eraill

MoneyHelper (darperir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau) – mae’n darparu cyfarwyddyd diduedd am ddim ac yn argymell cymorth pellach y gellir ymddiried ynddo os oes ei angen arnoch. Adrannau sy'n ymdrin â budd-daliadau, teulu a gofal, cymorth gyda chostau byw a dyled, cynilo a buddsoddi, treth, a phensiynau ac ymddeoliad, morgais a phrynu tŷ, a mwy.

Cyngor ar Bopeth - Elusen genedlaethol gyda chyngor ymarferol ar ystod o feysydd gan gynnwys budd-daliadau, cyngor ar ddyledion ac arian, cyllidebu, pensiynau, a mwy.

Moneysavingexpert - Mae'n cynnig llawer o gyngor ymarferol am ddim, awgrymiadau arbed arian a chymariaethau - gan gynnwys cynllunydd cyllideb, cymorth gyda dyled, bancio ac arbedion, treth, pensiynau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.