Datgelu cyfrinachau dom alpacaod a defaid i helpu i ddiogelu glaswelltiroedd y byd

Alpacaod yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran Prifysgol Aberystwyth

Alpacaod yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran Prifysgol Aberystwyth

14 Ebrill 2026

Mae gwyddonwyr yn astudio dom alpacaod a defaid a gesglir yn ucheldiroedd Cymru fel rhan o ymdrechion i ddiogelu glaswelltiroedd a bywyd gwyllt ledled y byd. 

Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu arbenigwyr anifeiliaid ac ecoleg yw pennu’r dull gorau o benderfynu beth mae gwahanol anifeiliaid pori yn ei fwyta.

Defnyddiwyd llawer o wahanol ddulliau dros y blynyddoedd, gan gynnwys ceisio adnabod darnau bach o blanhigion wedi'u treulio, a chreu proffiliau o gyfansoddion dethol.

Mae astudiaeth newydd, dan arweiniad gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cymharu’n uniongyrchol y gwahanol dechnegau hyn am y tro cyntaf.

Mewn treialon bwydo a reolir yn ofalus yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran, mae alpacaod a defaid wedi cael eu bwydo â chyfuniadau cymysg o wahanol fathau o borfa.

Yna mae'r tîm ymchwil yn profi gwahanol ddulliau ar gyfer darganfod dietau'r anifeiliaid - bydd samplau o'u baw yn cael eu dadansoddi gyda dadansoddiadau metabarcodio DNA, microhistolegol, n-alcan ac alcohol cadwyn hir.

Bydd canlyniadau'r astudiaeth, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Joy Welch, yn dylanwadu ar y ffordd y mae gwybodaeth am ddeietau anifeiliaid yn cael ei chasglu yn ystod arbrofion pori yn y dyfodol ledled y byd.

Mae glaswelltiroedd a thir pori yn cyfrif am oddeutu dwy ran o dair o dir amaethyddol y byd. Yn ogystal â bod yn ffynhonnell bwysig o fwyd, maent yn gartref i fywyd gwyllt gwerthfawr, treftadaeth ddiwylliannol, cyflenwadau dŵr ac yn amsugno allyriadau carbon.

Bydd darganfod beth mae porwyr yn ei fwyta yn helpu i gefnogi ymdrechion i adfer bioamrywiaeth mewn tirweddau gwarchodedig, gan gynnwys parciau cenedlaethol.

Er enghraifft, mae gwyddonwyr ym Mheriw yn astudio'r diet a'r defnydd o borthiant i helpu’r vicuña, camelid gwyllt, a da byw domestig byw ochr yn ochr â’i gilydd yn yr Andes uchel.

Mae gwyddonwyr yn dweud bod angen strategaethau newydd ar gyfer rheoli ble mae anifeiliaid yn pori i adfer mawndiroedd bregus sy'n storio carbon ledled y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd.

Y cymunedau llystyfiant cyfatebol yn Ne America yw bofedales - gwlyptiroedd bioamrywiol mewn ardaloedd mynyddig sy'n hanfodol wrth gadw dŵr a storio deg gwaith yn fwy o garbon na thir mawn mwy cyffredin.

Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd hyn ar hyn o bryd yn cael eu gorbori'n drwm a nod yr astudiaeth yn y pen draw yw helpu i ddatblygu strategaethau i'w hamddiffyn.

Dywedodd Mariecia Fraser, Athro Ecosystemau Amaethyddol yr Ucheldir a Phennaeth Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Wrth astudio anifeiliaid sy’n pori, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu gwyddonwyr anifeiliaid ac ecolegwyr yw gwybod pwy fwytaodd beth. Os gallwn ni ddeall yn iawn beth mae'r anifeiliaid pori hyn yn ei fwyta, gall ddatgloi ffyrdd newydd o ffermio a chadwraeth a fydd yn helpu i wella bywoliaeth pobl a'r amgylchedd.

“Ar hyn o bryd mae pobl yn ymchwilio dietau anifeiliaid mewn amrywiaeth o ffyrdd, ond dydyn ni ddim yn gwybod pa un sydd orau. Dyma'r tro cyntaf i dechnegau amgen gael eu cymharu'n uniongyrchol. Ein gobaith yw y gall y gwaith hwn - sy'n cynnwys rhai o'r arbenigwyr gorau ledled y byd - roi ateb pendant i ni ar sut i wir ddeall dietau anifeiliaid. Po fwyaf y gallwn ni fireinio techneg, gorau oll yw'r siawns sydd gennym ni o warchod porwyr a glaswelltiroedd.

“I lawer o gymunedau, fel y rhai yn yr Andes, mae da byw yn ffynhonnell incwm hanfodol. Mae'r ardaloedd hyn hefyd yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd gyda mawndiroedd a rhywogaethau hynod werthfawr. Rydym ni’n gobeithio y bydd y gwaith hwn yn helpu'r cymunedau hyn i lunio eu strategaethau eu hunain sy'n diwallu eu hanghenion ac anghenion y blaned.”

Bydd yr ymchwilydd Katherine Capuñay Sanchez o Labordy Ecoleg a Defnyddio Tiroedd Coedwig Universidad Nacional Agraria La Molina (UNALM) ym Mheriw yn defnyddio microhistoleg ysgarthion i bennu diet y llysieuwyr hyn.

Ychwanegodd: “Gan ddefnyddio'r dechneg hon, byddwn ni’n archwilio'r ysgarthion yn weledol trwy ficrosgop, gan adnabod darnau planhigion epidermaidd ac an-epidermaidd sy'n bresennol yn neiet alpacaod a defaid. Mae microhistoleg ysgarthion yn cynnwys cymharu'r darnau hyn â phatrymau meinweoedd planhigion, gan ganiatáu i ni benderfynu pa rywogaethau planhigion sydd wedi'u llyncu, hyd yn oed ar ôl treulio. Drwy ddeall yn union beth mae'r llysieuwyr hyn yn ei fwyta, byddwn ni’n gallu cynnig argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli da byw yn gynaliadwy ac ar gyfer cadwraeth rhywogaethau gwyllt, tra hefyd yn diogelu ecosystemau ucheldiroedd bregus a hyrwyddo strategaethau pori sy'n fuddiol i fioamrywiaeth a chymunedau lleol.”

Bydd yr Athro Luis Ferreira ym Mhrifysgol Trás-os-Montes ac Alto Douro ym Mhortiwgal yn cynnal y dadansoddiad o n-alcan ac alcohol cadwyn hir. Dywedodd: “Bydd y dadansoddiad sy’n cael ei gynnal yn Labordy Maeth Anifeiliaid UTAD, Portiwgal, yn caniatáu nodweddu baw alpaca a defaid yn ogystal â samplau o rywogaethau llystyfiant yr ardaloedd bioamrywiol pori lle mae’r anifeiliaid hyn yn cael eu cadw, o ran proffiliau n-alcan ac alcohol cadwyn hir.

Ceir y proffiliau hyn trwy ddadansoddiad cromatograffig nwy hynod sensitif a’u nod yw deall sut mae’r anifeiliaid hyn yn defnyddio porfeydd bioamrywiol, gan gynnig dealltwriaeth newydd o bosibl ar gyfer rheoli da byw yn gynaliadwy.”

Ychwanegodd yr Athro Fraser o Brifysgol Aberystwyth: “Mae hon yn bartneriaeth ryngwladol hanfodol – rhwng Cymru, Periw a Phortiwgal – sy’n edrych ar gyfleoedd ar gyfer ymchwil gydweithredol a allai amddiffyn bioamrywiaeth yn ogystal â gwella iechyd a chynhyrchiant da byw, a chefnogi bywoliaeth cymunedau gwledig ledled y byd – gan gynnwys yr Andes ac ardaloedd ucheldir Cymru.”

Mae’r bartneriaeth rhwng Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran Prifysgol Aberystwyth ac Universidad Nacional Agraria La Molina ym Mheriw wedi’i chefnogi gan y BBSRC a Chronfa Ymchwil Heriau Byd-eang UKRI.