Tyfu Miscanthws ar gyfer Biomas - Straeon Effaith

 

Cefnogi Ymchwil Gwymon

Wynebu Her Sero Net

Er mwyn trawsnewid i fio-economi mae angen ffynonellau cynaliadwy o biomas planhigion ar gyfer gweithgynhyrchu’n fwy gwyrdd (e.e. cemegau, deunyddiau adeiladu, a chynhyrchu dur) a thanwyddau trafnidiaeth amgen (ar gyfer cerbydau, llongau a hedfan).

Mae biomas planhigion o gnydau lluosflwydd fel Miscanthws yn hanfodol ar gyfer cyfleusterau sy'n cyfuno bio-ynni â dal a storio carbon (BECCS)—sydd yn llwybr allweddol i'r DU os yw’n mynd i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae'r dystiolaeth ar hyn o bryd yn awgrymu mai BECCS yw'r llwybr mwyaf effeithiol i dynnu carbon deuocsid o'r atmosffer, gan y gall gyflawni gostyngiadau yn gynt na phlannu coedwigoedd newydd.

Pam Miscanthws?

Er ei fod yn cael ei ddiffinio fel glaswellt trofannol, mae Miscanthws yn borthiant biomas delfrydol ar gyfer gwledydd Prydain oherwydd:

  • bod ganddo gynhyrchiant uchel hyd yn oed ar dir ymylol.
  • ei fod yn blanhigyn lluosflwydd, sy'n golygu nad oes angen aredig a phlannu bob blwyddyn.
  • ei ffotosynthesis C4, sy'n effeithlon iawn o ran dŵr a maetholion ac sydd i’w gael fel rheol mewn mathau trofannol o laswellt na allant ffynnu mewn hinsawdd tymherus.
  • ei hyblygrwydd yn wyneb amodau heriol fel tymheredd isel, sychder, a llifogydd.

Mae'r cyfuniad hwn yn gwneud Miscanthws yn unigryw ymhlith cnydau biomas, gan ei fod yn wydn yn ogystal â bod yn gynaliadwy.

Arloesi Gwyddonol yn IBERS

Mae gwyddonwyr IBERS wedi:

  • Casglu plasm cenhedlu Miscanthws o amryw amgylcheddau ledled y byd
  • Cyfuno bioleg nodweddion â chroesfridio i gynhyrchu amrywogaethau newydd sy'n addas i hinsawdd Prydain a’r tu hwnt
  • Dilyniannu genom cymhleth Miscanthws i ategu ymchwil yn y dyfodol
  • Datblygu’r agronomeg ar gyfer cynhyrchu Miscanthws ar raddfa fawr

Dyma rai o’r datblygiadau allweddol:

  • Dethol genomig er mwyn cyflymu’r cynnydd ar fridio
  • Technegau bridio cyflym i fyrhau amser cylchoedd y cnydau
  • Lluosogi drwy hadau, sy’n golygu y gellid cynhyrchu’n gyflymach ac ar raddfa fwy

Yn lle’r miloedd o flynyddoedd a gymerwyd i amaethu cnydau fel gwenith ac indrawn, datblygwyd Miscanthws i fod yn gnwd masnachol mewn cwta 20 mlynedd—yn unol â Phrotocol Nagoya'r Cenhedloedd Unedig ar fioamrywiaeth.

O Ymchwil i Fasnacheiddio

Mae rhaglen IBERS ar wella Miscanthws wedi arwain at gofrestru'r mathau cyntaf o Fiscanthws at ddefnydd biomas yn y byd (saith i gyd). Mae'r rhain wedi'u trwyddedu i'n partner diwydiannol Terravesta yn unig, yn helpu i dyfu Miscanthws ar raddfa fwy ledled Prydain ac yn rhyngwladol.

Trwy bontio rhwng gwyddoniaeth blanhigion arloesol a dulliau ffermio ymarferol, mae Miscanthws yn darparu conglfaen ar gyfer adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy, isel ei garbon.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythwch ein Llyfryn Straeon Achos Effaith IBERS llawn yma: Arloesiadau ar gyfer Byd sy'n Newid