Datblygu Sefydliadol a Dysgu
Mae rhestr lawn o gyrsiau sydd ar gael i staff ar gael ar borth Myadmin - Hyfforddiant a Digwyddiadau (staff)
Hyfforddiant a argymhellir ar gyfer staff
Cwblhewch y cyrsiau canlynol fel rhan o'ch hyfforddiant staff a argymhellir.
- Amrywiaeth yn y Gweithle: https://blackboard.aber.ac.uk/ultra/organizations/_45748_1/outline
- Rhagfarn Ddiarwybod: https://blackboard.aber.ac.uk/ultra/organizations/_45748_1/outline
- Gadewch i ni siarad am Hil yn y Gweithle: https://blackboard.aber.ac.uk/ultra/organizations/_45748_1/outline
- Diogelwch Gwybodaeth: https://aberystwyth.metacompliance.com/
- Ymwybyddiaeth o Ddyletswydd Atal:
- https://blackboard.aber.ac.uk
- Dewch o hyd i'r cwrs hwn o dan y teitl "Sefydliad" ar yr ochr chwith
- Sut i gael mynediad i'ch cyfrif Blackboard
- https://blackboard.aber.ac.uk
I weld dyddiadau cwblhau eich hyfforddiant:
- Mewngofnodwch i ABW
- Cliciwch ar Personél ar yr ochr
- Cliciwch ar Cymhwysedd (nid Cymwyseddau sydd ar gael mewn mannau eraill)
- Dewiswch Cymhwysedd Technegol yn y gwymplen Math Cymhwysedd
Gellir cynnal y cyrsiau mewn un eisteddiad neu fesul tipyn pan fydd yn gyfleus iddynt. Mae'n rhaid i'r cwisiau a gynhwysir yn y rhaglen gael eu cwblhau er mwyn i'r staff orffen yr hyfforddiant ac er mwyn iddo gael ei farcio fel un sydd wedi'i gwblhau/pasio.
Mae'r cyrsiau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Hyfforddiant a Datblygiad Arall
Mae'r Brifysgol yn trefnu cyrsiau hyfforddi a datblygu eraill i staff yn rheolaidd - gallwch ddod o hyd i'r rhestr ddiweddaraf a gwybodaeth bellach yma
- Hyfforddiant a datblygiad personol: https://www.aber.ac.uk/cy/hr/info-staff/training-and-development/
- Cyrsiau dysgu Cymraeg: https://www.aber.ac.uk/cy/learn-welsh/courses/
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol: https://stafftraining.aber.ac.uk/hs/list_courses.php
- Sesiynau DPP Uned Gwella Dysgu ac Addysgu: https://stafftraining.aber.ac.uk/sd/list_courses.php
Aurora - Arweinyddiaeth i Fenywod
Mae Aurora yn fenter gan AU Ymlaen i ddatblygu arweinyddiaeth ymhlith menywod mewn Addysg Uwch.
Mae Aurora yn bartneriaeth unigryw sy'n dod ag arbenigwyr ym maes arwain a sefydliadau addysg uwch ynghyd i gymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r ffaith bod menywod wedi’u tangynrychioli mewn swyddi arwain yn y sector.
Dan arweiniad tîm o arbenigwyr arwain, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn archwilio pedwar maes allweddol sy'n gysylltiedig ag arwain yn llwyddiannus: Hunaniaeth, Effaith a Llais; Sgiliau Arwain Craidd; Gwleidyddiaeth a Dylanwad, ac Addasu Sgiliau Arwain.
Nod Aurora yw cefnogi menywod a'u sefydliadau i gyflawni eu potensial i arwain trwy gyfrwng gweithgareddau sy'n ysgogi'r meddwl, gweithgareddau ar y cyd i ddatrys problemau, a straeon i’ch cymell, gyda chefnogaeth menywod sy’n arwain ac yn ysbrydoli. Trwy gymryd rhan byddwch yn creu rhwydweithiau cryf o fenywod sydd ar ddechrau eu gyrfa ledled y sector er mwyn rhannu’r arfer gorau, dealltwriaeth a phrofiadau.
- Gallwch ddysgu mwy am y rhaglen yn y fan yma - Ynglŷn ag Aurora | AU Ymlaen (advance-he.ac.uk)
- Cwestiynau Cyffredin am Aurora - Cwestiynau Cyffredin am Aurora | AU Ymlaen (advance-he.ac.uk)
Sut i drefnu eich lle
Siaradwch â'ch Rheolwr Llinell am gymryd rhan yn rhaglen Aurora fel rhan o'ch gwaith cynllunio datblygiad personol a phroffesiynol eich hun. Bydd angen i'r adran ariannu ffioedd cymryd rhan, a gall eich Rheolwr Llinell a Hyrwyddwr Aurora y Brifysgol eich helpu i ganfod mentor.
Cysylltwch â'n Hyrwyddwr Aurora, Dylan Jones, dej20@aber.ac.uk, i gael manylion am sut i drefnu eich lle ac os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill.
Dyddiadau 2026-27
Gallwch drefnu eich lle ar raglen Aurora 2026-27 yn awr! Mae’n rhaid i’r sawl sy’n cymryd rhan fod yn bresennol ym mhob sesiwn, ac mae’r sesiynau’n cynnwys rhai ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae disgwyl i raglen Cymru a De-orllewin Lloegr ddechrau ddydd Llun 11 Ionawr 2027.
Iechyd & Lles
Mae HA | Wisdom Wellbeing sy'n darparu ein Rhaglen Cymorth i staff - yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau iechyd a lles, taflenni ffeithiau podlediadau ac erthyglau sydd am ddim i staff. Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth a sut i gael mynediad.
Cynllunio Ariannol ar gyfer Ymddeol
Cynllunio Ariannol ar gyfer Ymddeol
Mae'r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar gynllunio'ch cyllid ar gyfer ymddeoliad. Byddwn yn darparu trosolwg o'ch pensiynau galwedigaethol USS & L&G a'r newidiadau i'r cynlluniau hyn.
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyflwyniad i'r ystyriaethau a’r materion ariannol sy'n effeithio ar eich ymddeoliad. Bydd yn eich helpu i gynllunio'n ariannol ar gyfer ymddeol ac mae’n canolbwyntio ar sicrhau cymaint o incwm â phosibl, buddsoddiadau, trethiant, a'ch buddion pensiwn galwedigaethol.
Mae'r digwyddiad hwn fel arfer ar gyfer pobl sydd dros 55 oed. Mae croeso i'ch partneriaid hefyd, gan fod gennych chi ddewisiadau pwysig o'ch blaen y byddwch am eu cynllunio gyda'ch gilydd.
Gallwch weld y cyrsiau sydd i ddod yma - cyrsiau_lles_ariannol
