Dr Manod Williams BSc Amaethyddiaeth a Gwyddor Da Byw (PA), MSc Gwyddor Da Byw (PA), PhD Hwsmonaeth Manwl-Gywir Da Byw (PA), TUAAU (PA)

Dr Manod Williams

Darlithydd mewn Biomilfeddygaeth a Gwyddor Anifeiliaid

Adran y Gwyddorau Bywyd

Manylion Cyswllt

Proffil

Graddiais gyda BSc mewn Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Yna bues yn ffodus i ennill ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i astudio ar gyfer MSc mewn Gwyddor Da Byw ac yna PhD yn y gwyddorau da byw eto yn IBERS. Canolbwyntiodd fy PhD ar ddatblygu technegau i nodi ymddygiad gwartheg godro ar dir pori yn awtomatig gan ddefnyddio synwyryddion arwahanol, yn y pen draw i gefnogi ffermwyr fel offeryn rheoli. Fel rhan o ysgoloriaeth y CCC, roeddwn yn ymwneud â datblygu darpariaeth addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Systemau Cynhyrchu Da Byw. Ar hyn o bryd rwy'n addysgu Systemau Cynhyrchu Da Byw i bob blwyddyn israddedig FdSc a BSc yn ogystal â myfyrwyr MSc. Rwyf hefyd yn cyfrannu at sawl modiwl arall gan gynnwys Maeth Da Byw, Adolygiad Critigol a Dulliau Ymchwil.

Dysgu

Module Coordinator
Coordinator
Lecturer
Tutor
Moderator
Grader

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil ym maes technegau Ffermio Da Byw Manwl-gywir (FfDBMG) i gynorthwyo ffermwyr i reoli eu da byw. Mae FfDBMG eisoes yn cyfrannu at reoli da byw ar lefel fferm, gan ganiatáu i ffermwyr, ymarferwyr milfeddygol ac eraill sy'n gysylltiedig gael mwy o wybodaeth ar sut mae eu hanifeiliaid yn ymddwyn ac yn perfformio. Gyda'r wybodaeth hon, efallai y bydd modd nodi materion yn gynharach, gan gynnwys materion sy'n arwain at berfformiad a lles gwael.

Cyfrifoldebau

Rwy'n cydlynu ac yn dysgu ar sawl modiwl israddedig ac ôl-raddedig gyda ffocws ar Systemau Cynhyrchu Da Byw yn yr Adran Gwyddorau Bywyd (AGB). Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr Marchnata a Recriwtio yn yr adran (AGB).

Grwpiau Ymchwil