Gewlliannau I Filed Perlog - Straeon Effaith
Gewlliannau I Filed Perlog
Gwelliannau i’r Miled Perlog: Sicrhau Cyflenwadau Bwyd a Gwella Maeth mewn Hinsoddau Heriol
Mae mwy na 200 miliwn o bobl dlotaf y byd, a’r rhai mwyaf bregus o ran maeth, yn dibynnu ar filed perlog (Pennisetum glaucum) yn brif sylfaen eu deiet.
Mae indecs glycaemig y cnwd grawnfwyd gwydn hwn yn naturiol isel, sy'n golygu ei fod yn rhyddhau egni'n araf, gan helpu i reoli lefelau siwgr yn y gwaed. Mae hefyd wedi ymaddasu'n eithriadol o dda i ucheldiroedd sychion lle nad oes modd tyfu cnydau fel reis na gwenith - sy’n golygu ei fod yn gnwd rhagorol o safbwynt sicrhau cyflenwadau bwyd.
Er hynny, nid yw miled perlog hyd yn oed yn ddiogel rhag pwysau newid yn yr hinsawdd, sy'n golygu mwyfwy o heriau o safbwynt:
- Straen anfiotig – sychder a gwres
- Straen biotig – yn arbennig y llwydni gwlanog (Sclerospora graminicola)
IBERS yn cydweithredu’n fyd-eang ar fridio miled perlog
Mae gwyddonwyr IBERS wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid yn India a Affrica i wella miled perlog trwy gyfuno dulliau:
- Technoleg marcwyr moleciwlaidd – i ddod o hyd i nodweddion genetig manteisiol a’u dethol yn effeithlon, â
- Phrofion ar blasm cenhedlu a bridio yn y maes – i sicrhau bod amrywogaethau yn perfformio'n dda mewn amodau ffermio go iawn
Daeth y llwyddiant mawr cyntaf yn 2005, pan ryddhawyd amrywogaeth sy'n gwrthsefyll y llwydni gwlanog ac sydd bellach yn cael ei thyfu ar fwy na 875,000 hectar bob blwyddyn yn India. Mae'r amrywogaeth honno’n cynhyrchu £7 miliwn ychwanegol o incwm i dyddynwyr bob blwyddyn — yn rhoi hwb sylweddol i economïau cymunedau gwledig.
Cyfuno Gwytnwch Hinsoddol â Manteision Maeth
Mae ymchwil gyfredol IBERS yn canolbwyntio ar gyfuno’r gallu i wrthsefyll sychder a heintiau â’r rhinweddau maeth sy'n digwydd yn naturiol ym mhlasma cenhedlu’r miled perlog.
Un targed allweddol yw cadw’r indecs glycaemig isel gan, ar yr un pryd, wneud y planhigion yn wytnach wrth wrthsefyll heintiau, gwres a sychder - cyfuniad sy'n cynnig buddion deublyg, sef:
- Iechyd y cyhoedd – helpu i reoli cyflyrau sy'n gysylltiedig â diet megis diabetes math-2 a gordewdra
- Bywoliaeth ffermwyr – creu cnwd gwerthu mwy gwerthfawr
Mae'r gwaith hwn wedi arwain at ddatblygu croesfrid isel ei indecs gIycaemig ac sydd wedi'i addasu i sychder ac fe ddisgwylir y bydd yn cael ei ryddhau mewn 15 gwlad yng ngorllewin Affrica cyn diwedd 2025.
Yr Effaith a Ragwelir
Disgwylir y bydd rhyddhau’r croesfrid hwn o filed perlog yn fuddiol i dros dair miliwn o dyddynwyr yn yr Affrica Is-Sahara, drwy:
- Ddarparu grawn uwch ei werth mewn marchnadoedd a masnach leol
- Darparu manteision maeth yn uniongyrchol i deuluoedd a chymunedau ffermio
- Gwella diogelwch cyflenwadau bwyd mewn rhanbarthau sydd o dan straen hinsoddol
Mae gwaith IBERS ar filed perlog yn dangos sut y gall bridio planhigion mewn modd sy’n targedu rhinweddau penodol - yn cyfuno dulliau moleciwlaidd uwch a phlasma cenhedlu â threialon maes ar lawr gwlad - ddarparu amrywogaethau sy’n darparu maeth gwell yn ogystal â gallu gwrthsefyll newid hinsawdd, gan greu manteision hirdymor i bobl a'r amgylchedd.
Lawrlwythiadau
Lawrlwythwch ein Llyfryn Straeon Achos Effaith IBERS llawn yma: Arloesiadau ar gyfer Byd sy'n Newid