Arloesiadau ar gyfer Byd sy’n Newid

.
Effeithiau Economaidd
Mae IBERS (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) yn gyfleuster galluogrwydd cenedlaethol yn y DU mewn bridio planhigion a gwyddor glaswelltir, ac yn un o wyth sefydliad strategol a gefnogir gan BBSRC (Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol). Mae’n chwarae rôl allweddol mewn amaethyddiaeth gynaliadwy, gwelliant amgylcheddol, a thwf a datblygiad economaidd.
Meysydd Ymchwil Allweddol ac Effeithiau
Cnydau Porthiant: Bridio rhygwellt a meillion lluosflwydd, ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy.
Grawn a Grawnfwydydd: Yn canolbwyntio ar geirch a ffa ar gyfer dietau iachach.
Biomas: Datblygu miscanthus, ar gyfer ynni cynaliadwy a gostwng carbon.
Genomeg Cnydau: Offer i ddatblygu arloesi cnydau a bridio planhigion.
Systemau Amaethyddol: Glastiroedd aml-rywogaeth ar gyfer amaethyddiaeth a’r amgylchedd
Bioburo: Echdynnu cemegau gwerthfawr o fiomas.
Isadeiledd Ymchwil
Ymhlith y cyfleusterau y mae Banc Hadau, y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, Canolfan Bioburo a ffermydd arbrofol gan gynnwys Canolfan Ymchwil yr Ucheldir, Pwllpeiran.
Effaith Economaidd (2017–2023)
Yn 2024, darparodd SQW adolygiad annibynnol o effaith economaidd a chymdeithasol IBERS ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2023, dyma rai o’r uchafbwyntiau:
• ~300 o brosiectau ymchwil: O fridio ar raddfa fawr i ymchwil cymhwysol gyda phartneriaid y DU a rhyngwladol.
Llwyddiant Masnachol:
• Mae ~50% o hadau gwair porthiant a 95% o geirch gaeaf yn fathau IBERS.
• Cysylltiadau cryf â chwmnïau cnydau ynni ac amaethyddol blaenllaw.
Cefnogaeth i BBaChau:
• Wedi helpu busnesau newydd i ddilysu arloesiadau, denu cyllid, a lansio cynnyrch newydd yn y bioeconomi.
Buddion Ehangach:
Mae gweithgareddau IBERS yn creu effeithiau;
• Trwy gadwyni cyflenwi ffermwyr sy’n sicrhau mynediad at fwy o opsiynau ar gyfer defnydd tir,
• i ddefnyddwyr sy’n mwynhau cynnyrch newydd rhatach ac o ansawdd uwch,
• a chymdeithas yn gyffredinol sy’n elwa o addasiad newid yn yr hinsawdd a chanlyniadau lliniaru.