Dull hidlo arloesol yn addo diodydd protein sy’n blasu’n well

Alun Hughes, Gwyddonydd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn IBERS a weithiodd ar yr ymchwil, gyda'r cyfleusterau bioburo a ddefnyddiwyd
08 Ebrill 2026
Mae gwaith gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi helpu i ddangos y gallai newidiadau bach i’r ffordd y caiff maidd ei brosesu wella blas a gwead diodydd protein.
Mae diodydd protein yn cael eu defnyddio'n helaeth gan athletwyr, pobl sy'n chwilio am ffyrdd cyfleus o gael maeth, a'r rhai sy'n ceisio cynnal màs y cyhyrau wrth iddynt fynd yn hŷn.
Yn y cydweithrediad diweddaraf rhwng ymchwilwyr Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Reading, ac Arla Foods Ingredients, datblygodd y tîm ddull i grynodi proteinau o faidd yn ddetholus gan ddefnyddio techneg hidlo unigryw. Cynhyrchodd hyn fwy na dwbl y crynodiad arferol o alffa-lactalbwmin, sef protein allweddol mewn fformiwla babanod. Fodd bynnag, canfuwyd bod y ffordd y mae mwynau’n cael eu hidlo yn ystod y broses gynhyrchu yn hanfodol i flas a gwead diodydd sy’n cynnwys protein maidd.
Mae’r tîm ymchwil bellach wedi gwella’r dull hidlo hwn gan ddefnyddio cyfleusterau bioburo yn ArloesiAber, er mwyn cynhyrchu sampl wedi’i chyfoethogi o alffa-lactalbwmin ac i werthuso ei effaith ar flas a gwead. Canfu panel synhwyraidd hyfforddedig fod y cynnyrch maidd wedi’i gyfoethogi yn fwy chwerw a phupuraidd, ond bod ganddo wead gwell a llai o ffrithiant wrth ei yfed.
Canfu ymchwil bellach fod y blas chwerw a phupuraidd yn deillio o fwynau a oedd wedi cronni yn ystod y treialon cynnar, yn hytrach nag o’r protein maidd ei hun. Wedyn, llwyddodd yr ymchwilwyr i fireinio’r broses hidlo, gan wella blas y ddiod wrth gadw’r gwead gwell.
Dywedodd Dr David Warren-Walker, Uwch Wyddonydd Datblygu Biobrosesau yn IBERS: “Mae ein hymchwil wedi dangos, drwy ddefnyddio technegau hidlo soffistigedig, ei bod yn bosibl gwella blas a gwead protein maidd. Gallai hyn fod yn newyddion da iawn i wneuthurwyr diodydd protein gan y gallai wneud eu diodydd yn fwy dymunol i’w hyfed. Cynhaliwyd yr ymchwil hon ar raddfa beilot gan ddefnyddio offer a thechnegau sy’n berthnasol i’r diwydiant, felly byddai’n hawdd i weithgynhyrchwyr diodydd protein ei hatgynhyrchu.”
Dywedodd Holly Giles, Ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Reading, a arweiniodd y prosiect cydweithredol: "Yn aml, mae gan ddiodydd protein broblemau o ran gwead, gan eu gwneud yn anodd eu llyncu a'u gorffen. Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn broblem wirioneddol i lawer o bobl, p'un a ydyn nhw'n ceisio adeiladu cyhyrau neu gynnal eu cryfder wrth iddynt fynd yn hŷn.
“Mae’r blas chwerw yn deillio’n rhannol o fwynau yn hytrach nag o’r protein ei hun, yn ogystal â’r gwahanol broffiliau blas sydd gan y proteinau unigol. Mae'r canfyddiad hwn yn rhoi cyfeiriad clir i ni ar gyfer gwneud diodydd protein yn fwy dymunol i’w hyfed, a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r bobl sy'n dibynnu arnynt."
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn yr International Dairy Journal a dyma'r trydydd cydweithrediad yn y maes hwn rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Reading.