Porfeydd â Gwreiddiau Dwfn - Straeon Effaith

 

Porfeydd â Gwreiddiau Dwfn

Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod glaswellt-iroedd y DU yn cael eu heffeithio’n amlach gan lifogydd a sychder. Mae gwyddonwyr IBERS wedi ymateb i’r her trwy nodi ideoteipiau gwreiddiau manteisiol gyda gwell goddefgarwch i sychder a llifogydd. Mae eu hymchwil wedi tynnu ar eu dealltwriaeth o ymddygiad gwreiddio mewn porfeydd porthiant lluosflwydd a rhywogaethau Peiswellt cysylltiedig. Er enghraifft, roedd gan borfeydd o rywogaethau Peiswellt gogledd Affrica ffenoteip gwreiddio cynt a dyfnach, ond nid oeddent yn hawdd eu treulio ac felly nid oeddent yn ddymunol fel porfa porthiant.

Trwy groesfridio â thechnegau peintio Peiswellt a chromosom, mae ein gwyddonwyr wedi datblygu rhygwellt lluosflwydd mwy cynhyrchiol a threuliadwy (rhygwellt parhaol (Lolium perenne) a rhygwellt yr Eidal (Lolium multiflorum).

Mae’r mathau newydd hyn yn cynnwys segment cromosom bach a oedd wedi’i gyflwyno trwy groesi a dethol dro ar ôl tro. Mae’r addasiad hwn hefyd wedi arwain at gynyddu dyfnder gwreiddio a thwf gwreiddiau’r rhiant Peiswellt, gan arwain at gynhyrchu dau fath newydd o Peisrygwellt gyda mwy o wydnwch i sychder a llifogydd - rhygwellt yr Eidal AberNiche a rhygwellt lluosflwydd AberRoot. Yn ogystal, oherwydd bod gan y porfeydd hyn systemau gwreiddio dyfnach, mae cywasgu pridd yn cael ei leihau a mandylledd pridd yn cynyddu, sydd yn ei dro yn lleihau dŵr a maetholion sy’n llifo o laswelltiroedd ac, felly, y risg o lifogydd a halogi’r cwrs dŵr. Mewn geiriau eraill, mae wedi bod yn bosibl cyfuno cynnydd mewn cynhyrchiant amaethyddol a geo-beirianneg fwy lleol i leihau risgiau amgylcheddol a chymdeithasol o ddŵr ffo a maetholion gormodol.