Systemau Pori Ucheldir - Straeon Effaith
Systemau Pori Ucheldir
Systemau Pori Ucheldiroedd: Sicrhau’r Cynhyrchiant Mwyaf Posib mewn Amgylcheddau Heriol
Yr Her
Mae bron i hanner o dir amaethyddol gwledydd Prydain wedi’i ddiffinio’n ucheldir—ardaloedd sydd â phridd tlawd o ran maetholion, llethrau serth, ac amodau hinsawdd garw. Mae'r anfanteision naturiol hyn yn aml yn cyfyngu’r dewisiadau ffermio i gynhyrchu da byw ar laswelltir, gan nad yw'r tir yn addas i dyfu cnydau âr.
Er gwaethaf yr heriau hyn, mae ffermio da byw ar ucheldiroedd hefyd yn cynnig manteision clir. Mae'n helpu i ddiogelu cyflenwadau bwyd ac ar yr un pryd yn osgoi cystadleuaeth am dir y gellid ei ddefnyddio i dyfu cnydau bwyd i bobl.
Yr Ymchwil
Yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir IBERS ym Mhwllperian, mae ein tîm o arbenigwyr ffermio ucheldir yn ymchwilio i sut i wneud y gorau o'r tirweddau heriol hyn. Un o’r prif feysydd y canolbwyntir arnynt yw defnyddio maetholion yn fwy effeithlon mewn systemau pori i hybu cynhyrchiant heb ychwanegu porthiant na gwrtaith—sy’n fanteisiol i’r ffermwyr a'r amgylchedd fel ei gilydd.
Un canfyddiad allweddol yw bod pori defaid ar y cyd â gwartheg yn gwella cynhyrchiant defaid o'i gymharu â systemau defaid yn unig. Mae hyn yn arwain at allbwn uwch fesul uned arwynebedd. Mae'r rheswm am hyn i’w weld yn ffisioleg ac ymddygiad pori'r anifeiliaid:
- Mae gwartheg yn llai detholus wrth bori, yn bwyta planhigion talach â choesynnau hir y mae defaid yn eu hosgoi.
- Mae hyn yn gadael planhigion mwy maethlon, fel meillion, i’r defaid.
Y canlyniadau?
- Defnyddio porfeydd yn fwy effeithlon
- Cyfraddau twf uwch ymhlith ŵyn
- Llai o allyriadau methan fesul uned o gig a gynhyrchir
Un canfyddiad pwysig yw bod y manteision hyn yn digwydd ni waeth a yw’r defaid a’r gwartheg yn cyd-bori (pori cymysg) yn yr un maes, neu fod y defaid yn pori’r tir ar ôl y gwartheg (pori cylchdro).
Manteision i’r Amgylchedd
Yn ogystal â materion cynhyrchiant, mae pori gwartheg yn helpu i reoli llystyfiant. Trwy leihau goruchafiaeth rhywogaethau hynod gystadleuol o laswellt mynydd, mae gwartheg yn creu amodau sy'n gwella gwerth ecosystemau rhostiroedd fel cynefinoedd - y mae llawer ohonynt yn destun pryder cadwraeth yn rhyngwladol.
Yr Effaith
Mae ymchwil IBERS i systemau pori ucheldirol wedi cyfrannu at feysydd:
- Polisi amaethyddol
- Datblygu cynlluniau amaeth-amgylcheddol
- Cyrff ardollau a chanllawiau'r diwydiant i ffermwyr
Trwy gyfuno dealltwriaeth wyddonol â dulliau o roi’r wybodaeth ar waith yn ymarferol, rydym yn helpu ffermwyr i sicrhau’r cynhyrchiant a’r gwerth ecolegol mwyaf posib yn ucheldiroedd gwledydd Prydain.
Lawrlwythiadau
Lawrlwythwch ein Llyfryn Straeon Achos Effaith IBERS llawn yma: Arloesiadau ar gyfer Byd sy'n Newid