Mathau Ceirch Gwell - Straeon Effaith

 

Mathau Ceirch Gwell

Amrywogaethau Ceirch wedi’u Gwella: yn Gwella Cynnyrch, Ansawdd, a Chynaliadwyedd

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae cynhyrchu ceirch yn y DU bron â dyblu, diolch i raddau helaeth i fathau a ddatblygwyd gan IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn 2024, amrywiadau o geirch a fridiwyd yn IBERS oedd yn cyfrif am dros 96% o gynnyrch ceirch y gaeaf ym Mhrydain - sy’n tystio i effaith ymchwil hirdymor ac arloesi wrth fridio cnydau.

Bridio ar gyfer Perfformiad ac Ansawdd

Mae rhaglen bridio ceirch IBERS yn cyfuno ymchwil genetig, ffisiolegol ac agronomig i ddarparu amrywogaethau toreithiog eu cnwd o ansawdd felino uwch at ddefnydd bwydydd pobl a da byw. Mae'r rhaglen wedi datblygu'r ddau brif fath, sef ceirch plisgynnog (traddodiadol) a cheirch noeth (heb blisg), i ddiwallu anghenion bwyd pobl a da byw fel ei gilydd.

Ateb y Galw Cynyddol am Gnwd Iach ac Amlbwrpas

Un rheswm dros y galw cynyddol am geirch yw’r ffaith hysbys eu bod yn  llesol i iechyd a’u bod mor amrywiol eu defnydd mewn prydau, diodydd a byrbrydau. Mae ceirch yn cael eu bwyta fel grawn cyflawn, yn ffynhonnell ardderchog o brotein a ffibr, ac yn naturiol heb unrhyw gynnwys glwten.

Maent hefyd yn cynnwys beta-glwcan,  sef ffibr dietegol hydawdd y profwyd ei fod yn gostwng colesterol ac yn llesol i iechyd y galon, yn ogystal â chyfansoddion bioactif eraill, gan gynnwys:

  • Afenanthramidau - polyffenolau unigryw i geirch sydd â phriodweddau gwrthlidiol a gwrthocsidol
  • Afenacosidau – saponinau â nodweddion gwrthfacteraidd a gwrthffwngaidd

Mae ymchwil hefyd yn dangos y gall ceirch wella imiwnedd a gwella microbiota’r perfeddion. Wrth i gwsmeriaid chwilio’n fwyfwy am ffynonellau protein amgen, mae ceirch mewn sefyllfa dda, fel opsiwn iach sy'n deillio o blanhigion.

Manteision Amgylcheddol ac Agronomig

Y tu hwnt i faeth, mae i geirch fanteision amgylcheddol ehangach i amaeth ym Mhrydain. Maent yn gnwd toriad pwysig mewn rhaglenni cylchdroi, gan helpu i leihau clefydau a gwella adeiledd y pridd. Mae ceirch hefyd yn hybu bioamrywiaeth ac yn defnyddio maetholion yn effeithlon, gan leihau'r angen am wrteithiau gwneud.

Er hynny, er mwyn cystadlu â’r prif rawnfwydydd eraill, fel gwenith a haidd, rhaid i geirch ddwyn enillion economaidd tebyg. Mae IBERS wedi mynd i'r afael â'r her hon trwy fridio amrywogaethau byrrach eu coesynnau ac uwch eu cnwd sy’n llai tebygol o gwmpo ar eu gorwedd ar dywydd gwael, yn ogystal â gallu defnyddio maetholion yn effeithlon a gwrthsefyll clefydau’n dda - nodweddion sy'n gwneud ceirch yn broffidiol ac yn gynaliadwy.

Amrywogaethau, Partneriaid, a’r Dyfodol

Ar hyn o bryd mae pum math o geirch gaeaf a thri math o geirch gwanwyn a fridiwyd yn IBERS ar Restrau o Argymhellion AHDB i 2024–25, sy'n cael eu marchnata trwy law ein partner hirdymorr Senova.

Mae'r gwaith sy’n dal i fynd rhagddo ym maes bridio ceirch yn IBERS yn canolbwyntio ar:

  • Gyflymu’r cylch bridio a’i wneud yn fwy manwl-gywir
  • Gwella ansawdd y grawn
  • Bridio i gynyddu goddefgarwch i sychder, gwres, a dŵr - nodweddion a fydd yn helpu i sicrhau cyflenwadau bwyd Prydain wrth i’r hinsawdd newid

Trwy blethu arbenigedd bridio hirdymor ag arloesi gwyddonol, mae IBERS wedi helpu i sicrhau dyfodol ceirch fel cnwd sy'n fuddiol i iechyd pobl, yn broffidiol i ffermydd, ac sy’n amgylcheddol gynaliadwy.

 

Lawrlwythiadau

Lawrlwythwch ein Llyfryn Straeon Achos Effaith IBERS llawn yma: Arloesiadau ar gyfer Byd sy'n Newid