Gwaith Aber
A ydych yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n chwilio am waith rhan amser sy’n talu ac yn awyddus i ennill profiad gwerthfawr ar gyfer eich CV?
Bwriad GwaithAber yw helpu myfyrwyr i ennill profiad gwaith ymarferol yn y Brifysgol. Nod allweddol y cynllun yw gwella eich sgiliau a’ch hunanymwybyddiaeth er mwyn datblygu eich cyflogadwyedd.
Pa fath o swyddi sydd ar gael?
Mae GwaithAber yn gyfle i fyfyrwyr ennill arian wrth ddysgu. Ceir cyfleoedd gwaith mewn amryw o adrannau o Arlwyo, gwaith gweinyddol, swyddogaethau Llysgenhadon a mwy.
Os bydd gwaith ar gael yn ystod tymor y Brifysgol, efallai y byddwch yn dewis gweithio hyd at 15 awr yr wythnos, gyda’r posibilrwydd am ragor o oriau gwaith yn ystod y gwyliau. Bydd y cyflog yn ddibynnol ar y swydd. Gall lleoliad y gwaith fod ar unrhyw un o gampysau’r Brifysgol, gan gynnwys yr Hen Goleg. Gallwch ddewis derbyn gwaith sy’n cyd-fynd â’ch amserlen.
Gofrestru
Oherwydd yr achosion o Coronafeirws a'i gyfyngiadau cysylltiedig, mae'r cyfleoedd i weithio trwy GwaithAber yn fwy cyfyngedig na'r arfer ar hyn o bryd.
O ganlyniad, mae'r cynllun ar gau ar hyn o bryd i gofrestriadau newydd, ac mae'n debygol o fod yn wir am semester cyntaf 2020/2021. Byddwn yn adolygu hyn ac yn diweddaru'r canllawiau yma yn ddiweddarach yn yr Hydref.
I weld yr rhestr llawn o hyfforddiant ar gyder Gweithwyr Aber, ewch i:
Amrywioldeb yn y Gweithle-Rhaglen Hyfforddi