Dr Rhys Jones

Dr Rhys Jones

Darlithydd Gwyddor Da Byw a’r Amgylchedd (Cyfrwng Cymraeg)

Adran y Gwyddorau Bywyd

Manylion Cyswllt

Proffil

Graddiais o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd BSc (1af) Amaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid (2013) a gradd MSc (Rhagoriaeth) Gwyddor Da-byw (2014). Yn 2017, cyflwynais draethawd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar y testun ‘Epidemioleg Llyngyr y Rwmen (Calicophoron daubneyi) ar ffermydd Cymru’. Yn ystod y PhD, defnyddiais dechnegau molecwlar a modelu cyfrifiadurol i ymchwilio epidemioleg llyngyr y rwmen o fewn da-byw a’i falwen letyol. Cefais fy mhenodi yn ddarlithydd Gwyddor Da-byw a’r Amgylchedd (Cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Aberystwyth ym Medi 2017.

Rwy’n wreiddiol o ogledd Cymru, lle gefais fy magu ar fferm ucheldir bîff a defaid. Rwyf yn dal â diddordeb yn y fferm deuluol yn ogystal â materion amaethyddol cyffredinol. Diddordebau eraill sydd gennyf yw pêl-droed a rygbi.

Ymchwil

Mae fy niddordeb ymchwil o fewn y maes parasitoleg milfeddygol. Yn benodol, rwyf â diddordeb mewn datblygu technegau cynaliadwy i reoli parasitiaid ar ffermydd. Ar y funud mae fy ymchwil yn ffocysu ar lyngyr yr iau, llyngyr y rwmen, malwod lletyol ganolradd megis Galba truncatula ac ar nematodau gastroberfeddol sy'n heintio defaid a gwartheg. Yn ddiweddar rwyf wedi defnyddio technegau dadansoddiad DNA amgylcheddol (eDNA), dilyniannu amplicon dwfn, modelu gofodol, dulliau parasitoleg traddodiadol, a thechnoleg da byw manwl gywir i fodloni nodau ymchwil.

Cyfrifoldebau

Arweinydd grŵp addysgu cyfrwng Cymraeg DLS

Cydlynydd cynllun FDSc Amaethyddiaeth

Aelod o  Fwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio

Grwpiau Ymchwil

Cyhoeddiadau

Williams, EG, Williams, HW, Brophy, PM, Evans, SR, McCalman, H & Jones, RA 2024, 'Assessing periparturient ewe characteristics and nemabiome composition to guide targeted selective treatment for sustainable gastrointestinal nematodes control in sheep', Animal, vol. 18, no. 6, 101156. 10.1016/j.animal.2024.101156
Jones, RA, Davis, CN, Nalepa‐Grajcar, J, Woodruff, H, Williams, HW, Brophy, PM & Jones, E 2024, 'Identification of factors associated with Fasciola hepatica infection risk areas on pastures via an environmental DNA survey of Galba truncatula distribution using droplet digital and quantitative real-time PCR assays', Environmental DNA, vol. 6, no. 1, e371. 10.1002/edn3.371
Jones, R 2024, 'Mapping the discrepancy between farmer perception of liver fluke infection risk areas and actual G. truncatula habitats on Welsh farms.', British Association for Veterinary Parasitology, Bristol, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 29 Aug 2024 - 30 Aug 2024.
Hughes, MEF, Phillips, EJ & Jones, R 2023, 'Supplementation of minerals and vitamins influences optimal targeted selective treatment thresholds for the control of gastro-intestinal nematodes in lambs', Veterinary Parasitology, vol. 322, 110026. 10.1016/j.vetpar.2023.110026, 10.1016/j.vetpar.2023.110026
Jones, RA, Williams, HW, Mitchell, S, Robertson, S & Macrelli, M 2022, 'Exploration of factors associated with spatial−temporal veterinary surveillance diagnoses of rumen fluke (Calicophoron daubneyi) infections in ruminants using zero-inflated mixed modelling', Parasitology, vol. 149, no. 2, pp. 253-260. 10.1017/S0031182021001761
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil