IOSH Gweithio'n Ddiogel

Mae’r adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn falch o allu cynnig y cyfle i fynychu cwrs undydd IOSH Gweithio'n Ddiogel / Working Safely y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH) i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r cwrs undydd wedi gynllunio a’i reoli gan y corff Siartredig ar gyfer iechyd a diogelwch, ac yn cynnig cyflwyniad i hanfodion iechyd a diogelwch, yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol allweddol. Mae’r cwrs yn uchel ei barch gan ddiwydiant a chyflogwyr gan bod y sgiliau trosglwyddadwy a ennillwyd yn caniatau ymgeiswyr llwyddiannus i arddangos gwerthfawrogiad o ystyriaethau iechyd a diogelwch yn y gweithle. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys elfen ryngweithiol cryf, ac yn caniatau ymgeiswyr i ddefnyddio enghreifftiau o brofiadau eu hunain yn y gweithle.

Buddion Cyflogaeth

Mae’r gofyn am sgiliau iechyd, diogelwch a risg  yn cynyddu ymysg cyflogwyr. Bydd cwblhau'r cwrs IOSH Gweithio'n Ddiogel yn darparu ymgeiswyr gyda: 

  • dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o risgiau yn y gwaith;
  • hyfforddiant a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac a berchir gan gyflogwyr;
  • cymhwyster iechyd a diogelwch galwedigaethol cydnabyddedig ac ardystiedig i’w gynnwys ar eich CV.

Y Cwrs

Mae'r modiwlau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys:

  1. Cyflwyno Gweithio’n Ddiogel – Cyflwyno realiti dioddefaint pobl a phwysigrwydd cyfrifoldeb personol.
  2. Diffinio Perygl a Risg - Canolbwyntio ar beryglon a risgiau a geir mewn amgylcheddau gwaith, gan ganolbwyntio ar y chwe phrif berygl.
  3. Adnabod Peryglon Cyffredin – Dadansoddi’r prif gategoriau, sy’n cynnwys llithro, baglu a chwympo, a chodi a chario.
  4. Gwella Diogelwch a Pherfformiad – Annog gweithwyr i fod yn rhan o’r prosesau sy’n aml yn cael eu gweld fel cyfrifoldeb y rheolwyr neu’r goruchwylwyr yn unig.

Cost

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn medru cymryd mantais o’r cwrs IOSH Gweithio’n Ddiogel am bris gostyngedig o £35 y person, sydd yn cynnwys y gost am y gweithlyfr a thystysgrif IOSH Gweithio’n Ddiogel.

Cyrsiau Nesaf

Mae'r dyddiad(au) ar gyfer y cyrsiau hyfforddi IOSH Gweithio'n Ddiogel nesaf fel a ganlyn:

Dydd Llun 5 Mehefin 2017

Er mwyn archebu eich lle, cliciwch yma.

Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch a'r Adran Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar 01970 622 073.

Tystlythyron

Mae tystlythyron gan ein ymgeiswyr blaenorol yn cynnwys:

“Cwrs llawn gwybodaeth / defnyddiol iawn."

“Cyflwyniad da i Iechyd a Diogelwch….”

“Diddorol ac hawdd i’w ddilyn…”

“Wedi’i gyflwyno / drefnu yn dda.”

“Ardderchog.”

“Roedd y cwrs yn addysgiadol iawn.”

“Credaf fod y cwrs wedi’i drefnu’n dda, heb fod yn rhy flinedig ac wedi’i gadw’n ddiddorol…”

“Wedi’i drefnu a’i gyflwyno’n dda…”

“Mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer cyrsiau (eraill) yn y dyfodol.”

“Mae’n gwrs dwys sydd yn cynnwys llawer o wybodaeth.”

“Cynnwys diddorol – dysgais lwyth.”

“Rhyngweithiol a diddorol iawn.”

“Defnyddiol ac addysgiadol.”

“Cynnwys wedi’i gyflwyno’n dda.”

“Addysgiadol, diddorol, hwyl.”

“Llawn gwybodaeth ac yn gwneud i chi feddwl cyn gwneud unrhywbeth.”

“Roedd y cwrs wedi’i strwythuro a’i ddarparu’n dda, roedd yn cynnwys yr hyn sydd angen i mi wybod am iechyd a diogelwch i ddefnyddio bob dydd.”

“Wedi’i drefnu’n dda, y cynnwys yn ddiddorol a difyr.”

“Wedi creu argraff dda.”

“Yn cynnwys amrywiaeth eang o destunau.”

“Roedd yr hyfforddwr yn garedig a chynorthwyol.”