Gwobr Addysg Uwch y Frenhines

Dyfarnu Gwobr Addysg Uwch y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth

Dyfarnwyd Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud heno (Nos Fercher 18 Tachwedd) mewn derbyniad arbennig ym Mhalas Sant James gan Sefydlydd a Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Coroni Brenhinol, Robin Gill CVO.

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) sydd wedi cyfuno gwaith ymchwil hanfodol i eneteg planhigion gyda thechnegau bridio planhigion yn llwyddiannus er mwyn datblygu mathau o blanhigion sydd yn gwerthu yn dda ac sydd yn ymateb i’r heriau o sicrhau cyflenwadau o fwyd, dŵr ac ynni, a chynaliadwyedd amgylcheddol sydd yn wynebu cymunedau ar draws y byd.

Mae’r mathau o blanhigion yn cynnwys gweiriau pori uchel eu siwgr sydd yn hawddach eu treulio, meillion gwyn sy’n fwy gwydn a chyson, ceirch o safon uchel, gweiriau chwaraeon gwell, a miled perlog (pearl millet) sydd yn medru gwrthsefyll heintiau ac a ddatblygwyd gyda bridwyr yn India.

Mae’r wobr hefyd yn cydnabod y ffordd y mae dysgu ac ymchwil ôl-raddedig mewn bridio planhigion a’r gwyddorau biolegol yn IBERS, sydd yn cyfuno sgiliau ymarferol â thechnegau genetig uwch, yn helpu i greu cenhedlaeth newydd o fridwyr planhigion.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Rwyf yn falch iawn fod Gwobr y Frenhines wedi ei dyfarnu i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n gadarnhad o bwysigrwydd y gwaith sydd yn cael ei wneud yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

“Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i ymateb i’r materion pwysig ym maes gwyddor tir, ac er mwyn gwneud hynny mae gofyn magu ystod eang o arbenigedd. Mae yna gysylltiad di-dor rhwng ymchwil gwyddonol a dyfeisgarwch, ac mae trosglwyddo gwybodaeth wyddonol a thechnegol er mwyn cefnogi diwydiannau’r tir a datblygu polisi cyhoeddus yn nod pwysig iawn. Llongyfarchiadau cynnes iawn i bawb sydd yn ymwneud â’r gwaith yma sydd wedi arwain at gydnabyddiaeth mor nodedig.”

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS:
“Mae’n bleser gennyf dderbyn y wobr bwysig hon ar ran y gwyddonwyr a’r staff medrus ac ymroddgar yn IBERS. Mae’n gydnabyddiaeth o ymroddiad a gweledigaeth criw o bobl o’r radd flaenaf sydd wedi bod yn gweithio ar fridio planhigion yn Aberystwyth dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, ac a adeiladodd ar sail gwaith sydd yn ymestyn dros y 90 mlynedd ers i’r Brifysgol sefydlu Bridfa Blanhigion Cymru yn 1919.”
“Mae’n fraint i IBERS gael adeiladu ar y seiliau yma o wybodaeth, medrusrwydd a chyraeddiadau er mwyn cofleidio ymchwil sydd yn cael ei yrru gan yr angen i ddarganfod a datrys er mwyn cael atebion i rai o’r anghenion enbyd sydd yn wynebu’r blaned.”

Mae Gwobr Addysg Uwch a Phellach y Frenhines yn cael ei dyfarnu bob yn ail flwyddyn i sefydliadau addysg uwch a phellach ar draws y Deyrnas Gyfunol am waith o ragoriaeth eithriadol. Mae’n dathlu llwyddiant o safon fyd-eang ac yn adlewyrchu amrywiaeth a safon uchel y gwaith sydd yn cael ei wneud yn ein prifysgolion a’n colegau addysg bellach.

Ffurfiwyd y Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym mis Ebrill 2008 yn dilyn uno Sefydliad Ymchwil yr Amgylchedd a Thir Glas, a oedd yn rhan o Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnolegol, Biolegol (BBSRC), â Phrifysgol Aberystwyth. Mae IBERS yn parhau i dderbyn arian sylweddol oddi wrth y BBSRC ar gyfer ymchwil ac mae’n elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

Gweledigaeth y sefydliad yw bod ymhlith y tair adran Prifysgol bwysicaf yn y byd ym maes defnydd tir. Agwedd bwysig iawn ar yr weledigaeth hon yw’r ymroddiad i adfywio amaethyddiaeth yn y Deyrnas Gyfunol a chefnogi cynaliadwyedd a hyfywedd yr economi wledig drwy sefydlu cysylltiadau uniongyrchol rhwng cymunedau amaethyddol, byd masnach, ac academyddion.

Mae gan IBERS 350 o staff, trosiant blynyddol o £25 miliwn a hi yw’r adran wyddonol fwyaf yn y Deyrnas Gyfunol sydd yn gweithio ym maes gwyddoniaeth tir. Mae buddsoddiad sylweddol o £55 miliwn ar y gweill ar hyn o bryd er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon.

Y prif gnydau sydd yn ganolbwynt y gwaith bridio planhigion o fewn IBERS:

Gweiriau pori uchel eu siwgr sydd yn hawddach eu treulio
Mae bridio gweiriau pori’r Sefydliad wedi cynhyrchu mathau o rygwellt sydd yn uchel iawn eu cynnwys o siwgr ac sydd yn darparu ynni ychwanegol er mwyn i’r protein sydd yn y planhigion drosglwyddo’n fwy effeithiol i’r anifeiliaid cnoi-cil. Roedd y mathau hŷn o rygwellt, megis S.23 a ryddhawyd yn 1930, yn cynnwys, ar gyfartaledd, 19% o garbohydrad toddadwy. Cododd rhaglenni bridio, a ddechreuodd yn y Sefydliad yng nghanol yn 1980au, y ffigwr i 23% yn ‘AberDart’, a gafodd ei ryddhau yn 1999. Gwobrwywyd ‘AberDart’ gyda chwpan y Sefydliad Botaneg Amaethyddol Cenedlaethol (NIAB) yn 2003. Codwyd y ffigwr yn bellach i 28% gydag ‘AberMagic’ gafodd ei ryddhau yn 2007.

Mae gweiriau a ddatblygwyd gan y Sefydliad yn cyfri am 33% o’r farchnad mewn hadau rhygwellt porthiant yn y Deyrnas Gyfunol a 11% o’r farchnad gweiriau chwarae, marchnadoedd sydd cynrychioli gwerthiant o fwy na £5m.

Meillion gwyn mwy gwydn a chyson
Mae’r Sefydliad wedi cynhyrchu mathau newydd o feillion gwyn a choch sydd yn fwy gwydn, dibynadwy ac abl i wrthsefyll pwysau biotig ac anfiotig. Mae'r rhain yn cynnwys y mathau o feillion gwyn ‘AberHerald’ ac ‘AberDai’ a gafodd eu rhyddhau yn y 1990au, ac yna ‘AberConcord’ ac ‘AberAce’ sydd wedi eu rhyddhau ers 2000. Wedi toriad hir ailddechreuodd y gwaith o fridio meillion coch yn 1998. Eisoes cynhyrchwyd dau fath hynod lwyddiannus ‘AberRuby’ ac ‘AberBlaze’.

Ar hyn o bryd mae mathau o feillion gwyn a fridiwyd gan y Sefydliad yn cyfri am dros 40% o’r farchnad yn y Deyrnas Gyfunol, sydd yn cyfateb i oddeutu 130,000 hectar y flwyddyn.

Ceirch o Safon Uchel
Mae bridio ceirch yn y Sefydliad wedi creu mathau sydd yn torri tir newydd yn y maes, megis ‘Gerald’ (rhestrwyd yn 1993) math o geirch gaeaf gwelltyn byr a enillodd Gwpan Grawn NIAB am ei gyfraniad eithriadol i ffermio tir âr yn 2002. Daeth ‘Kingfisher’ a ‘Millenium’ i’w ddilyn yn 1999 a 2000. Yn 2004 ychwanegwyd math arall o geirch gaeaf, ‘Mascani’, am ei gyfuniad o gnwd trwm a safon malu eithriadol ac yna ‘Tardis’ a ‘Brochan’ yn 2007. Mae ‘Tardis’ yn fath sydd yn cyfuno cnydio trwm â gallu gwych i wrthsefyll llwydni a rhwd, ac mae ‘Brochan’ yn meddu ar goes fer iawn sydd yn cael ei chysylltu ag adeiladwaith planhigion newydd. Cynhyrchwyd pum math o geirch gaeaf noeth sydd yn arloesol yn y maes: ‘Kynon’ (1990), ‘Grafton’ (2000), ‘Hendon’ (2003), ‘Expression’ (2004) a ‘Racoon’ (2005).

Mae mathau o geirch o’r Sefydliad yn cyfri am 70% o’r farchnad hadau ceirch yn y Deyrnas Gyfunol sydd yn werth mwy na £2m. ‘Gerald’ yw’r math o geirch gaeaf sydd yn cael ei dyfu fwyaf gyda 45% o’r farchnad, ac mae un math o geirch byr noeth a ddatblygwyd gan y Sefydliad yn cyfri am ryw 5% o’r holl gnwd ceirch gaeaf. 

Gwell Gweiriau Chwarae
Mae gwaith bridio gweiriau chwarae wedi cael llwyddiannau mawr ac wedi cynhyrchu mathau arloesol ers 2000 megis ‘AberElf’, ‘AberImp’ ac ‘AberSprite’. Mae ‘AberImp’ ac ‘AberSprite’ yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd mewn llefydd uchel eu bri megis Clwb Tenis Lawnt a Chroce Lloegr Gyfan yn Wimbledon. Llwyddiant nodedig arall oedd y borfa fythol wyrdd gyntaf, ‘AberNile’.

Miled perlog sydd yn gwrthsefyll heintiau
Mae gwyddonwyr o’r Sefydliad wedi datblygu math newydd o filed perlog sydd yn medru gwrthsefyll ymosodiadau gan lwydni, mewn cydweithrediad â bridwyr yn India. Yn 2005 rhyddhawyd “HHB 67 Improved” i’w dyfu yn yr ardal sych yng ngogledd orllewin India lle'r oedd 500,000 hectar o’r math blaenorol yn cael ei dyfu bob blwyddyn.

Manylion pellach:
Dawn Havard, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth
01970 628440 / 07779 645 598 / dbh@aber.ac.uk
Arthur Dafis, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk