Fforwm Organig Cymru yn ymweld ag IBERS i edrych ar bori cynaliadwy ac arloesi cnydau
04 Mehefin 2026
Yn ddiweddar, croesawodd IBERS oddeutu 20 aelod o Fforwm Organig Cymru i Blas Gogerddan ar ymweliad a oedd yn canolbwyntio ar ymchwil i gefnogi systemau ffermio cynaliadwy ac organig.
Dechreuodd yr ymweliad gyda chyflwyniad gan Mark Needham (Rheolwr Cysylltiadau Amaeth), a amlinellodd feysydd ymchwil allweddol IBERS, gan gynnwys systemau glaswelltir, cynhyrchiant da byw, a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Cyflwynodd Dr Hannah Vallin ymchwil ar ymddygiad pori a chyfansoddiad dietegol, gan dynnu sylw at y defnydd o Fetafargodio DNA (technolegau eDNA) i nodi'r rhywogaethau o blanhigion sy'n cael eu bwyta gan dda byw. Dangosodd y rhai oedd yn bresennol gryn ddiddordeb yn y dull hwn, yn enwedig o ran ei botensial i wella dealltwriaeth wrth ddewis diet, gwella iechyd da byw, a chynaliadwyedd fferm.
Yna ymwelodd y grŵp â'r lleiniau ymchwil Germinal, lle bu Dr David Lloyd (IBERS) a Jim Vale (Germinal) yn arddangos y gwaith bridio glaswellt, meillion a chodlysiau eraill. Prif bwnc y trafodaethau oedd swyddogaeth y glastiroedd sy'n gyfoethog o godlysiau wrth sefydlogi nitrogen biolegol a'u pwysigrwydd mewn systemau organig.
Roedd gan yr ymwelwyr ddiddordeb arbennig yn natblygiad mathau o feillion coch sydd â gwreiddiau dwbl. Mae’r rhain yn fwy dygn ac yn cynnig gwell potensial i sefydlogi nitrogen ar gyfer systemau porthiant.
Y man aros olaf oedd llwyfan pori Tŷ Hen ar Fferm Penglais, dan arweiniad Dr Christina Marley a Dr Rhun Fychan. Yma, edrychodd y grŵp ar systemau pori da byw sy’n seiliedig ar lastiroedd cymysg, gan gynnwys gwyndonnydd llysieuol a chymysgeddau llawn Pys-y-ceirw. Gwelwyd ar y llwyfan ddulliau ymarferol i wella cynhyrchiant, iechyd y pridd, a chanlyniadau amgylcheddol.
Gwelwyd yn ystod yr ymweliad bod diddordeb cryf gan Fforwm Organig Cymru yn y canlynol:
- Profi’r amrywiadau a fridir yn IBERS o dan amodau organig
- Ymwneud â Her Graddiant Tir IBERS
- Ystyried cyfleoedd i gydweithio
Ar y cyfan, bu’r ymweliad yn fodd i bwysleisio’r budd a geir wrth gysylltu ymchwil, arloesi, a systemau ffermio
![]() |
![]() |
|---|---|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |





