Mathau Meillion Parhaus - Straeon Effaith
Mathau Meillion Parhaus
Gall meillion coch a gwyn wella cynaliadwyedd cynhyrchu da byw yn sylweddol gan eu bod yn lleihau’r angen am wrteithiau anorganig wedi’u gweithgynhyrchu ac mae’n cynnig ffynhonnell brotein cartref fel dewis amgen yn lle soia wedi’i fewnforio. Fodd bynnag, mae’r defnydd o feillion yn aml wedi’i gyfyngu oherwydd eu dycnwch a’u gwydnwch gwael, naill ai mewn cae aml-fath (gyda meillion gwyn ar gyfer pori neu greu silwair) neu pan gânt eu tyfu fel ungnwd (gyda meillion coch i’w torri’n unig).>
Mae gwyddonwyr yn IBERS wedi llwyddo i gynyddu dycnwch mathau o blanhigion meillion coch a gwyn yn y systemau amaethyddol hyn. Er enghraifft, croeswyd meillion gwyn gyda meillion Cawcasws i gyfuno i ffurfio gwreiddiau stolonog a phrif wreiddyn mewn un planhigyn, gan gynnig mwy o wydnwch a dycnwch. Dyma oedd y groes lwyddiannus gyntaf erioed o’i bath yn y byd ac arweiniodd at ddatblygu AberLasting, math a gafodd ei farchnata fel DoubleRoot gan ein partner diwydiannol Germinal.
Yn draddodiadol, nid yw meillion coch wedi gallu cael eu pori gan dda byw oherwydd bod difrod i’r corun yn lladd y planhigyn. Fodd bynnag, mae bridio math ymgripiol o feillion coch y gellir ei dyfu mewn cae fel meillion gwyn yn creu’r opsiwn i ffermwyr da byw ddefnyddio meillion coch mewn ffordd newydd. Mae meillion coch yn cynnwys ensym o’r enw ocsidas polyffenol, sy’n amddiffyn y protein yn y blaenstumog, gan arwain at welliannau pellach yn effeithlonrwydd cynhyrchu da byw yn ogystal â gostyngiad mewn allyriadau nitrogen. Mae’r math newydd hwn, a fydd yn cael ei gwerthu fel RedRunner gan Germinal, yn profi treialon math planhigion cenedlaethol i’w rhyddhau yn y dyfodol agos ac unwaith eto dyma’r cyntaf yn y byd ar gyfer y cnwd hwn, y disgwylir iddo drawsnewid cynhyrchiant tywarch glaswelltir.