Melysyddion Cynaliadwy - Straeon Effaith

 

Melysyddion Cynaliadwy

Melysyddion Cynaliadwy: Troi Gwastraff Amaethyddol yn Siwgr Naturiol

Mae ARCITEKBio Cyf., cwmni technoleg lân sy'n deillio o waith ymchwil IBERS, yn gweddnewid sut mae melysyddion naturiol yn cael eu gwneud. Drwy ddefnyddio biotechnoleg arloesol - mewn proses debyg i fragu - mae ARCITEKBio yn trawsnewid gwellt amaethyddol a gweddillion planhigion eraill, yn eu troi’n  sylitol, sef siwgr naturiol cynaliadwy sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.

Mae gan sylitol olwg a blas tebyg i siwgr, ond mae'n well i chi: mae ganddo 40% yn llai o galorïau, indecs glycemig isel (sy'n golygu bod y cynnydd yn y siwgr yn y gwaed yn arafach), ac mae hyd yn oed yn llesol o ran iechyd deintyddol.

Yr Her

Mae dulliau traddodiadol o gynhyrchu sylitol yn dibynnu ar brosesau cemegol sy'n defnyddio metel trwm fel catalyddion, ar dymheredd uchel, ac yn cynhyrchu llawer o wastraff. Yn ogystal â defnyddio mwy o ynni, mae hyn hefyd yn cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr a llygredd.

Yr Ateb

Mae proses eplesu patent ARCITEKBio yn defnyddio burum i droi siwgrau C5 (sylos) - sef math o siwgr a geir mewn rhannau o blanhigion, fel coesynnau planhigion grawnfwyd, nas defnyddir i gynhyrchu bwyd - yn sylitol.

Nid yw’r dull "bragu" hwn yn dibynnu ar borthiant penodol (h.y. mae'n gweithio gyda llawer o fathau o wellt a chnydau ynni pwrpasol fel Miscanthus), nid oes angen unrhyw lanhau na dadwenwyno ymlaen llaw, ac mae'n gystadleuol o ran maint a phurdeb y cynnyrch a geir.

Trwy fanteisio ar ffrydiau gwastraff o amaethyddiaeth, ac o’r diwydiannau papur a mwydion, mae ARCITEKBio yn helpu i greu economi gylchol - lle mae gwastraff yn dod yn adnodd - gan leihau ôl troed amgylcheddol cynhyrchu melysyddion.

Yr Effaith

Mae proses arloesol ARCITEKBio yn darparu manteision sylweddol i iechyd a’r amgylchedd. O'i chymharu â dulliau traddodiadol, mae'n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn defnyddio llai o ynni, ac yn troi gwastraff yn gynnyrch gwerthfawr - gan dorri gwastraff a gwella effeithlonrwydd adnoddau.

Mae'r ffordd newydd hon o gynhyrchu sylitol hefyd yn creu cyfleoedd economaidd trwy ychwanegu gwerth at sgil-gynhyrchion amaethyddol.

Mae'r effeithiau allweddol yn cynnwys:

  • Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr a defnyddio llai o ynni o'i gymharu â dulliau cynhyrchu cemegol
  • Llai o wastraff tirlenwi trwy drosi gweddillion amaethyddol yn gynhyrchion gwerthfawr
  • Ffrydiau newydd o incwm i ffermwyr trwy ddefnyddio sgil-gynhyrchion mewn modd cynaliadwy.
  • Swyddi medrus mewn cymunedau gwledig, gan gefnogi economïau lleol
  • Cynhyrchion iachach i’r cwsmer - mae sylitol yn isel ei galorïau, yn cynorthwyo ag iechyd deintyddol, ac mae'n addas i bobl sy'n rheoli diabetes

Trwy ddiwallu’r galw cynyddol am ddewisiadau amgen cynaliadwy ac iach yn lle siwgr, mae ARCITEKBio yn dangos sut y gall biotechnoleg ddarparu gwerth i’r amgylchedd a’r gymdeithas fel gilydd.

Cyfeiriadau yn y Dyfodol

Ar ôl datblygu eu proses yn llwyddiannus ar raddfa ragbrofol yng Nghanolfan Bioburo IBERS ar safle ArloesiAber, mae ARCITEKBio bellach yn paratoi i ehangu ar gyfer cynhyrchiant masnachol.

Mae'r cwmni'n bwriadu cydweithio â chanolfannau bioburo mawr yn Ewrop sy'n gallu prosesu symiau enfawr o wastraff amaethyddol. Ei amcanion nesaf yw profi cost-effeithiolrwydd y cynnyrch a mireinio blas, aroglau a golwg y cynnyrch terfynol fel y bydd yn bodloni disgwyliadau byd busnes a’r cwsmer fel ei gilydd.

Bydd yr ymchwil yn y dyfodol yn canolbwyntio ar wneud yr eplesu’n fwy effeithlon ac ystyried ffyrdd newydd o fanteisio ar y dechnoleg.

Casgliad

Mae ARCITEKBio Cyf. yn dangos y grym sydd gan fiotechnoleg i fynd i'r afael â heriau byd-eang o safbwynt cynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Trwy droi gwastraff amaethyddol yn felysydd naturiol gwerthfawr, mae'r cwmni'n helpu i leihau gwastraff, lleihau allyriadau, a chefnogi economi gylchol - gan, ar yr un pryd, ddarparu opsiynau iachach i gwsmeriaid ledled y byd.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythwch ein Llyfryn Straeon Achos Effaith IBERS llawn yma: Arloesiadau ar gyfer Byd sy'n Newid