Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Research students inspecting crops at the National Phenomics Centre.

Croeso i Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Ymchwil sydd yn Arwain y byd...

Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.

Rhannwyd gwaith ymchwil IBERS yn ôl tair thema graidd a nifer o grwpiau ymchwil cydberthnasol: Gwyddor Cnydau a Bridio Planhigion, Galluoedd Craidd a Defnydd ac Effaith,  mae'r rhain wedi'u hisrannu i'r prif themâu isod.