Porfeydd Siwgr Uchel - Straeon Effaith

 

Porfeydd Siwgr Uchel

Glaswelltau uchel eu siwgr: yn hybu cynhyrchiant ac yn lleihau allyriadau

Mae rhygwelltau uchel eu siwgr a fridiwyd yn IBERS yn profi llwyddiant ar draws y byd—maent yn gwella cynhyrchiant da byw ac yn lleihau ar yr un pryd yr effaith y mae ffermio glaswelltir yn ei chael ar yr amgylchedd.

Dechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu’r rhygwelltau parhaol gwell hyn yn ôl yn yr 1980au, ar sail ymchwil fanwl i fiocemeg carbohydradau planhigion a’r modd y caiff porthiant ei dorri i lawr yn stumog gyntaf (blaenstumog) defaid a gwartheg. Darganfu ymchwilwyr fod cynhyrchiant anifeiliaid yn gostwng a bod lefel y nitrogen sy’n cael ei ysgarthu’n cynyddu pan na fydd ffynonellau ynni ar gael yn hwylus i dda byw—yn enwedig carbohydradau sy’n toddi mewn dŵr (a elwir yn aml yn “siwgrau”). Mae’r nitrogen hwn, a gaiff ei ryddhau mewn wrin a dom, yn cyfrannu at lygredd dŵr, allyriadau nwyon tŷ gwydr a’r effaith a geir ar yr amgylchedd yn gyffredinol.

Trwy nodi amrywiad genetig naturiol yn y crynhoad siwgr mewn poblogaethau rhygwellt, llwyddodd gwyddonwyr IBERS i fridio mathau newydd gyda chrynoadau cyson uwch o garbohydradau toddadwy.

Canlyniad hyn oll oedd cenhedlaeth newydd o gyltifarau glaswellt uchel eu siwgr, a oedd yn  cynnwys AberDart ac AberMagic, sy’n cynnig buddion y gellir eu mesur i ffermwyr a’r amgylchedd:

  • Lefelau cynhyrchiant da byw yn uwch – sy’n golygu bod da byw yn magu mwy o bwysau cyn cael eu lladd, a’u bod yn cynhyrchu mwy o laeth
  • Lefelau effeithlonrwydd porthiant yn well – sy’n golygu bod glaswellt yn cael ei droi’n gig ac yn llaeth yn well
  • Lefel y nitrogen a gaiff ei golli a’i allyrru yn is – sy’n lleihau llygredd o systemau da byw
  • Ôl troed amgylcheddol yn llai – sy’n helpu i wneud ffermio glaswelltir yn fwy cynaliadwy

Caiff y glaswelltau hyn eu marchnata gan bartneriaid masnachol hirdymor IBERS, Germinal, ac erbyn hyn maent yn cael eu tyfu’n helaeth ledled y DU ac yn gynyddol dramor—mae hynny’n dangos sut y mae arloesi a arweinir gan ymchwil ym maes bridio planhigion yn gallu cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy i amaethyddiaeth.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythwch ein Llyfryn Straeon Achos Effaith IBERS llawn yma: Arloesiadau ar gyfer Byd sy'n Newid